Y Chwyldro Twitter- yr angen am adnewyddiad democrataidd?

Mae Bethan Jenkins AC wedi cytuno i ysgrifennu erthygl i metastwnsh.com ar rôl Twitter mewn adnewyddiad democrataidd.  Felly diolch i ti Bethan! – Aled Wyn

Yfory byddaf yn cyflwyno dadl fer yn y Cynulliad i drafod sut mae defnydd o’r we a thechnoleg wedi esblygu, a’u heffaith ar systemau democrataidd. Dwi ddim am ddweud gormod am gynnwys fy araith, ond rwy’n bwriadu dangos clipiau ar ffilm o sut mae pobl yn cyfathrebu gyda gwleidyddion ar y we, pa mor effeithiol ydyw, a sut medrwn datblygu ar hyn.  Dwi hefyd yn awyddus i bobl cymryd rhan yn y drafodaeth ar twitter trwy postio sylwadau gyda #senedd, ac hynny yn bennaf er mwyn i’r drafodaeth fod yn fwy eang nag i gynnwys ni fel Aelodau Cynulliad yn y Siambr yn unig.

_41165222_siambr416

"Dwi hefyd yn awyddus i bobl cymryd rhan yn y drafodaeth ar twitter"

Wrth gwrs mae hyn oll yn gadarnhaol, ond rhaid i gyfathrebiaeth ar y we gan wleidyddion bod yn ddidwyll, a rhaid iddynt cynnal yr ymgais hynny i gyfathrebu gyda etholwyr ar y we. Dyna’r hyn y mae ymchwil gan Hansard yn amlygu- mae’n iawn i aelodau etholedig gael tudalen facebook, neu blog snazzy, ond os nad ydynt yn ei ddefnyddio yn aml fel rhan annatod o’u gwaith pob dydd, yna mae eu heffaith yn pylu. Yn y drafodaeth yfory, dwi hefyd yn awyddus i ofyn os ydy cyfathrebiaeth gan wleidyddion ar y we yn helpu creu system democrataidd mwy agored a thryloyw? Yn ol Andy Williamson o Gymdeithas Hansard, mae’r ffaith bod Senedd yrAlban wedi rhoi lwfansau Aelodau’r Senedd ar y we wedi sicrhau bod y system yn llawer fwy agored i aelodau’r cyhoedd, a bod y sefydliad felly wedi osgoi y creisis ffydd sydd wedi bod mor amlwg yng nghyd destun San Steffan. Ac wrth gwrs, rwy’n benderfynol o drafod sut mae pobl yn defnyddio twitter, facebook ac ati i ymgyrchu’n effeithiol, ac i ledaenu ei neges. A yw Confensiwn Cymru Gyfan wedi llwyddo yn yr ymgais hyn, tybed? Pa mor effeithiol ydy ymgais Ty’r Arglwyddi wedi bod wrth gyflwyno ymgynghoriadau ar y we? A yw gwledydd fel Moldova ac Iran wedi defnyddio’r technoleg fel modd o rhoi barn sy’n wrthyn i sefydliadau eu gwledydd, ac a yw hwn wedi bod o werth?….. Mae hwn yn drafodaeth pwysig a chyffroes, a dwi’n awyddus i bobl sy’n darllen y wefan yma i gymryd rhan yfory.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Hoffen ni gymryd rhan!

Faint o’r gloch mae’r drafodaeth?

Ac oes posib cael dolen i’r gwaith ymchwil Hansard?

Mae potensial i tag #senedd ddod yn un defnyddiol iawn o feddwl cynifer o pundits gwleidyddol sydd wedi ymgartrefu ar Twitter erbyn hyn. Ond mae o dal yn fydysawd y nerds (boed yn weleidyddol, tech neu beth bynnag) i raddau – ac mae annog cyfranogiad ehangach tu hwnt i yn amcan na ddylid colli golwg ohono.

sori- roedd y drafodaeth am 6 yr hwyr. Mae o ar senedd.tv erbyn hyn.

Mae lot o stwff Hansard fan hyn. Mae nhw ynghanol gwneud ymchwil ar barn dinasyddion o sut mae gwleidyddion yn cyfathrebu ar y we/ technoleg etc. Nai adael pawb wbod pan fydd o allan.

http://hansardsociety.org.uk/blogs/edemocracy/archive/2009/05/20/the-internet-is-a-great-tool-for-transparency-in-public-life.aspx

Mae Andy Williamson o Hansard ar twitter os da chi awydd dilyn o.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)