Fforwm Metastwnsh

Dwi wedi bod yn gweithio ar ychydig o brosiectau ar gyfer Metastwnsh.com yn ddiweddar. Un or prosiectau yna yw Fforwm Metastwnsh. Mae dal gwaith i’w wneud ar y thema, ond mae’n dod yn ei flaen yn dda. Mi wnes i benderfynnu defnyddio bbPress fel asgwrn cefn y prosiect gan fy mod eisiau ehangu fy nealltwriaith o wneud themau. Mae bbPress yn cael ei ddatblygu gan y ‘run bobl a wnaeth WordPress felly mae rhai darnau yn debyg iawn.

Dwi heb anghofio am thema newydd Metastwnsh.com chaith, mae o ar ei ffordd. Fyswn i yn dweud ei fod tua 85% i 90% wedi ei gwbwlhau hyd yma. Wedyn bydd cyfnod a ddarganfod gwallau a bugs, cyn ei ryddau i’r gwyllt.

Mae’n amser prysur iawn tu ôl i leni Metastwnsh.com gan fod llawer iawn o bethau da ni eisiau datblygu er mwyn gwella’r ddarpariaeth o wasannaethau Cymraeg ar y we. Gwyliwch y gofod, fel mae nhw’n ddweud.

Cyfres Holi

Ychydig ddyddiau yn ôl fe wnes i ddechrau meddwl am ffordd i gael mwy o gynnwys ar Metastwnsh sa’n ddiddorol i ddarllen.Beth ddaeth i’m meddwl oedd gyrru holiadur allan i er mwyn cael ymateb bobl i gwestiynnau ynglyn a technoleg a’r we.

Mae’r ymateb wedi bod yn dda hyd yma, ac mae bobl yn dal i’w lenwi i fewn. Dechreuodd hedyn y syniad rai wythnosau yn ôl pan oeddwn i yn meddwl beth i’w wneud ynglyn a diwrnod Ada Lovelace 2010. Y syniad ges i yr adeg yno oedd holi ein Sioned ni sut yr oedd hi’n defnyddio technoleg yn ei bywyd bob dydd. Tipyn o hwyl a dim byd rhy drwm.

Felly dyma lle ddaeth y syniad or gyfres Holi ar gyfer Metastwnsh.com

Y gobaith yw I gael holl dîm Metastwnsh i’w lenwi i fewn er mwyn  i chi ddarllenwyr gael gweld sut da ni’n defnyddio technoleg a’r we ac yna ei droi drosodd i bobl eraill sy’n amlwg ym myd technoleg, y we a’r cyfryngau.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau eu darllen nhw.

Pump am y Penwythnos

Reit mae’r ddyletswydd yn cwympo arna i i ddewis 5 peth am y penwythnos hwn.  Gan fy mod i newydd cael ffôn sy’n rhedeg ar OS Android (HTC Hero), mae gen i lawer o bethau Androidaidd i’w cynnig.

1.  Shop Savvy

App yw hon sy’n galluogi chi i sganio barcode cynnyrch pan ydych chi mewn siop gyda chamera eich ffôn.  Ar ôl sganio’r bar code mae’r app yn chwilio’r wê am y cynnyrch, ac yn sortio nhw yn ôl eu pris.  Felly mae ‘na fargeinion i’w ffeindio!

2.  The Visual Miscellaneum

Des i ar ddraws y llyfr hwn trwy ddilyn linc ar dwît rhywun oeddwn i yn dilyn ar twitter.  Mae’r llyfr yn rhoi gwybodaeth am ystod eang o wybodaeth mewn ffordd liwgar a diddorol.  Mae gan yr awdur cyfrif twitter, a gwefan.  Mae’n werth edrych arno.

3.  Sky Remote Record

Fel cwsmer Sky+ mae’r gallu recordio teledu yn fendith.  Ond mae’n boendod os ydw i allan o’r tŷ ac yn sylwi fy mod i heb trefnu recordio rhaglen, neu sylw bod rhywbeth arno, mae’r app Sky+ ar gyfer yr iPhone / iPod Touch yn galluogi i chi i recordio rhaglen ar eich teledu adref pan ydych chi allan.

4.  Wikitude

Dyma app augmented reality, sy’n rhoi gwybodaeth i chi amdano eich lleoliad trwy gamera’r ffôn.

