WordCamp UK 2009 yn dod i Gaerdydd

WordCamp UK

[cofnod wadd gan Rhys Wynne]

Dw i ddim yn siwr sut na pham*, ond mae WordCamp UK 2009, yn dod i Gaerydd ar y 18fed a 19eg o Orffennaf.  Mae’n rhyw fath o gynhadledd i rai sydd a diddordeb yn y platfform blogio WordPress, boed chi’n ddatblygwr, dyluniwr neu jyst yn ddefnyddiwr cyffredin.

Does dim llawer o fanylion eto, ond mae wiki ar gyfer y digwyddiad, ble mae modd awgrymu cynnwys/pa fath o gyflwyniadau hoffech weld (neu gyflwyno eich hunan).

Dw i wedi cynnig un ar gyfer lleoleiddio, tra mae dau gynnig arall a all fod o ddiddordeb i sawl un yng Nghymru:

Enterprise and Corporate WordPress

These days some 70% of our work comes from developing WordPress solutions for large organisations. As it’s a little niche for some this may be best suited to the smaller room. I can cover the specifics of what large companies tend to look for and need, and discuss some recent cases.

WordPress for News Organisations

By the time WordCamp comes around, we will have implemented one significant news website which (we believe) is likely to be one of the most sophisticated WordPress installations worldwide. I’d like to cover some of the challenges met, how we solved them, demonstrate the solution, and discuss what we learned – all in a short talk.

Er nad ydw i’n ddefnyddiwr WordPress, mi hoffwn i fynd i hwn os byddaf yn gallu. Fyddai eraill yma â diddordeb?

* Beth dw i’n feddwl yw, roedd rhaid i wahanol ddinasoedd wneud cais i gynnal y digwyddiad (fel yr Olympics, ond heb biliwnau o arian cyhoeddus), a dw i’n synnu i Gaerdydd gael ei ystyried gan mai peth cymharol newydd yw WordCamp UK.

Rhywbeth tebyg (on llawer mwy cymhleth) sy’n digwydd wrth i ddinasoedd geisio am y fraint o gynnal Wikimania 2010.

Ta beth, mae’n dda gweld pethau fel hyn yn dod i Gymru.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Diolch Rhys am dy gyfraniad i’r wefan. Mae’n werth nodi bod modd dilyn Wordcamp uk http://twitter.com/wordcampuk

Mae WordCamp yn cyffrous iawn – agorwch y dyddiadur a chadwch y penwythnos yn rhydd!

Mae llawer o pobol yn rhedeg WordCamp fel gwirfoddolwyr. Bydd y pris tocyn yn rhad iawn.

Mae’n pwysig i weld y heniaith ar y safle we, o gwmpas y digwyddiad, ayb. Felly, dyma’r cyfle i cyfieithu Wordpress.com a meddalwedd Wordpress. Oedd rhywun wedi cyfieithu blynyddoedd yn ol. Gallen ni adeiladu ar eu gwaith fe.

Dw i’n casglu gwirfoddolwyr i cyfieithu. Anfona ebost i carl malwen quixoticquisling smotyn com – os ti eisiau ymuno.

Ma gen i ddiddordeb mynychu hwn yn sicr, hyd yn oed os dio ddim ond ar gyfer dysgu be all rhywun wneud gyda WP.

A dwi’n cytuno byddai’n dda cael cynrychioliad da gan unrhyw ddatblygwyr/dylunwyr gwe Cymraeg yno. Dylen ni drio cael WP a WP.com yn y Gymraeg erbyn hynny hefyd. Dwi’n gem am gyfrannu.

Oes posib adeiladu ar yr hen gyfieithiad? Roeddwn i wedi darllen rhywbeth bod rhaid dechrau o’r dechrau ar ôl pob upgrade, ond alla i ddim credu bod hynny’n wir.

Rhodri, oes. Dyn ni’n gallu adeiladu ar yr hen gyfieithiad. Dw i’n adolygu fy sgriptiau!

http://westi.wordpress.com/2008/10/26/wordpress-in-your-language/

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)