Podlediadau Metastwnsh
Dydd Iau diwethaf fe wnaeth Rhys, Rhodri, Bryn a Sioned fynd o’i chwmpas hi i recordio podlediad cyntaf Metastwnsh. Doeddwn i ddim yno oherwydd… wel… cewch glywed yn y podlediad. Ar ôl i’r podlediad gael ei recordio fe anfonodd Rhys o draw atai i’w roi ar iTunes ar eich cyfer chi.
Er mwyn cael y podlediad ar iTunes mae’n rhaid creu ffrwd RSS arbennig hefo manylion y ffeil ynddo. Mae hyn hefyd yn helpu i alluogi bobl ei ddarganfod ar iTunes.
Fe wnes i gyflwyno’r podlediad ar ffrwd RSS i Apple amser cinio ddydd Gwener ac yna disgwyl tan cael yr ebost i gadarnhau ei fod wedi ei dderbyn. Cymerodd hyn ddim ond 2 ddiwrnod i’w gwbwlhau. Proses reit gyflym a dweud y gwir. Er, wedi dweud hyna ni fyddwch yn medru ei ddarganfod am o leiaf 1-2 ddiwrnod wrth ymchwylio iTunes.
Mae’r podlediad nawr ar gael ar iTunes. Neu, i’w wneud yn haws i chi fedrwch chi glicio ar y botwm isod i danysgrifio.
Y gobaith yw i gael rhaglen newydd bob wythnos. Gawn ni weld sut mae’n mynd. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau o beth y dylsia ni drafod ar y rhaglenni nesaf, neu os da chi eisiau ychwannegu yn bersonol, gyrrwch ebost atom. Y cyfeiriad ar gyfer y podlediad yw: podlediad@metastwnsh.com – O bryd i’w gilydd da ni hefyd am drio cael gwesteion gwadd i drafod gyda ni.
Felly, dyma’r botwm ‘da chi ei angen er mwyn tanygrifio i Bodlediad Metastwnsh.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.
Sylwadau
Dwi ddim yn defnyddio yr erchyllbeth iTunes a fase fe ddim yn gweithio ar fy nghyfrifiadur i ta beth. Allwch chi ddim rhoi yr RSS yn uniongyrchol ar Metastwnsh hefyd?
Mae copi MP3 genna’i ohonno, os alle rwyn awgrymu widget flash bach neu cyffelyb i’w hostio fo, na’i popio fo fyny!
Os ydy’r mp3 wedi hostio rhywle (ac mae e) gellid defnyddio’r cod Java nesh i ddefnyddio yn y post efo fy eitem i ar Radio Cymru er mwyn rhoi player ar y wefan ei hun i chi sy ddim am is-lwytho.
[...] This post was mentioned on Twitter by metastwnsh and Iestyn Lloyd. Iestyn Lloyd said: Newydd wrando ar podlediad @metastwnsh, edrych ymlaen at y nesaf yn barod. Da iawn bawb, werthchweil! http://bit.ly/3U1r6j #fb [...]
Wyt ti wedi gweld y plugin PodPress ar gyfer WordPress? Mae’n delio a RSS iTunes ac yn wneud o’n syml i bostio o du fewn WordPress.
Oeddwn i yn ymwybodol fod yr iaith yn dweud ‘English’. Er, yn y côd ar gyfer iTunes fe wnes i roi “en_cy” er mwyn ei gael yn y Gymraeg.
Debyg nad yw iTunes yn gadel hyna fel dewis. Siomedig braidd






Da iawn, hogia!