MacBook
Wel dyma fi yn gwneud fy mhost cyntaf ar www.metastwnsh.com o fy MacBook newydd. Mae’n cymeryd dipyn o amser i ddod i arfer hefo sut mae’r trackpad yn gweithio, ond wedi dweud hyna mae’n intuitive iawn i’w ddefnyddio.
Dwi’n gweld colli’r right-click i fod yn onnest ond dwi’n gwybod bod modd ei droi ymlaen yn y preferances. Ond be ti’n golli o’r right-click ti’n gwneud i fynny hefo’r multi-touch gestures. Mae rhain yn hollol wych. Dwi wrth fy modd hefo medru scrolio just trwy ddefnyddio dau fys i wneud.
Mae na lot o bethau dwi’n gweld yn dda hefo’r MacBook ma. Dwi hyd yn oed gweld hi’n hawdd sgwennu hefo’r cyfrifiadur. Am rhiw reswm mae’n teimlo’n llawer iawn mwy hwylus.
Dwi’n reit falch bo fi wedi cymeryd y plunge a cael fy nwylo ar y MacBook er ei fod wedi costio dwy waith cyn gymaint a PC i fod yn onnest. Mae o genai rwan a dwi ddim yn mynd i roi o yn ol o gwbwl. Mae’n debyg bydd y PC laptop yn cael ei roi mewn cwpwrdd rwan i gael seibiant.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.




Sylwadau
Dim sylwadau eto.
Gadewch sylw