Podlediad cyntaf Metastwnsh ar ei ffordd

podlediadNeithiwr cawsom ni (@rhysllwyd, @nwdls, @bryns ac @llef) dipyn o hwyl yn recordio podlediad cyntaf Metastwnsh. Yn anffodus fethodd @gareth_stwnsh ymuno gyda ni – ond cewch glywed mwy am ei helyntion yn y podlediad ei hun.

Y pynciau sy’n cael eu trafod yn y poedlediad cyntaf ydy:

- Ffôn Cymraeg Samsung
- Codi tâl am ddefnyddio BBC iPlayer
- Treth Bandllydan
- Darlledu’r Senedd – symud o S4C2 i’r Wê
- iMac newydd @nwdls

Mae @gareth_stwnsh yn y broses nawr o sortio allan hosting a’i gofrestru fel podcast yn iTunes. Gobeithio fydd o fyny i chi dros y dyddiau nesaf.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Ydy o ar gael eto?

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)