O2 Mobile Broadband ag uplodio – diffyg 3G

Mi wnes i y penderfyniad o weithio oddi wrth fy nghysylltiad WiFi bore ma, a defnyddio fy dongle O2 Mobile Broadband. Fel dwi’n sgwennu hwn, mae’r MacBook yn uploadio llun i roi ar flog dwi’n sgwennu iddo. Mae’n andros o araf.

Mae defnyddio y dongle i sgwennu blogs yn iawn, ond dwi ddim yn meddwl y wnai uploadio lluniau na fideos tra’n ei ddefnyddio dros rhwydwaith 2G. Mae hyn yn mynd yn ol at rhiwbeth wnaeth Rhys Llwyd ’sgwennu am y difyg signal 3G sydd yng Nghymru.

Dwi wirioneddol eisiau gallu defnyddio y dongle i’w botential llawn ond dydi ddim yn bosib i mi wneud hynnu ar hyn o bryd.

Dewch ‘laen O2, uwchraddiwch y rhwydwaith gyfan i 3G. Diolch.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Mae angen gwella yng Nghaernarfon hefyd.

Beth am ddechrau ymgyrch i ceisio gwella cysylltiadau yng Nghymru?

Sa ymgyrch i wella’r safon yn wych. Ond sut mae mynd o gwmpas dechrau rhiwbeth felna?

Dwi’n eithaf siwr y bysa ni’n gorfod gwneud ymgyrch sydd yn cynnwys pob cwmni. Dim pwynt gwneud o just i O2.

Ma 3g yn diffodd unwaith ti allan o ganol Aberystwyth ac yn diflannu wedyn am ddegau o filltiroedd.

Cytuno byddai ymgyrch yn syniad da. Gyda ma’n cymryd ydi cofnod blog a slogan weithia! Trio cael pobol i hyrwyddo fo wedyn drwy Twitter a blogs eraill + haslo ACau + Ofcom etc.

Syml! ;-)

Awe ta Nwdls, penaeth yr ymgyrch.

Dwi’m am arwain ar hwn, gormod o betha eraill ar fy mhlat, ond ella fod rai o’r lleill yn gallu gwneud.

Diddorol gweld bod cofnod blog technoleg BBC am 3G a’r straen pellach fydd ar y rwydwaith drwy 02 yn cael y PalmPre i’w hunain.

http://www.bbc.co.uk/blogs/technology/2009/07/can_o2_cope_with_smartphone_tr.html

Mae’n eithaf clir o’r map welwch chi yma ar wefan Ofcom, sy’n cyd-fynd ag adroddiad heddiw ar sefyllfa 3G, bod Cymru yn dlawd iawn. Mae rhan fwyaf o’n signal 3G ni allan yn y môr!

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)