Hysbysebu
Mae Metastwnsh.com yn wefan fywiog sydd yn rhoi dadansoddiad a thrafodaeth o dechnoleg a’r we drwy’r iaith Gymraeg.
Yn ddiweddar daeth y blog ar frig rhestr deg uchaf Golwg360 (http://stwnsh.com/un) o flogiau amatur Cymraeg ac rydym yn falch iawn o’n cyflawniad o ystyried bod y gofnod gyntaf ar y blog ond blwyddyn yn ôl. Rydym hefyd wedi tyfu o fod â 4 cyfrannwr i 9 fel mae hi’n sefyll.
Nid dim ond y blog technoleg sydd gennym ni ar y wefan. Dros y flwyddyn rydym ni wedi datblygu a lansio darpariaeth ar gyfer creu URLs bach drwy stwnsh.com ac mae gennym bodlediad a fodlediad ein hunain sydd ar gael ar y wefan a thrwy iTunes.
Ar ein penblwydd yn 1 oed rydym yn ceisio sicrhau bod blwyddyn arall i ddod i Metastwnsh ac yn cynnig lle i chi hysbysebu neu noddi’r wefan, y podlediad a’r fodlediad. Bydd pob ceiniog yn mynd tuag at wella’r wefan ac i sicrhau bod y cynnwys yn parhau i dyfu.
Rydym wedi cael cyfartaledd o 1,000 defnyddiwr unigol y mis, dros y flwyddyn ddiwethaf, felly gallwch gyrraedd cynulleidfa dda i hysbysebion neu wybodaeth am eich cynnyrch.
Gallwn gynnig telerau fel a ganlyn:
Baner Fawr (4 slot ar gael)
Baner maint 728px × 90px ar dop y blog
- 3 mis = £35
- 6 mis = £50
- 12 mis = £80 (arbediad o dros 40%)
Hysbys Bach (8 slot ar gael)
Hysbys bach maint 125px x 125px ar far ochr dde y blog
- 3 mis = £25
- 6 mis = £40
- 12 mis = £60 (arbediad o 40%)
Podlediad
- Slot sain 20 eiliad ar ddechrau podlediad misol Metastwnsh = £10
- Noddi podlediad Metastwnsh am flwyddyn = £60 (arbediad o 50%)
Fodlediad
- Slot fideo 10 eiliad ar fodlediad achlysurol Metastwnsh = £10
- Noddi fodlediad Metastwnsh am flwyddyn (gwarant o 6 fideo) = £60 (arbediad o 50%)
Bydd pob hysbysebwr newydd hefyd yn cael eu crybwyll yn y cofnodion blog, fydd yn cael ei ddosbarthu trwy RSS i Twitter/Facebook/Blogiadur ayyb
Edrychwn ymlaen i drafod eich anghenion gyda chi. Am sgwrs am y telerau, cysylltwch â hysbysebion@metastwnsh.com