5.  Google Listen

Os ydych chi fel fi yn gwrando ar lot o bodlediadau mae Google listen yn gwasanaeth dda i chwilio a lawrlwytho podlediadau fel un Metastwnsh i’ch ffôn chi.

Internet Explorer Vs pob browser arall

Dwi wedi bod wrthi’n brysur dros y dyddiau diwethaf yn creu thema newydd ar gyfer prosiectau gwahanol, a mae’r broblem yr un peth bob tro… Internet Explorer.

Pam fod Microsoft wedi creu porwr gwe sydd yn trin HTML a CSS yn wahanol i bawb arall? Mae fel eu bod nhw eisiau bobl orfod treulio oriau ychwannegol yn creu ffeil CSS ecscliwsif ar eu cyfer nhw. A cyn i neb ddweud, dwi’n gwybod y dylsiwn i wybod am y pethau yma bellach, ond dim problem hefo un fersiwn ydi o. Mae rhaid cael CSS gwahanol ar gyfer IE6, IE7 ac IE8.

Mae’n rhaid bod ffordd i’w wneud heb orfod yr holl drafferth yma. ‘Ta’r ateb ydi dysgu côdio yn iawn?

Bydd Metastwnsh.com ‘mond yn gweithio ar Firefox, Safari a Chrome ar y rêt yma! (jôc)

Oes dyfodol i’r diwydiant digidol ym Mhrydain? (Rhan 2)

Wel, diddorol. Mae’n edrych fel bod un o’r Arglwyddi sy’n gyfrifol am newid ddoe yn ceisio mynd ar ôl pethau gwasanaethau fel YouSendIt sydd, yn ei geiriau nhw yn:

The Digital Economy Bill, as currently drafted, only deals with a certain type of copyright infringement, namely peer-to-peer file sharing. Around 35% of all online copyright infringement takes place on non peer-to-peer sites and services. Particular threats concern “cyberlockers” which are hosted abroad.
There are websites which consistently infringe copyright, many of them based outside the UK in countries such as Russia and beyond the jurisdiction of the UK courts. Many of these websites refuse to stop supplying access to illegal content.
It is a result of this situation that the Liberal Democrats have tabled an amendment in the Lords which has the support of the Conservatives that enables the High Court to grant an injunction requiring Internet Service Providers to block access to sites.

(o’r gwefan Lib Dem Voice: Lord Clement-Jones on the Digital Economy Bill: web blocking amendment)

Mae’n amlwg fod gwasanaethau fel hyn am gael eu defnyddio gan bobl sy’n lledaenu deunydd o dan hawlfraint, ond mae’r gwasanaeth hefyd yn cael eu defnyddio gan bobl am resymau cyfreithiol. Er enghraifft, mae Metastwnsh wedi defnyddio YouSendIt a Dropbox i yrru ffeiliau o’r podlediad o gwmpas ar gyfer golygu nhw cyn ei rhoi lan ar y we.

Mae ‘na amheuaeth heddiw hefyd o rhesymmau dros y newid, gan fod Boing Boing wedi nodi fod fod yr Arglwydd Clement-Jones wedi gweithio ar ran cwmni DLA Piper, sydd yn gwmni cyfreithiol sy’n arbenigo mewn dwyn achosion hawlfraint ayyb.

Yn wir, mae rhestr diddordebau Tŷ’r Arglwyddi yn dweud iddo gymeryd dros £70,000 ganddynt fel ‘Co-Chairman of DLA Piper’s global government relations’.

Does dim tystiolaeth yn dweud fod yr Arglwydd Clement-Jones wedi dod a’r newid ‘ma i’r ddeddf yn sgil ei waith hefo DLA Piper, ond mae’r wybodaeth sy’n dod i’r amlwg ddim yn edrych yn dda iawn (yn edrych trwy’r cofnodion Hansard ar gwefan ‘They Work For you’, doedd dim golwg fod yr Arglwydd Clement-Jones wedi datgan diddordeb yn yr achos ‘ma). Yn sicr, mae’r frwydr ‘ma dal ymlaen, a dwi’n eich annog chi i gysylltu hefo’ch aelod seneddol

Amser pryderus dros ben

15.03.10 “Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru”

Newydd gael ebost am y digwyddiad hwn wedi ei drefnu gan SALT Cymru…

Hoffai’r Uned Technolegau Iaith estyn gwahoddiad cynnes i chi i gynhadledd brynhawn “Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru” ar y 15fed o Fawrth yng Nghanolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor.

