Metafilter yn 10 oed

Mae hen ŵr doeth y blogosffêr yn 10 oed heddiw.

I chi sydd ddim eisiau gwybod am drafodaethau diddorol, aeddfed a deallus: pawb at y peth y bo, ond ewch draw i trolio sylwadau YouTube rwan…

Ond i chi sydd eisiau gweld esiampl o gymuned ar-lein sydd wedi llwyddo i beidio gostwng ei safonau wrth iddi dyfu, ac wedi cadw ethos ddechreuol y wefan yn fyw yna da chi ymwelwch â Metafilter.

Ar y 14eg o Orffenaf 1999, postiodd Matt Haughey gofnod am wefan lle mae pobol yn sganio eu cathod (a heddiw mae cofnod mewn homage i’r gofnod honno wedi ymddangos…). Tyfodd Metafilter i fod yn fwy na blog ffiltro cymunedol, i fod yn gymuned ynddo’i hun sydd wedi ehangu i wneud gwasanaeth cwestiwn ac ateb, podcasts a cherddoriaeth.

Ond craidd y wefan yw’r blog ar y cyd – dim ffrils, dim delweddau – jest testun, dolenni lu, a thrafodaeth (gyda rhagor o ddolenni). Mae’n wet dream ar gyfer cloddwyr cynnwys diddorol ar y we. Gall rhywun dreulio oriau yn pori trwyddo a chael eu harwain ar daith wybodus i faesydd esoteric ac ecsentrig y byd (a’r arall-fyd) hwn. Os dwi’n cyrraedd pwynt wrth syrffio’r we lle nad oes unrhywbeth dwi eisiau ei weld, dwi’n troi at Metafilter.

Mae ambell i gofnod yno am Gymru ac am y Gymraeg sy’n werth pip, ond mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae nhw’n cynnal dathliadau ledled y byd dros y dyddiau nesaf – os na da chi am fynd i un, yna ewch draw i’r wefan a threuliwch orig neu ddwy yn pori trwy’r archif. Mi welwch chi fyrdd o ryfeddodau.

Os oes ganddoch chi hoff gofnod o Metafilter, yna be am rannu fo efo ni yma?

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Dim sylwadau eto.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos