"Three Strikes" a ti 'mas!

Logo adroddiad Digital Britain Fel dwi’n siŵr i chi gofio, ddaru’r Llywodraeth gyhoeddi (rhai misoedd yn ôl erbyn hyn) adroddiad yr Arglwydd Carter mewn i ddyfodol digidol y wlad, ddaru’r adroddiad crybwyll sawl mesur i wneud gyda rheolaeth radio, teledu, y We a’r gobaith o adeiladu’r rhwydwaith technegol sydd ei angen ar Brydain i ymdopi gyda gofynion technoleg y dyfodol. Enw’r adroddiad ‘ma oedd “Digital Britain”.

Dyfodol Digidol?

Erbyn hyn, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno’r mesur maen nhw’n gobeithio fydd yn dod â’r adroddiad i rym. Ond, dyma le mae’r problemau yn cychwyn…

Wrth ysgrifennu’r adroddiad gwreiddiol, roedd cryn dipyn o sôn am fesurau i nadu pobl rhag rhannu deunydd dan hawlfraint heb ganiatâd. Roedd sôn yn wreiddiol am gynnwys mesurau “three strikes” (sef bod pobl yn cael tri rhybudd, ac wedyn yn cael ei dad-gysylltu o’r we), ond yn y diwedd, doedd dim sôn am hyn yn yr adroddiad.

“Oh Mandy…”

Ond, mae’r Arglwydd Mandelson (“for it is he…” fel bysai Private Eye yn dweud) wedi penderfynu y bydd “three strikes” yn cael ei roi o fewn y mesur “Digital Economy”, sef mesur i hybu datblygiad economi newydd o fewn Prydain. Y syniad yw bod cwmnïau cyflenwi cysylltiadau rhyngrwyd yn gorfod trosglwyddo gwybodaeth i’r cwmnïau sy’n berchen hawlfraint (neu’r grwpiau sy’n cynrychioli nhw) heb warant, a bod pobl yn cael tri rhybudd, wedyn yn colli eu cysylltiad. Fydd rhaid i’r cwmnïau cysylltiad rhyngrwyd gasglu rhybuddion yn erbyn pob cyfrif, a trosglwyddo’r gwybodaeth i’r grwpiau hawlfraint, ac ar ol nifer o’r rhain, fydd y cwmniau yn gorfod dad-gysylltu y cwsmer (hyn i gyd heb gorfod mynd i’r llys er mwyn edrych ar y tystiolaeth). Mewn ymdrech i gadw’r lobi hawliau dynol yn hapus, cynigiodd y Llywodraeth i osod proses apêl trwy OfCom (y bobl sy’n rheoleiddio’r diwydiant cyfathrebu) y bydd pobl yn cael mynd ato er mwyn ymateb i’r cyhuddiad. Ar hyn o bryd, does dim llawer o fanylion ar sut byddai’r broses yn edrych, gan fod y Llywodraeth yn cynnig bod OfCom yn gwneud y cyfan heb i’r Llywodraeth orfod deddfu ar y mater.

Pirate Finder General

Pwysicach fyth yw’r cymal sy’n rhoi’r hawl i’r Llywodraeth newid y deddfau hawlfraint gyda deddf eilradd (sydd ddim angen cael ei phleidleisio arno yn nhŷ’r cyffredin) os nad yw rhannu ffeiliau’n anghyfreithlon yn gostwng mwy na 70%, mewn mesur mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei feirniadu fel “enabling act”. Dywed Cory Doctorow ar Boing Boing bydd y ddeddf yn galluogi’r llywodraeth i drosglwyddo pwerau i’r grwpiau hawlfraint i gosbi troseddwyr yn gyfreithiol heb orfod dwyn achos llys, fel rhyw fath o “Pirate Finder General”, i gyd heb orfod cysylltu â’r Tŷ Cyffredin.

