Penblwydd Hapus Metastwnsh!

oneMae’n anodd credu bod blwyddyn wedi mynd heibio ers i Aled, Rhodri, Rhys a minnau gael y syniad o greu gwefan ar gyfer trafod technoleg a’r we drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ‘na lawer iawn o bethau wedi digwydd yn y flwyddyn gyntaf yma hefyd. Dechreuodd pethau ar wefan wordpress.com, ond buan iawn daeth hi i’r amlwg ein bod angen gwefan ein hunain.

Mae Metastwnsh.com wedi bod yn brysur iawn a dweud y gwir. Yn ein blwyddyn gyntaf da ni wedi creu Metastwnsh.com a stwnsh.com, dechrau ymgyrch i wellhau rhwydwaith 3G dros Gymru, creu podlediadau a fodlediadau, Gorsedd y Gîcs, Stwnsh ‘ Steddfod, a dod yn rhif un rhestr Golwg360 o flogiau Cymraeg amatur ar y we. Dipyn o gamp mewn llai na blwyddyn.

Mae ‘na lawer iawn o uchafbwyntiau wedi bod ond mae ‘na un neu ddau yn sefyll allan yn fwy na’r gweddill sef yr Ymgyrch a Stwnsh ‘Steddfod Bala. Mae’r ymgyrch yn dal yn mynd yn ei flaen ac mi fydd post amdano’n o fuan. Mae’r Stwnsh ‘Steddfod yn sefyll allan oherwydd fe wnaeth y wefan ddod at ei gilydd mewn nesaf peth i ddim, gwir doedd hi ddim yn wefan anhygoel, ond roedd hi’n gwneud y job yn wych. Mae gobaith gwneud rhai ar gyfer sioeau 2010 hefyd ; Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Llangollen, Royal Welsh a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bellach mae ‘na chwech aelod yn cyfrannu i Metastwnsh.com mewn un ffordd neu’i gilydd, ond da ni eisiau mwy o bobl i ’sgwennu erthyglau i ni, felly os da chi eisiau bod yn rhan, danfonwch e-bost at metastwnsh [at] metastwnsh [.] com

Dwi’n meddwl ein bod wedi gwneud yn reit dda ar y cyfan, ond be da chi’n feddwl? Beth fasa chi’n hoffi ei weld yn digwydd yn ail flwyddyn Metastwnsh.com – gadewch i ni wybod!

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Penblwydd hapus!

Da iawn, chwarae teg.

Beth yw un oed yn blynyddoedd “dynol”?

(Cyntaf!)

[...] Darllena cofnod llawn. [...]

Penblwydd hapus! Mae Metastwnsh ydy un o fy hoff “blogs” yn Gymraeg. Pob dymuniadau gorau ar gyfer yr ail blwyddyn. Mae rhwybeth newydd mewn byd technolog ar y we pob dydd. Da iawn, yn wir, bois!

Penblwydd hapus i chi – ymlaen at yr ail!

Nais won Gareth. Ma di bod yn flwyddyn hwyl a gobeithio gallwn ni barhau i dyfu a gneud rhagor o sdwff hwyl.

Meddwl na’r uchafbwynt i fi oedd clywed y podlediad cynta na, Stwnsh Steddfod, a Gorsedd y Gics. Ma creu cymuned rownd pethau diddorol yn bwysig ar gyfer creu cymuneau a chysylltiadau oddi-ar lein yn pgsytal ag ar-lein. Pwy a wyr be ddaw o’r dolenni bach ma sy’n digwydd rhwng pobol a dyna sy’n bwysig i fi, creu posibliadau o sbarcs bach drwy ddigwyddiadau cysylltiedig fel Gorsedd y Gics a Hacio’r Iaith. Allwn ni ddim cael y bobol i ddod i betha fel’na heb y sylfaen sef rwbath fel Metastwnsh.

Ma be ma Gareth yn deud yn wir, mi ydan ni angen rhagor o gyfrannwyr, felly os oes ganddoch chi un gofnod benodol i ni, neu isio dod yn gyfrannwr rheolaidd – rhowch waedd.

Reit, dwi off o orffan y gacan na…..Nomnom…

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)