Gwyl Cyfryngau Celtaidd Caernarfon 2009 – Rhy Analog?

Disclaimer: nes i sgwennu hwn yn wreiddiol nôl ym mis Ebrill a’i gadw fel drafft, ond anghofio amdano yn llwyr tan i fi ail-edrych arno fo rwan, a meddwl, dwi di sgwennu fo – waeth i fi gyhoeddi fo ddim. Felly, dyma chi…adolygiad (hwyr iawn…iawn) o’r Wyl Cyfryngau Celtaidd 2009…

CMF300XFues i fyny yng Nghaernarfon wythnos dwetha i’r Wyl Cyfryngau Celtaidd. Gwyl flynyddol sy’n teithio rownd y gwledydd Celtaidd un ar ôl y llall. Doedd cipolwg ar y rhaglen ddim wedi ennyn llawer o gyffro ynddo i, ond mae’n ddyddiad eithaf pwysig yng nghalendr cyfryngau’r gwledydd bychain sy’n cymryd rhan ac yn gyfle i weld be di be a phwy di pwy, ac i ddal fyny efo ambell gyfaill. Nid nepell i ffwrdd hefyd felly off a fi am sbin.

Ond y prif argraff gefais i wrth deithio yn y car nôl am Aberystwyth, oedd bod yr wyl ar y cyfan dal yn byw yr oes analog. Roedd themau llawer o’r sesiynau yn ddi-fflach a chorfforaethol ac yn teimlo fel eu bod yn bryderus am y dyfodol yn lle’n gyffrous amdano (heblaw am un BBC Alba). Roedd y slant yn gryf ar y cyfryngau teledu gyda sylw prin i unrhyw ddatblygiadau newydd ac mae’r rhaglen yn drwm gyda phryder tros warchod y strwythurau cyfryngol sy’n bodoli rwan yn hytrach na gweithio i addasu i’r strwythurau newydd sy’n eu prysur ddisodli. Mae enwi sesiwn yn “Can we have our tv back?” yn amlwg yn ceisio bod yn polemic, ond roedd rhai yno fel eu bod wir yn hiraethu am yr hen system.

Hen Rech Flin

Gallaf grynhoi’r profiad mewn un anecdote: wrth i’r sesiwn ar y cyfryngau digidol ddirwyn i ben, agorwyd y drafodaeth i’r gynulleidfa. Y person cyntaf i godi ei law oedd actor a chynhyrchydd adnabyddus ac nid gofyn cwestiwn wnaeth o i ddechrau ond ceryddu y rhes o bobol o’i flaen fel plant ysgol am ddefnyddio eu ffonau yn ystod y cyflwyniadau, am eu bod yn tynnu ei sylw.” Pa ran o ‘dylech chi droi eich ffonau ffwrdd’ oedden ni ddim yn ei ddeall”, meddai, a “dylen ni fod a’r cwrteisi i fynd i’r rhes ôl os oedden ni eisiau gwneud hyn”. Wel, dyna ddweud wrthyn ni rafins bach digywilydd yndê!

Wrth gwrs roedd pawb o be allwn i ei weld un ai’n tweetio, tynnu lluniau o gyflwyniad diddorol DK o gwmni Mediasnackers a’i twitpicio, gwneud fideo o bethau at wedyn neu sgwennu nodiadau  – i gyd oddi ar eu smartphones – a dwi’n falch i Rhoda Meek, datblygwr gwe o’r Alban, godi wedyn ac esbonio i’r bonheddwr beth yn union oedd pawb yn ei wneud, ac y byddai braidd yn od pe *na* byddem ni’n gwneud y ffasiwn beth mewn sesiwn ar y cyfryngau digidol.

Gwyl ar gyfer rhai cyfryngau’n unig?

Ond o ddifri, all yr wyl alw ei hun yn wyl “gyfryngau” Celtaidd pan does ond un categori yn benodol ar gyfer cyfryngau digidol (y categori rhyngweithiol) sydd gyda ystod mor eang o fathau o wefannau a chynnwys ynddi ei bod yn annodd gweld sut gallai rhywun eu beirniadu ochr-yn-ochr?