Bydd y gynhadledd yn dechrau am 1.30pm ac yn cynnwys cyflwyniad gan Kara Warburton, Pennaeth Terminoleg IBM, a fydd yn trafod pwysigrwydd terminoleg i ddiwydiant. Mae Kara wedi bod yn bennaeth terminoleg yn IBM ers bron i ddeng mlynedd, lle mae hi’n arwain ar strategaeth trin terminoleg y cwmni, ac ar ddatblygu eu hoffer technegol gan gynnwys eu cronfeydd data amlieithiog. Mae hi hefyd yn arwain grŵp o gynrychiolwyr diwydiant yn LISA (Localization Industry Standards Association), a hi erbyn hyn yw cadeirydd ISO TC37, y corff sy’n datblygu safonau terminoleg rhyngwladol. Mae ganddi radd meistr mewn technoleg o Université Laval ac mae hi wedi darlithio ar derminoleg mewn prifysgolion a chynhadleddau niferus.

Cynhelir y gynhadledd yn ystafell seminar ail lawr y Ganolfan Rheolaeth Busnes. (Bydd arwyddion i’ch tywys yno ar y dydd).

Ceir cyflwyniadau hefyd gan Dr Mike Unwalla o Techscribe, a fydd yn trafod Saesneg Rhyngwladoledig ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol, a David Chan o Brifysgol Bangor a fydd yn rhoi cyflwyniad ar Berswadio busnesau Cymreig i allforio’n rhyngwladol.

Dyma raglen y dydd:

Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru

Cynhadledd hanner diwrnod gan Rhwydwaith SALT Cymru ym Mhrifysgol Bangor, Mawrth 15, 2010

(Noder mai Saesneg fydd iaith y gynhadledd hon)

Prif Siaradwr: Kara Warburton, Cadeirydd ISO TC37 a Phennaeth Terminoleg IBM.
Lleoliad: Canolfan Rheolaeth Busnes, Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor

Rhaglen y Digwyddiad

1.30 Cofrestru a choffi

2.00 “Why are terminology and other language and content resources important for industry?” – Kara Warburton, Cadeirydd ISO TC37 a Phennaeth Terminoleg, IBM

3.00 “Internationalized English for international communication” – Mike Unwalla, Principal, TechScribe

3.30 “Persuading Welsh businesses to export multilingually” – David Chan, Swyddog Project, CAT Cymru

4.00 Lansio tair gwefan newydd:

4.30 Lluniaeth ysgafn a chyfle i rwydweithio

5.00 Cau

—-

Am fwy o fanylion, neu ar unrhyw fater arall, cysylltwch â ni ar (01248) 383559 neu ar y cyfeiriad e-bost isod.

Er mwyn i ni gael syniad o’r niferoedd, a wnewch chi gadarnhau eich presenoldeb drwy ymateb i’r e-bost hwn os gwelwch yn dda.

Edrychwn ymlaen i’ch gweld,

Tîm SALT Cymru

Toriadau yn y BBC – lle bydd toriadau Cymru?

llun: http://www.flickr.com/photos/timloudon/241414894/

Roedd na dipyn o hoo-ha ddoe ar draws y cyfryngau am benderfyniad y rheolaeth y BBC i ‘ail-ffocysu’ a ‘chwynu’ ei ddarpariaeth fel amlinellwyd yn y ddogfen strategaeth Putting Quality First. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i dorri BBC 6 Music, torri BBC Asian Network a’i ail-ddosbarthu drwy weddill y gorfforaeth, a’n fwyaf syfrdanol torri 25% ar wasnaethau ar-lein y BBC rhwng rwan a 2013.

BBC 6 Music a DAB

O ran BBC 6 Music i ddechrau, dwi’n siwr bod llawer yn ei werthfawrogi, ond yma yn Aberystwyth dwi heb lwyddo i diwnio mewn iddo yn gall un waith. Ma’r signal yn sketchy tu hwnt. Ar ôl trio unwaith roddais i’r gorau iddi. A dweud y gwir mae’r plethiad BBC DAB i gyd yn sketchy, felly da ni jest yn defnyddio’r radio DAB yn stafell y babi fel chwaraewr CD a radio FM. Rioed wedi clywed Adian Network, ond do’n i’m yn gallu deall cweit pam fod un lleiafrif yn cael lle ar blethiad DAB cenedlaethol o flaen lleiafrif arall yn y lle cyntaf.

