Roxio Toast 10
Wedi bod yn gwneud transfer o gaset i MP3 ar y MacBook fe wnes i ddod ar draws y broblem o sut i gael y ffeiliau MP3 ar CD. Roeddwn i yn meddwl y bysai’n hawdd gwneud hyn ar y MacBook, ond doedd o ddim.
Meddyliais gyntaf y bysa iTunes neu GarageBand yn ei wneud o i mi yn weddol hawdd, wedi’r cwbwl mae bob dim arall yn hawdd ar y MacBook. Ond, methu a gwneud wnes i.
Y syniad nesaf oedd trosglwyddo’r ffeiliau i USB drive a defnyddio’r PC a Nero i losgi’r ffeiliau i ddisg.
Ond, cyn i mi wneud hyna wnes i ddarganfod Roxio Toast. Rwan, dydi’r meddalwedd yma ddim yn rhad. Roedd y fersiwn nes i gael yn £79.99 ond, yn fy marn i, mae o werth o.
Genai lot o gasets dwi angen ei trosglwyddo felly mae’n investment da i mi. Ond, mae’n gwneud mwy na hyna wrth gwrs, mae posib ei ddefnyddio ar gyfer gwneud DVDs a CD-ROMs. Dwi heb ei drio i wneud hyna eto, ond unwaith fyddai wedi mi wnai adael i chi gyd wybod sut mae’n gweithio.
Roedd defnyddio Roxio Toast 10 i wneud y CD yn hynod hawdd. Fyswn i ddim yn disgwyl iddo fod yn annodd i ddweud y gwir gan mae rhaglen ar gyfer y Mac ydio. Dewis pa fath o ddisg yr oeddwn eisiau ei wneud a dragio yr MP3s drosodd. Wedyn pwyso botwm coch i losgi’r ffeiliau i’r CD.Dydi Nero ar y PC ddim mor hawdd a hyna!!
Felly os da chi yn chwylio am feddalwedd i losgi ffeiliau i CDs a DVDs Roxio Toast ydi’r meddalwedd i chi.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.




Be oedd yn bod efo mewnfudo’r MP3au iTunes, creu rhestr chwarae newydd a’u llosi i CD?