Trydan yng Nghaerdydd!
Dwn im pam ma hwnna’n dod i feddwl, ond ma’n rhyw ddywediad trydanol ei naws. Addas felly ar gyfer grŵp newydd sydd wedi ei sefydlu yng Nghaerdydd dan yr enw gwych Trydan.
Grŵp yw hwn ar gyfer pobol o’r ddinas a thu hwnt sydd â diddordeb mewn cyfryngau cymdeithasol, fel blogio a rhwydweithiau cymdeithasol eraill. Mae hwn yn ychwanegiad i’r amrywiaeth o rwydweithiau rhithiol a chigfyd sydd yn digwydd yno fel Cardiff Web Scene a Nocci sy’n bodoli i drafod datblygiadau ar y we ond hefyd i ffurfio parnteriaethau ar gyfer prosiectau newydd.
Ma nhw wedi dechrau gwefan (gan ddefnyddio system Wetpaint – un dwi heb glywed amdano o’r blaen) lle gellir trafod a hysbysebu digwyddiadau, yn ogystal â chyfrannu at wiki syniadau ac mae croeso i unrhyw un sydd ddim yng Ngaerdydd hefyd i gyfrannu.
Ewch draw, a dewch nôl i ddweud be da chi’n feddwl o Trydan ac o Wetpaint fel system.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.





Diolch Rhod, ro’n i’n meddwl rhaid i mi postio rhywbeth ar Metastwnsh.
Awn ni weld sut mae pethau yn mynd.
Dyn ni’n byw yng Nghaerdydd felly dyn ni’n rhedeg y cyfarfod yng Nghaerdydd. Ond teimla rhydd i dal y awen yn eich ardal chi.