Felly gan gymryd yr aiff 6 Music ac Asian Network i’w bedd, bydd dwy slot rydd ar y Mux DAB ym Mhrydain. Be fydd yn eu llenwi? Trydar adar? Mae’n amlygu pa mor stiwpid oedd cael Mux BBC ar gyfer y DU i gyd, yn hytrach na galluogi amrywiaethau cenedlaethol fel gyda teledu. Mae’n rhaid bod na atebion technegol wedi bod yn bosib reit ar y dechrau. Eniwe, ma’r craciau yn dod fwyfwy amlwg yn DAB ond mae honno’n stori wahanol i gofnod arall…

Slash (Dot) and Burn

Ac ymlaen at y toriadau yn y gwasanaethau gwe. Mae yna sawl dadl yn erbyn (hon yn enghraifft dda), ond a bod yn onest eisiau’r ongl Gymreig ydan ni fan hyn. Pa effaith gaiff y toriadau hyn ar wasnaethau Cymru? Dyma ddywed BBC Cymru (ond pwy yn BBC Cymru?!) ar erthygl ar Golwg360

Mae’n rhy gynnar i wybod union effaith yr adolygiad ar wasanaethau ar-lein y BBC yng Nghymru er bod Mark Thompson wedi cyhoeddi y bydd buddsoddiad yn ein blaenoriaethau, fel newyddiaduraeth, yn aros ar y lefelau presennol.

Felly mae na inference clir fan’na y bydd yna effaith o ryw fath ar wasanaethau ar-lein y BBC yng Nghymru. Pa effaith felly?

Fel mae Daniel Cunliffe wedi nodi yn ei gofnod blog ar y mater, mae’r adroddiad yn dweud yn glir:

the Review confirms the BBC’s commitment to “services that both reflect parts of the UK to the whole and serve specific areas with content that meets their needs and interests” and the long term strategy to achieve this includes “Continued support for the UK’s indigenous minority languages including through a renewed strategic partnership with S4C, and through Ulster Scots provision and BBC Alba.” (tud.43)

Ond dydi hynny ddim yn crybwyll y we, er y gallai hynny fod yn yr “including” wrth gwrs. Mae darpariaeth gwe Cymru eisoes wedi gweld toriad yn ei ddarpariaeth heb i lawer o neb sylwi wedi i wefannau Cymraeg BBC Jam gael eu atal oherwydd rhesymau ‘gwrth-gystadleuaeth”.

Efallai taw’r ffordd hawsaf o wneud hyn ydi ymateb i rai o’r pwyntiau yn y ddogfen “Putting Quality First” a dychymgu rhai o’r sgil effeithiau penodol…

All online content should feel justified and purposeful: not extraneous or encyclopaedic, but within a distinct editorial purpose.

“Not encyclopaedic” – mae na nifer o elfennau y gellid eu hystyried yn wyddoniaduraidd fel llawer o’r cynnwys hanes. Pwy sy’n cystadlu gyda hyn heblaw am y Gwyddoniadur ei hun, wn i ddim. Gwefannau amatur fynychaf mae’n debyg, gan nad oes arian mawr i’w wneud o hyn o fewn Cymru ac yn y Gymraeg.

Focusing the BBC’s website on the five content priorities (Gol: sef newyddiaduraeth; ysbrydoli gwybodaeth, cerddoriaeth a diwylliant; plant; drama a chomedi; digwyddiadau sy’n cysylltu pobol)

Gellid dadlau bod na sawl adran o wefan BBC Cymru sydd ddim yn disgyn i’r categoriau hynny. Yn arbennig felly elfennau mwy hanesyddol, statig a llai perthnasol i raglenni penodol. Ella bod gwybodaeth a diwylliant yn catch-all gyda’r math yma o dudalen, ond mae na lot o wybodaeth wedi ei storio ar BBC Cymru dros y blynyddoedd. Efallai y byddwn yn gweld tudalennau’n cael eu cadw, ond llai

New investment will be in pursuit of the five content priorities only, and there will be far fewer bespoke programme websites.