A does dim sylw yn cael ei roi i natur y cyfryngau sy’n cael eu creu heb gymorth y cyfryngau traddodiadol heddiw. Lle mae’r blogiau, cynnwys delwedd symudol anibynnol, gwefannau rhwydweithio, mashups gweledol, ayyb ayyb yn hyn i gyd?

Lle ma’r cyfle i drafod yn ddwys anghenion y cyfryngau digidol newydd o ran ariannu, datblygu cynnwys a phobol, cadw talent ac arloesi?

Yn gryno –> Lle mae’r cyffro?

Ddweda i lle – yn nhafarn y Morgan Lloyd ar y nos Fercher wrth wylio 9 ffilm fer anibynnol gyda thorf o dros 50 o bobol, tra’r oedd y sinema symudol ar y maes bron yn wag.

Amser ail-feddwl yr wyl?

Mae’r Wyl yn 30 mlwydd oed eleni – a dwi’n meddwl ei bod hi wir yn dechrau dangos ei hoed. Dyw newid yr enw o “Wyl Ffilm a Theledu” i “Wyl Gyfryngau” ddim am eich gwneud yn fwy perthnasol dros nos. Peidiwch fy nghamddeall, dwi’n eithaf hoff ohoni fel gwyl ac mae lle yn sicr i ddathlu holl gynnyrch cyfryngol ein gwledydd gan roi hwb a hyder i’n gilydd yng ngwyneb anferthedd y cyfryngau Prydeinig a rhyngwladol. Mae hynny’n beth prin iawn y dylid ei arbed a’i drysori.

Ond efallai ei bod yn amser ail-feddwl rhai o amcanion a dulliau gweithredu yr wyl hon (sy’n costio dros £100,000 i’w rhedeg yn ôl y sôn…llawer ohono yn arian gan ein darlledwyr a Chyngor Gwynedd y tro hwn) ac adlewyrchu rhai o’r amryfal ffyrdd mae tirwedd cyfryngau y gwledydd Celtaidd yn newid. Rhaid gwneud hyn os ydym ni wir am gynnal cyfryngau byw o bob math ar bob platfform i adlewyrchu a diddanu bywyd pob person sy’n byw yn y gwledydd Celtaidd dros y 30 mlynedd nesaf.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Dw i’n cytuno. Ces i amser da eleni ond mae llawer o gyfleoedd i wneud pethau gyda arlein.

Beth wyt ti eisiau wneud? Mae diwydiannau teledu/ffilmiau a’r we yn gwahanol iawn!

Baswn i rhannu profiadau arlein gyda ieithoedd lleiafrifol eraill.

(Datgeliad: nes i barnu’r categori rhyngweithiol eleni.)

Oes mae llawer o gyfleoedd i gynnal trafodaethau ar-lein ac i greu digwyddiadau difyr ar gyllideb isel, ond pan mae arian cyhoeddus yn cael ei siphono mewn i ddigwyddiadau fel hyn sydd yn honni i fod eisiau trafod y cyfryngau yn ei gyfanrwydd (ac mae hynny i mi yn cynnwys llawer o gynnwys sydd yn egsgliwsif i’r we, ond sydd yn glyweledol) yna mae’n anffodus iawn bod yr ochr rhyngrwyd o bethau yn dioddef.

Dwi wedi cael ar ddeall ers sgwennu’r gofnod bod yr wyl wedi costio llawer mwy na £100k, felly meddylia beth fyddai gwario 10% o hynny, neu’n well fyth 10% o gyllideb S4C ar wasanaethau gwe-yn-unig. Byddai’n creu step-change yn y diwylliant ar-lein Cymraeg yn fy marn i a hoffwn i weld Gwyl fel y Geltaidd yn cydnabod o ddifrif yr hyn sy’n digwydd ar-lein gan gyfrannu ato yn lle hel bwganod am dranc darlledu (a’i swyddi saff nhw…).

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos