Retrospective Cofnodion 2009: Rhan 2
Dyma ran dau y gyfres yma o gofnodion ar ddiwedd blwyddyn o Stwnsho. Roedd y gofnod ddwetha’n edrych ar y cofnodion mwya swnllyd, ond dyma’r rhai da ni di joio fwya fel cyfrannwyr. Ella bod nhw werth ail olwg…
- Bryn: Stwnsh Steddfod – Bryn oedd yn bennaf gyfrifol am gôdio’r Stwnsh; ac Adolygu’r papurau ar Radio Cymru.
- Rhodri: Golwg360 – yr ymateb ehangach… – cofnod yn crynhoi’r digwyddiadau ar-lein yn sgil lansiad trychinebus Golwg360 a’r cyfweliad gyda Gareth Morlais am wedd newydd gwefan BBC Cymru
- Rhys: Y Llo Oren – “oherwydd yr athroniaeth!” ac Cyhoeddiad am Wefan Golwg [blogio byw] “oherwydd y defnydd cyntaf/unigryw/arbrofol o flogio byw go-iawn yn y Gymraeg”
- Sioned: Diwrnod Ada Lovelace: Xeni Jardin a Kirtsy – cofnod gynta Sioned! Nath pobol Kirtsy ofyn am gyfieithiad felly debyg taw hon ydi’r unig gofnod ar y blog sydd efo cyfieithiad Saesneg hefyd.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.




Sylwadau
Dim sylwadau eto.
Gadewch sylw