Does dim cymaint â hynny o wefannau bespoke gan BBC Cymru fel mae’n sefyll. Efallai y bydd gwefannau rhaglenni ar BBC Wales yn dioddef yn fwy o hyn – yn arbennig ar raglenni sydd ddim yn mynd ‘network’. Ond oes rhywun yn defnyddio gwefan Pobol y Cwm??

Mae na lawer iawn o wefannau defnyddiol ar y BBC ar gyfer dysgwyr a phlant ysgol. Rhain sydd siwr o fod ddrytaf hefyd o ran eu datblygu a chynhyrchu. Ydi plant yn golygu ‘adloniant’ (cysylltiedig â rhaglen ddrama er enghraifft) neu ‘addysg’ (pethau cysylltiedig a’r cwricwlwm ysgol)? Annodd iawn dweud.

In local online, the BBC will focus on its core editorial areas of news, sport, weather, travel and local knowledge, and improve the quality of its existing websites.

Wel yn sicr, ame angen diweddaru sut mae gwefannau ‘lleol’ Cymru (Gog Orllewin, De Ddwyrain etc) yn gweithio. Does dim rhyngweithio gyda chynulleidfa yn digwydd o gwbl yn unrhyw ardal ond y Gogledd Ddwyrain hyd y gwela i. Mae ganddyn nhw flog ac yn datblygu straeon trwy ymwneud a’u darllenwyr mewn ffordd agored ar-lein. Ma ‘local knowledge’ yn gallu cyfro popeth dan haul felly duw a wyr be ma’n golygu.

BBC Online will be transformed into a window on the web with, by 2012, an external link on every page and at least double the current rate of ‘click-throughs’ to external sites.

Wel, dwi’n croesawu hyn yn llwyr. Mae na llawer gormod o geidwadaeth gyda dolennu i gynnwys allanol ar wefannau BBC Cymru. Mae hyn yn raddol newid ond pan dwi’n gweld ‘blogiau’ BBC heb yr un ddolen yn agos iddyn nhw dwi’n gwaredu braidd. Yn arbennig yn y Gymraeg, mae angen annogaeth ar flogiau a gwefannau bach fel ni sydd yn ceisio cyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae un ddolen ar erthygl newyddion neu flog yn gallu gyrru mwy o draffig cyfrwng Cymraeg i’n gwefannau mewn diwrnod na chawn ni mewn wythnos gyfan! Dolennwch, dolennwch, dolennwch!

Refocusing the entertainment news category to reflect a more serious, concise agenda with stronger coverage of the media industry, culture and the arts

Mae gwefan BBC Cymru yn gwneud job reit dda o hyn yn barod gan roi arlwy ddeallus a phoblogaidd heb fod yn ‘dumbed down’. Yn wahanol iawn i’r gwasanaethau cyffredinol ar Radio Cymru.

Removing generic content in areas such as the Recipe Finder and /film—including instead content which has featured on BBC programmes or content to which the BBC has added distinctive editorial value.

Mae hyn yn beryglus braidd i beth cynnwys ar y tudalennau Cymraeg, gan nad oes yn aml gyswllt uniongyrchol rhwng dyweder, erthyglau llen a chelf, neu ddysgu Cymraeg â rhaglenni penodol. Mae C2 ar y llaw arall yn gwneud hyn yn effeithiol iawn gan groes beillio nôl a mlaen gan ddatblygu gwasanaeth croesd-blatfform digon taclus. Efallai bydd pwysau i ddilyn hyn ar gyfer adrannau eraill.

Fel mae Daniel Cunliffe yn nodi ei hun, er nad oes cyfeiriad penodol at doriadu i wasanaethau gwe Cymreig – a dim ond sêrydda ydw i wrth gwrs – all rhywun ond teimlo y bydd na rywfaint o ripple-effect. Os ydi pethau fel Switch a Blast yn mynd yna alla i ddim help a meddwl taw pethau fel Mosgito fydd yn teimlo hynny fama hefyd. Siawns gaiff ‘blog’ Gwynfryn y chop yn lle os oes na unrhyw degwch yn y byd ma!

