Y Darlithiau 'Do'
Draw yn Aberteifi, ma na bethau diddorol, annelwig bron i’r person lleol cyffredin, yn mynd mlaen. Pethau sydd yn cael eu gwylio ledled y byd.
Na, nid campau Nic Dafis ar World of Warcraft na fideo rhyw cigydd chwedlonol y dref, ond cyfres o ddarlithoedd gyda un pwrpas – ysbrydoli pobol i wneud pethau.
Mae The Do Lectures nawr yn ei hail flwyddyn, ac yn deillio o’r model mae TED wedi gwneud mor boblogaidd, sef:
- cynnal cynhadledd (egsgliwsif),
- gwahodd siaradwyr ysbrydolgar (ac enwog) i ddod i siarad,
- ei recordio ar fideo i lefel uchel iawn,
- yna dosbarthu’r cynnwys ar draws y we.
Fel TED, nifer cyfyngedig iawn o bobol all fynd i’r darlithoedd eu hunain (tua 90 yn achos Do), ac mae tocyn yn costio lot fawr iawn (£1,000 yn achos Do). Lwcus felly bod nhw ar gael i bawb eu gwylio gan bod na lu o bethau diddorol yn cael eu dweud yno.
Mae gogwydd Do yn tueddu tuag at yr amgylcheddol/dechnolegol/campau awyr agored o bethau, tra bod TED yn fwy gwyddonol/dechnolegol/cymdeithasol/dylunio. Mae hyn yn adlewyrchiad o ble daeth Do yn wreiddiol sef o gwmni Howies sydd a’i bencadlys yn Aberteifi.
Yn ddelfrydol fe hoffwn i weld cydnabyddiaeth o ryw fath o’r Do sy’n digwydd yn lleol i’r digwyddiad – sef y Do yn ymwneud a’r iaith. Byddai cael rhywun i siarad o’r safbwynt hwn yn rhoi rhyw fath o gydbwysedd i’r arlwy, gan edrych ar agweddau positif siarad sawl iaith a sut mae nhw wedi mynd ati i wneud pethau gwych a chael pobol i roi tro ar ddysgu’r iaith. Mae’n fwlch amlwg iawn ar hyn o bryd. Ella’n werth ebostio nhw a gofyn…
Mae rhai pobol yn gallu ennill tocynnau i fynd yno drwy wahanol ffyrdd a bu Neil Cocker (cyfaill sy’n gyfrifol am sdwff Nocci) yn ddigon ffodus i gael mynd i wersyll Fforest yng Nghilgerran am y tridiau ar ôl gwneud fideo byr am pam roedd isio mynd (mae dolenni i’w hanesion am y penwythnos ar ei flog).
Dyma ddogfen fer am y penwythnos a’r darlithoedd gan gynnwys cyfweliadau gyda sawl mynychwr:
Do Documentary 09 from PopUp!Media on Vimeo.
Mae nhw’n parhau i ychwanegu fideos at y wefan ond dyma ddetholiad o’r rhai gyda gogwydd gwe/technolegol sydd yno.
Mwynhewch!
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.
Sylwadau
[...] This post was mentioned on Twitter by Rhodri ap Dyfrig and metastwnsh, Gareth Jones. Gareth Jones said: RT @Nwdls: RT @metastwnsh Cofnod blog: Y Darlithiau ‘Do’ http://bit.ly/8JVS39 [...]
Na Nic. Dwi di cael digon ar yr ‘hippies’ ma boed yn frodorol neu wedi mewnfudo, a’u hegwyddorion cywir yn dy wyneb. Nes i weld digon o’r peth tra’n aros ym Machnynlleth yn ystod yr haf.
Rhaid iddynt dderbyn tydi’r Cymry ddim yn dewis aros mewn ryw fath o time-warp, dim ond oherwydd tlodi a threiddio araf technoleg a byd modern i’r ardaloedd gwledig yma.




Dw i wedi cysylltu â Howies sawl gwaith ynglyn â’r Gymraeg, ond dw i heb gael ymateb hyd yn hyn. Dw i rili eisiau cefnogi’r cwmni, ond dw i’n ffeindio eu hagwedd (neu ddiffig unrhyw agwedd) tuag at yr iaith a’r diwylliant o’u cwmpas yn anodd llyncu. Efallai bod pethau wedi newid rhywfaint yn diweddar – mae ambell i air o Gymraeg ar flaen eu siop yn y dre – ond maen nhw’n dal i edrych fel cwmni Seisnig sy’n digwydd ffeindio eu hunain yn Aberteifi.
Fi sy’n lletchwith, siwr o fod.