Y Fargen

Y FargenDiwrnod o’r blaen cefais ebost oddi wrth Rhodri hefo linc i’r film fer yma wnaeth o a James Nee ei chynhyrchu yn 2005.

Mae Rhodri newydd ei gwneud hi ar gael ar y we am y tro cyntaf yn ddiweddar a dwi’n hynod falch bod hyn wedi digwydd. Stori dda, lleoliad da, actorion da a chynhyrchu da iawn.

Mae Rhodri wrth gwrs yn aelod o dîm Metastwnsh felly dylsia ni ddefnyddio’r wefan yma i helpu hybu y ffilm fer yma. Mae ‘mond yn deg.

Wnes i wylio hi y noson o’r blaen yn weddol hwyr yn y nos a doeddwn i ddim yn gwybod be i ddisgwyl (mwynhau wnes i).

Felly i chwi sydd heb ei gweld hi, dwi wedi ychwannegu y ffilm i Metastwnsh. Yn ogystal at fersiwn sydd yma, mae un gyda subtitles ar gael hefyd.

Mwynhewch!!

Y Fargen (ffilm fer gan James Nee a Rhodri ap Dyfrig) from Rhodri ap Dyfrig on Vimeo.

Fersiwn gyda is-deitlau yma

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Dim sylwadau eto.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)