Beth bynnag mae hyn yn golygu, dwi’n credu bod rhaid i’r Cynulliad weithredu ar unwaith i ddarganfod ffyrdd newydd o wthio gwasanaethau a chynnwys digidol ar-lein yng Nghymru ac i Gymru ymlaen yn ychwanegol i ddarpariaeth y BBC. Dydi Golwg360 ddim yr esiampl orau yn anffodus, ond mae’n rhaid bod dulliau o ariannu mentrau gwe arloesol yn yr un ffordd ac y mae celf a ffilmiau yn cael eu hariannu. Mae angen polisiau cadarn ar ariannu mentrau gwe annibynnol Cymraeg a Chymreig sydd yn gallu, efallai, ceisio tynnu ychydig arian hysbysebu mewn. Mae angen y buddsoddiad yma yn y sector neu gyda dim ond amaturiaid yn gweithredu fyddwn ni’n llonyddu a phylu tra bod y byd tu hwnt yn cymryd camau breision ymlaen.

Oes dyfodol i’r diwydiant digidol ym Mhrydain?

Bydd rhai ohonoch hefo cof da dwi’n siwr yn cofio darllen fy nghofnod ar y ddeddf economi ddigidol sydd yn mynd trwy Dŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd (Three Strikes a ti mas!). Mae cryn ddipyn wedi bod yn digwydd ers pryd ‘ny, ac da ni di gweld heddiw datblygiad arall sydd yn achos pryder.

Logo adroddiad Digital Britain

Heddiw, ddaru Arglwyddi ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr gyhoeddi eu bwriad i newid y mesur dan sylw i gynnwys cymal:

“Preventing access to specified online locations for the prevention of online copyright infringement

In Part 1 of the Copyright, Designs and Patents Act 1988, after section 97A insert—

“97B Preventing access to specified online locations for the prevention of online copyright infringement

(1) The High Court (in Scotland, the Court of Session) shall have power to grant an injunction against a service provider, requiring it to prevent access to online locations specified in the order of the Court for the prevention of online copyright infringement.

Ie, fydd y deddf yn galluogi pobl sy’n dal hawlfraint i mynnu fod cwmniau cyflenwi mynediad i’r we (neu yn cynnig gwasanaeth hostio gwefan) i rhwystro mynediad i gwefannau sydd yn cael eu cyhuddo o dori hawlfraint.

Mae cymal pellach yn dweud:

(4) Where—

(a) the Court grants an injunction under subsection (1) upon the application of an owner of copyright whose copyright is infringed by the content accessible at or via each specified online location in the injunction, and

(b) the owner of copyright before making the application made a written request to the service provider giving it a reasonable period of time to take measures to prevent its service being used to access the specified online location in the injunction, and no steps were taken,

Trwy ddarllen cymal “B”, mae’r gwir berygl yn amlwg, bydd cwmnïau yn ysgrifennu i’r cwmni ac yn rhoi cyfle iddynt rwystro mynediad neu gael ei herlyn. Y poen yw mai’r cwmni sydd yn cynnig y gwasanaeth sydd yn cael ei herlyn, nid y sawl oedd yn gyfrifol am dorri hawlfraint, a’r cwmnïau fydd yn gorfod talu costau, nid y bobl sydd wedi torri’r hawlfraint.

Y pryder i ni yw bod y newidiadau ‘ma yn mynd i gael effaith erchych ar y we fel bod ni’n ei adnabod, a fydd gwasanaethau fel Wordpress, Flickr, YouTube mewn perygl o orfod cwtogi ar ei gwasanaeth i Brydain rhag iddynt gael eu herlyn. Nid yn unig mae’r cwmnïau fel hyn mewn perygl, ond fydd lleoliadau sy’n cynnig cysylltiad i’r we am ddim mewn perygl, mae’r mesur nawr yn cynnwys y diffiniad:

“online location” means a location on the internet, a mobile data network or other data network at or via which copyright infringing content is accessible,

Mae sawl un yn amau fod y diffiniad ‘ma mor wan, fydd hi’n bosib dadlau bod y cyfrifoldebau yn y ddeddf hefyd yn disgyn ar siopau bach, prifysgolion a pob man sy’n cynnig gwasanaeth cysylltiad i’r we.

Diwrnod tywyll i ni gyd, gyfeillion, mae’r mesur i fod i hybu’r economi digidol, ond dyw hyn yn gwneud dim ond ceisio achub y hen gwmnïau analog, a ni fydd yn dioddef fel y rhai sy’n ceisio creu cynnwys newydd a chreu diwydiant newydd.

