OS 3.0 – Safbwynt defnyddiwr iPod Touch.

O bryd i’w gilydd dwi’n teimlo fel y ‘poor cousin’ i ddefnyddwyr iPhone pan mae’n dod i newyddion a sylwebaeth am ddatblygiadau OS 3.0. T’beth, dyma fy sylwebaeth i ar OS 3.0 i fy iPod Touch genhedlaeth gyntaf.

Er fy mod i wedi edrych ymlaen at gyhoeddi’r OS 3.0 nid oeddwn yn hapus i orfod talu £5.99 ar gyfer yr ypdêt!  Yep oedd rhaid i fi dalu am yr OS yn wahanol i ddefnyddwyr iPhone a chafodd eu OS 3.0 am ddim!

Mae'r gallu i chwilio am ffeiliau ar yr iPod yn help mawr.

Mae'r gallu i chwilio am ffeiliau ar yr iPod yn help mawr.

T’waeth, ar ôl lawr lwytho a’i osod (a chymerodd oes)  rwy’n ddigon hapus gyda’r hyn sydd wedi cael ei ryddhau.  Mae lawer wedi datgan bod yr hyn sy’n cael ei gynnig gan 3.0 yn llai na beth a ddisgwylir.  Digon teg, oedd yr hype am y peth wedi cynyddu ac oedd disgwyliadau yn uchel, fel pob tro mae Apple yn rhyddhau cynnyrch.

Dydw i ddim am lunio rhestr hirfaith o beth mae 3.0 yn cynnig gan fod modd i weld hyn mewn amrywiaeth o lefydd ar y we, ond fe wna i son am beth sy’n sefyll allan i fi.

Yn gyntaf gwell i mi pwyntio allan bod gen i iPod Touch cenhedlaeth gyntaf, ac felly mae rhai rhinweddau o 3.0 ddim yn ddilys i fy iPod i.

Torri a Gludo

Torri a Gludo

Y peth cyntaf oeddwn i yn edrych ymlaen at oedd “Cut and Paste”.  O’r diwedd mae modd torri a gludio testun o un lle i’r llall ar y teclyn yma, sydd i mi yn cael ei defnyddio yn fwy fel cyfrifiadur poced erbyn hyn nag iPod.

Yr ail beth oedd wedi sefyll allan i fi oedd newidiadau yn sgrin y Podlediadau ar yr iPod.  Fel rhywun sy’n gwrando ar lot o bodlediadau dwi o dro i’w gilydd yn awgrymu podlediad i pobl eraill.  Wel, nawr mae modd e-bostio linc i bodlediad yn syth o’r sgrin pan wrth i chi gwrando arno fe!  Ynghyd a hyn mae modd nawr i newid cyflymdra’r podlediad yn syth ar y sgrîn a hefyd mynd nôl 30 eiliad os ydych chi wedi colli unrhyw beth.

Mae Apple hefyd wedi galluogi ‘chwilio’ ar y teclyn fel y bod modd dod o hyd i gynnwys arno fe yn haws.  Mae eu technoleg ‘Spotlight’ ar y Mac wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac wedi darganfod lawer o ffolderi oeddwn i wedi “colli” dros y blynyddoedd, ac mae hyn ar yr iPod Touch yn derbyn croeso gen i o leiaf!

Y peth arall sydd wedi tynnu fy sylw i yw gwasanaeth “Find my iPod / iPhone”.  Mae modd defnyddio hwn i leoli eich iPod Touch os yw e wedi mynd ar goll.  Digon cŵl y’ch chi’n dweud?  Wel, that aint nothing!  Mae hefyd modd i arddangos neges ar y sgrîn a hefyd i ddileu eich cynnwys personol (adfer gosodiadau ffatri) oddi ar y teclyn, rhag ofn iddo gwympo i’r dwylo anghywir.  Ond fe allai hyn arwain ar gyfwynebiadau (peryglus o bosib), fel sydd eisoes wedi digwydd.

Rhinweddau newydd i'r podlediadau

Rhinweddau newydd i'r podlediadau

Ond yr hyn a oedd wedi fy syfrdanu ychydig oedd y ffaith bod gan yr ail genhedlaeth o iPod Touch bluetooth, sydd nawr yn gallu cael ei defnyddio gydag OS 3.0.  Cyn nawr, oedd gan yr ail genhedlaeth y gallu i’w wneud, ond nid oed yr O.S 2.0 yn caniatáu hyn.  Felly mae modd nawr defnyddio clustffonau diwifr, ac yn fwy pwysig chwarae gemau gyda defnyddwyr eraill.  A dyna’r datblygiad mwyaf pwysig i Apple dwi’n credu, maen nhw yn gweld yr iPod Touch fel “gaming platform” i gystadlu gyda’r PSP.  Fel dwedasant nhw yn ddiweddar mewn ymgyrch hysbyseb “It’s the funnest iPod ever”. Felly chwi iPod Touchwyr mas fan ‘na, mwynhewch yr hwyl!

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Fel perchennog iPod Touch genhedlaeth gyntaf, fel tithau, dwi’n teimlo fel ‘poor cousin’ i ddefnyddwyr iPhone, hefyd.

Diolch am yr erthygl yma. Diddorol a defnyddiol iawn.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos