Digwyddiad: "Technolegau Iaith yn y Cymylau"
Meddwl basa darllenwyr y blog â diddordeb yn hwn:
Technolegau Iaith a Lleferydd yn y Cymylau
Cyfleoedd a Heriau Cyfrifiadura Cwmwl
Siaradwr gwadd: Dewi Jones o Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor
Dydd Mawrth y 3ydd o Fawrth
6.00yh – 8.00yh
(Bydd y drysau’n agor am 5.30pm ar gyfer darparu lluniaeth)
Technium CAST
Parc Menai
Bangor
LL64 4HJ
Ceir nifer ddryslyd o ddiffiniadau ar gyfer ‘Cyfrifiadura Cwmwl’, (’Cloud Computing’) gyda rhai’n defnyddio ‘cwmwl’ fel trosiad haniaethol ar gyfer yr adeiledd cymhleth sydd yn ffurfio’r sail anweledig i’r rhyngrwyd. Mae’r ‘cwmwl‘ yn cynnwys sawl tuedd ddiweddar mewn technoleg meddalwedd, yn ogystal â geiriau’r funud fel Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) a’r ‘We 2.0′ (a Gwe 3.0 hyd yn oed), lle mai’r thema ganolog yw dibynnu ar y Rhyngrwyd yn hytrach na chyfrifiadur personol ar gyfer diwallu anghenion y defnyddiwr. Mae gan y dull hwn o ymdrin â darparu cymwysiadau a storio data ei gefnogwyr a’i feirniaid.
Bydd Dewi yn mynd ati i gyflwyno’r cyfleoedd a’r heriau y gallai cyfrifiadura cwmwl ei gynnig i’r gwaith ymchwil a datblygu technolegau iaith a lleferydd sy’n digwydd ym Mangor. Bydd arddangosiad o gymwysiadau gwe arbrofol a ddatblygwyd yn yr Uned yn cael eu defnyddio er mwyn enghreifftio’r dechnoleg ac i ffurfio sail i drafodaeth bellach.
Mae’r digwyddiad hwn yn RHAD AC AM DDIM, ond rhaid archebu lle o flaen llaw.
Gellir archebu lle drwy e-bostio j.a.pike@bangor.ac.uk
Gallwch hefyd gysylltu â Rob neu Judith ar 01248 388245
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.
Sylwadau
Mae ‘na fersiwn rhad ac am ddim (ond heb gymorth technegol) o Cysgliad Mac ar gael fan hyn. Mae’n cyfateb i fersiwn 3.0 y PC. Mae na ambell berson wedi cael problemau wrth ei osod: hwyrach y byddai’r drafodaeth hon ar maes-e o gymorth fan ‘na.





Oes rhywyn yn gwybod os yw Cysgliad 2.0 yn cael ei weithio ar i’r Mac?