Teithio trwy San Steffan

Ar ôl siarad gyda swyddfeydd y pleidiau lawr yn San Steffan, y consensws yw bod rhaid i rywbeth cael ei gwneud er mwyn sicrhau bod rhannu anghyfreithlon yn cael ei leihau, a ddaru llefarydd ar ran y Torïaid ddweud i ni bod y mesur yn un “naïve”, a bod angen mwy o’r “carrot than the stick” i geisio dwyn perswâd ar bobl i symud tuag at system o rannu cyfreithiol, neu yn sicr tuag at farchnad lle mae mynediad i’r cynnwys a ranwyd mewn modd cyfreithiol. Ond, er dweud hynna, mae’r pleidiau mawr yn bwriadu cefnogi’r mesur ta beth. Dim ond Plaid Cymru ddaru gynning eu bod nhw am bleidleisio yn erbyn y mesur, gan ddweud bod y mesur ddim yn edrych ar y problem yn gywir, a bod y Llywodraeth wedi methu siawns i fod yn fwy uchelgeisiol (yn enwedig gyda mesurau i hybu economi ddigidol, a bod y mesur fel y mae yn gallu diweddu hefo system “Big Brother”.

… ond oes Amser?

Un peth diddorol oedd, tra’n siarad o gwmpas y pwnc hefo’r bobol yn San Steffan, bod rhai yn fodlon cyfaddef fod y tebygolrwydd fod mesur ‘ma yn dod yn ddeddf yn lleihau bron pob diwrnod, gan fod y llywodraeth ddim i’w weld yn symud yn gyflym dros ben i sicrhau fod y mesur yn dod i rym. Hefyd, gan fod hi’n edrych yn fwy tebygol fod yr etholiad cyffredinol am fod yn fis Mawrth, yn hytrach na mis Mai, mae ‘na llai byth o amser.

Ymladd yn Erbyn

Er bod amser yn lleihau, tu allan i San Steffan mae llawer o bobl wedi cyhuddo’r llywodraeth o geisio gwylio ar ôl yr “hen” cyfryngau yn hytrach na gwneud pethau i geisio hybu busnesau newydd ar y we (cwmnïau fel Google, Facebook ayyb). Ar ran y cwmnïau ISPs, mae pobl fel Talk Talk wedi dweud bod y mesurau yn mynd i wneud hi’n anoddach iddyn nhw weithio a gwneud hi’n ddrytach iddyn nhw gyflenwi cysylltiad i’r we (gan fod ddim sôn am bwy sydd am dalu i archwilio’r cysylltiadau am bobl sy’n rhannu’n anghyfreithlon) ac er mwyn dangos pa mor sâl oedd y syniad dad-gysylltu, ddaru Talk Talk dangos pa mor hawdd fysai torri mewn i gysylltiadau pobl er mwyn lawrlwytho’n anghyfreithlon (a fysai profi’r fath beth yn anodd ty-hwnt i bron pawb “arferol”), a mae Consumer Focus hefyd wedi gwneud sylwadau yn erbyn cynlluniau i rwystro cysylltiadau gwe pobl.

Mae grwpiau fel yr Open Rights Group a Liberty yn lobïo’r aelodau seneddol i geisio cael nhw i bleidleisio yn erbyn y mesur. Ar ran yr ORG, ddaru Jim Killock dweud ei bod angen i bawb cysylltu gyda’i aelodau seneddol i ddweud pam bod hwn yr ateb anghywir i’r broblem o rannu’n anghyfreithlon ac yn apelio at bawb i gefnogi eu gwaith nhw, a’r rhai sydd yn gwrthwynebu’r mesur peryglus ‘ma.

Bobol, dwi’n ych annog chi i helpu, os gallwch chi.

Bryn

Gweler hefyd:

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

[...] This post was mentioned on Twitter by Rhodri ap Dyfrig, metastwnsh. metastwnsh said: “Three Strikes” a ti ‘mas!: Fel dwi’n siŵr i chi gofio, ddaru’r Llywodraeth gyhoeddi (rhai misoedd yn ô… http://bit.ly/7wRbPZ [...]

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos