VOCAB

Efallai eich bod chi wedi sylwi blwch bach ar ochr chwith frig metastwnsh.com.  Efallai eich bod chi’n gyfarwydd â VOCAB a oedd ar wefan newyddion Cymraeg y BBC.

Picture1Mewn partneriaeth â’r BBC a Bwrdd yr iaith Gymraeg, yn treiali meddalwedd VOCAB ar y gwefan. Beth yw VOCAB Aled, rwy’n clywed chi’n bloeddio ataf i….

Wel, mae’n galluogi i chi gwasgu botwm ar y gwefan sy’n ‘high light-io’ geiriau ar y gwefan ac yn rhoi diffiniad o’r geiriau hyn. Gobeithiwn y bydd hwn yn gwneud y gwefan yn fwy accessible i ddysgwyr Cymraeg, ac i rai sy’ angen cymorth gyda rhai o’r eirfa.

Rhowch gwybod beth ydych chi’n meddwl.

Picture2

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Dwi methu ei gael e weithio? Rhywun arall yn cael problemau? Dwi’n defnyddio Safari.

Dwi’n gweld e’n gweithio’n iawn ar Safari ‘da fi

Wel am syniad gwych!!
Do’n i rioed di sylwi ar y peth ar wefan newyddion y Bîb a deud y gwir…a faswn i heb sylwi arna fo ar metastwnsh heblaw mod i’n deall Cymraeg ac isio darllen y post.

Eniwe. Dwi di trio fo a dyma be dwi’n ei gael (gan feddwl nad ydw i’n deall braidd dim Cymraeg)
Aled Wyn : July
Perhaps notice box side left metastwnsh.com
Perhaps familiar VOCAB website news Welsh BBC
In partnership BBC {ma’ Bwrdd yr Iaith ‘di ‘high light-io’ ond mae’r rhaglen yn cael trafferth dangos y cyfieithiad – ar Firefox o leia’} hear shout.
Enable press button website words website more learners Welsh need help.
Know.

A doedd o ddim yn medru handlo fi yn gadael neges tra’n ei ddefnyddio – roedd raid i mi cut + paste fy sylw, mynd allan o wefan y Bîb/Vocab a nol i metastwnsh.com. Ond mae’n dal i ddweud VOCAB fel teitl dudalen.

Roeddwn nhw’n addo ryddhau Vocab fel cod agored 5 mlynedd yn ôl! Y drafferth oedd yr eirfa (a’r hawlfraint ar hynny), ond dwi’n siwr fod geirfaoedd Cymraeg ar gael nawr dan drwydded GNU.

Go dda. Wrthi’n arbrofi gyda gadael sylw rwan i weld os dw i’n cael yr un drafferth. Y broblem yw, uynwaith chi’n troi VOCAB ymalen , chi’n edrych ar Metyastwnsh ‘drwy’ wefan y BBC o beth dw i’n ddeall yn dilyn sgwrs ar Wicipedia ma ei ddefnyddio.

Oes modd symud y blwch Vovab i lawr ychydig bach? Gan ei fod yr un lliw a chefndir y porowr ac wedi ei lynnu i’r gornel chwith uchaf (ar fy Firefox i ta beth) mae’n beryg na wnaiff bobl sylw bod o yno.

Oes, rhaid troi VOCAB i ffwrdd i adael sylw, ond i fod yn deg ( a heb gyffredinoli gormod), oes ydych angen defnyddio VOCAB i ddarllen rhywbeth, mae’n wrth yr hasl ac efallai eich bod yn llai tebygol o adael sylw ta beth.

Gwd.

Nici – Dwi ddim yn cael problen gyda’r gair Bwrdd yr Iaith ar fy mhorwr i (Safari), ond mae dy sylw yn defnyddiol, fe wnawn ni pasio dy sylwadau ymlaen at y BBC.

O ran gwneud sylw, dwi’n credu bydd rhaid gwneud beth gwnes di. Ces i trafferth hefyd i adael neges tra oeddwn i mewn yn VOCAB. Eto fe wnawn ni anfon y sylwad ymlaen.

Dafydd – Ar hyn o bryd mae VOCAB yn defnyddio geuriadur Canolfan Bedwyr (Cysgair?)

Gyfeillion, rhaid cofio na “trial” ydi’r system Vocab ar wefannau allanol ar hyn o bryd. Mae’n deg i ddweud y bydd rhai problemmau. I mi, mae’n gweithio’n dda iawn.

Dwi’n falch ein bod wedi cael gwahoddiad i’r trial yma.

Sori pobl, newydd sylw bod y lluniau ar y post yma ddim yn gweithio wrth defnyddio porwr gwe Internet Explorer, Ymddiheuriadau!

Mwy o fanylion, beth am gosod y panel ar top dde’r sgrin yn y ’sweet spot’?

http://www.bbc.co.uk/cymru/vocab/pdf/bbc_vocab_style_guide.pdf

Sori eto, wedi sylw bod y delweddau ddim yn gweithio ar Firefox chwaith! hmmm fe edrycha i i mewn iddo!

Mae’n debyg mai ar fformat .tiff mae’r lluniau a dyna pam. Pan gaf i’r cyfle fe wna i troi nhw i .jpeg

@Dafydd Tomos “Roeddwn nhw’n addo ryddhau Vocab fel cod agored 5 mlynedd yn ôl!”

Ac mi wnaethon nhw hefyd. Mae’r côd craidd wedi bod ar gael erioed. Yr un diweddara yn fan hyn: http://www.bbc.co.uk/vocab/src/vocab20090610.tar.gz

Fel ti’n dweud, heb yr eirfa, ond mae croeso i unrhywun arall greu geiriaduron eu hunain.

Oes rywun wedi trio gosod y Vocab ar y Rhegiadur? ;)

Diolch Iwan.. piti na gafodd hynny ychydig bach o gyhoeddusrwydd ondife? Dyw e ddim fan hyn na unrhyw ddolen i’w weld yn unrhywle ar y we.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)