Windows 7 – Yr Wythnos Gyntaf
Yn anffodus, doedd dim parti Windows 7 yn fy ardal i, a dim dawnswyr siop Microsoft chwaith! Serch hynny, dwi am roi cofnod byr bach allan fan hyn o’m mrhofiadau cyntaf efo W7, gyda rhagor i ddod mewn podlediad swmpus sydd ar y gweill.

Windows 7 Professional yw’r fersiwn sydd ar y gliniadur gen i ar hyn o bryd. Rhaid i fi gyfadde’ mod i yn un oedd yn eithaf hapus gyda’r syniadau yn Vista, ond ddim o reidrwydd y trychfilod meddalwedd. Roedd y newidiadau o XP yn rhai oedd angen eu gwneud, er gymaint o ffans sydd gan XP dal, roedd honna’n dangos ei hoed cyn i Vista gyrraedd y siopau. I chi sydd dal isie cadw hi’n ‘old skool’, bydd Microsofft yn cefnogi’r system fach tan 2014.
Yn weledol, dydi 7 ddim rhy wahanol i Vista, ond mae’r eiconau wedi ei symleiddio, a’r bar gwybodaeth yn lan a defnyddiol, yn hytrach na’n brysur ac yn holi sylw bob dwy funud. Newid ardderchog yw’r ’system notifications’, sydd, yn hytrach na’n mynnu sylw a tharfu ar draws rhaglenni, yn aros yn y taskbar yn boleit i gyd tan i chi ddelio â nhw. Hwn yw’r prif beth gwych yn yr wythnos gyntaf, dwi’n syth bin yn hoffi’r system, a ddim yn gwaeddi arni!
Yn gyflym, mae’r ffordd Mac-aidd o binio rhaglenni i’r ‘taskbar’ yn wych, yr eiconau graffig yn y taskbar yn ddefnyddiol yn hytrach na’r tabs ysgrifenedig, a’r “snipping tool” yn ffordd wych o gymryd screenshots o’r darnau defnyddiol o’r sgrin! System lanach, well a symlach ydi Windows 7, wel, hyd yn hyn!
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.
Sylwadau
Yn wir, mae Cyw yn aml-blatfform, aml-OS, cofiwch, mae gwefan Cyw yn gweithio ar flash ac ar gael ar gyfer pob system
Dwi’n trio penderfynu blwyddyn nesaf os dwi’n mynd i brynu cyfrifiadur gyda Ffenestri 7 neu mynd am Chrome.
Mi welis i cyflwyniad Google am chrome ddoe, wedi siomi braidd ar beth welais i. Gobeithio mwy, ond sylweddolais bydd fy nghyfriadur yn dod yn ‘google bitch’ os mi af amdano.




Dwi’n caru bod Cyw yn trio cael pip dros y sgrin yn y llun! Bet bod Cyw yn Mac-freak ddo