Dwi’n eich annog chi, PLÎS, PLÎS cysylltwch â’ch aelod seneddol a’u hannog nhw i wrthwynebu’r mesur. Esboniwch iddyn nhw pam fod hwn yn fesur sâl, pam ei fod o’n mynd i wneud pethau’n gwaeth yn lle gwell i’r economi digidol. Hefyd, plîs cadwch lygad ar wefan yr Open Rights Group am y diweddaraf o’r frwydr yn erbyn y mesur ‘ma.

Dyw’r frwydr ddim drosodd, mae’n rhaid i’r mesur fynd trwy sawl cam eto, ond da ni’n rhedeg mas o amser. Pan fydd y mesur ‘ma yn ddeddf, fydd hi’n anodd ar y diawl i ni fynd yn ôl.

Diolch

Bryn

Isdeitlo fel Basg

[wedi ei groes-bostio o Haciaith.com]

Mae Luistxo Fernandez, guru gwe Gwlad y Basg, wedi sgwennu cofnod yn sôn bod 3 o’r ffilmiau “iaith dramor” yn y ras am yr Oscars eleni yn cynnwys deialog mewn ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Corseg a Quechua.

Mae’n mynd mlaen i nodi bod Basgwyr wedi creu isdeitlau Basgeg ar gyfer un o’r ffilmiau hyn yn barod trwy wefan Azpitituluak sydd yn cyhoeddi isdeitlau Basgeg ar ffilmiau sydd ddim yn cael eu dosbarthu gyda isdeitlau yn yr iaith. A hyn oll wedi ei darddu gan y dorf. Dwi ddim yn deall yn iawn sut mae’n nhw’n rhoi nhw ar y ffilmiau ac yn rhannu’r ffilmiau wedyn ond mae’n grêt bod nhw’n mynd ati i lenwi bwlch yn y farchnad.

Dwi’n cofio clywed mewn cynhadledd yn Barcelona am fab un o’m cyd-gynadledwyr oedd yn treulio ei holl amser yn rhwygo cyfresi Americanaidd newydd fel Lost trwy Bittorrent, eu isdeitlo i’r Gatalaneg, a’u cyhoeddi ar Bittorrent eto a hynny o fewn oriau i’r rhaglenni gael eu darlledu yn yr UDA.

Prin y byddai’r ysfa i hyn ddigwydd yma gan bod pawb yn deall Saesneg cystal, gan weld yr ymdrech o isdeitlo Cymraeg i ffilmiau tramor fwy o strach nac o werth. Ond mae ffilmiau ar gael gyda isdeitlau Sbaeneg, felly pam na ddylen ni gael gweld ffilm Quechua gyda isdeitlau Cymraeg yn lle rhai Saesneg. Byddai na hefyd fanteision i wneud detholiad o ffilmiau o’r fath ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn arbennig. Ac yn sicr mae na fanteision i ni ei wneud y ffordd arall rownd – h.y. rhoi cynulleidfa wahanol i sdwff cyfrwng Cymraeg.

Mae gwefannau sy’n galluogi hyn eisoes fel DotSub (er dwi’n siwr nad oes posib rhoi ffilmiau Hollywodd arno…) a gallwch chi fynd ati i gyfieithu rwan drwy helpu Rhys i drosi testun un o fideos Hacio’r Iaith ar gyfer cynulleidfaoedd Saesneg…

dotsub

Dydd Gŵyl Dewi 2.0

Wel, dyna syndod ynte… Dydd Gŵyl Dewi ar frig pynciau trafod ar Twitter:

Dydd Gŵyl Dewi ar Twitter!

Ar ran pawb yma ar Metastwnsh.com, fyswn i yn hoffi dweud Dydd Gŵyl Dewi dedwydd i chi gyd!

Dydd Gŵyl Dewi ar Google

Ond, mae ‘na helynt heddiw dros ddewis Google i newid eu logo i gynnwys Castell Caernarfon fel arwydd o fod hi’n Ddydd Gŵyl Dewi. Mae ‘na gryn dipyn o drafod wedi bod os oedd Google wedi gwneud camgymeriad trwy ddefnyddio hen arwydd o rym milwrol y Saesneg yn ceisio dinistrio’r wlad, yntau bod nhw wedi dewis golygfa adnabyddus i ddathlu diwrnod y prif-saint.

Beth yw eich barn chi?

?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos