Gorsedd y Gîcs yn #eisteddfod09

Dyma fydd reader meet-up cyntaf swyddogol metastwnsh.com! Dewch yn llu…

Gorsedd y Gîcs yw'r lle i fod ar ddydd Iau, 6ed o Awst, 5.30 yn y Plas Coch, Bala

Cyfle i bawb yn rhaglennwyr, blogwyr, ffans gwefannau cymdeithasol, dylunwyr gwe neu nerds teclynnau i ddod a siarad dros beint, paced o scampi fries a digonedd o sudd WiFi i gadw’r iphones a’r netbooks yn llawen.

Dewch i ddangos eich project diweddara ac i weld pwy sy’n gwneud be yn y rhithfro.

Cadeirio? Pah!

Gorsedd y Gîcs yw’r lle i fod ar ddydd Iau, 6ed o Awst, 5.30 yn y Plas Coch. Digwyddiad #eisteddfod09, heb os!

Gad i ni wybod os wyt ti’n dod drwy ychwanegu dy enw at y rhestr ar hedyn.net.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Tydw i ddim yn gredwr mawr mewn trefn chwaith! Ond wedi dweud hynny, ella y bysa hi’n syniad da cael lleoliad ac amser ar gyfer y peth.

hmmm, dwi’n gweld y lleoliad a’r amser yn ddigon clir ar y flyer, ond wnai roi o yn nhestun y cofnod nawr i chi sy ddim yn hoffi edrych ar bethau pert.

A! Tydi’r ffleiar ddim yn arddangos ar fy sgrin am ryw reswm, dim ond y testun ‘alt’. Ond dwi wedi llwytho’r ffeil yn uniongyrchol (del iawn gyda llaw!) ac wedi cael fy ngoleuo ar y mater. Diolch!

Wel dyna ti wedi fy nal allan te – ddyliw ni wedi llenwi allan yr alt text!

Tydy’r llun dal ddim i’w weld, ond dw i wedi ei lwytho fy hun hefyd ac mae’n bert iawn.

Yn anffodus, dw i ddim yn meddwl bydda i’n gallu muynd i’r steddfod leni a byddai’n methu’r peth ta beth :(

Ydw hwn yn record o sylwadau mewn rhes gan bobl gyda’r un enw?

Gweithio’n iawn rwan.

Gan nad Rhys ydi fy enw i, dwni’m os ddyliwn i fod yn yn rhoi sylw ar y post yma ;-) Nah, edrych mlaen yn arw – bydd rhaid meddwl am bynciau trafodaeth, siaradwyr gwadd etc. cyffroes!

Dwi wedi golygu’r “alt” text rwan

Gwall iaith ar y ffliar. eu gilydd —> ei gilydd.

Gwych! Fydda’i yno! Edrych ymlaen i gyfarfod pawb yn y cigfyd!

Byddai’n syniad rhoi linc at y calynol:
http://hedyn.net/digwyddiadau#eisteddfod_genedlaethol_bala_09

yng nghorff y cyfnod uchod, er mwyn i bobl nodi os ydynt yn bwriadu dod?

Hefyd, a mae hyn yn hollol, hollol pedantig, ond oes angen y ‘09′ ar ddiwedd y tag Twitter? Pan gynnigais i tag eisteddfod06 rhai blynyddoedd yn ôl y rheswm oedd ar gyfer Flickr, i wahaniaeth rhag lluniau o’r holl ‘eisteddfodau’ sy’n cael eu cynnal yn Awstralia.

Heblau am y gîcs sy’n darllen Metastwnsh, mae’n siwr bydd y rhanfwyaf o bobl a fydd yn tagio’r Eisteddfod Genedlaethol eleni ond yn defnydio #eisteddfod (os yn tagio o gwbl, hefyd rydych yn arbed dau ‘lythyren’ gwerthfawr. Gan bod Twitter yn canolbwyntio ar ‘real-time’ bydd dim ots am tweets yn cynnwys #eisteddfod o’rgorffennol, achos mond beth dydd yn cael ei drafod rhwng 1af a 8fed o Awst sy’n bwysig (ac a fydd yn ddiwerth wedyn).

Ydy hyn yn neud sens?

Wnai ychwanegu’r ddolen nes mlaen nawr.

Deall dy bwynt di am #eisteddfod yn hytrach nag #eisteddfod09, fe fuodd na drafodaeth frwd dros twitter rai wythnosau yn ôl ac #eisteddfod09 wnaeth gario’r dydd. Gobeithio y bydd dylanwad Metastwnsh fel “sefydliad” yn y byd technoleg Cymraeg yn gallu cario’r dydd a chael #eisteddfod09 i sticio!

Rydym ni’n anog pobl i’w ddefnyddio mewn llefydd lletach na jest twitter. Flickr, blogs etc… hefyd.

Hei Rhys

Mae na lot o noise #eisteddfod Awstralaidd ar Twitter hefyd.

Efallai byddai #eist09 yn well wedi meddwl, ond efallai ei bod yn rhy hwyr i fod yn ffaffio gyda’r hashtag erbyn hyn.

Oes na obaith i rhywyn rhoid iPhone neu rhywbeth yng nghanol y bwrdd a recordio y sgyrsiau sy’n mynd yn ei flaen i rheina ohonom sydd methu bod yna?

Oedd na ormod yn mynd mlaen, a lot ohono’n rhy anffurfiol i fod yn ddiddorol (hynny yw, oeddan ni’n siarad am Tour de France yn lle technoleg!).

Aeth y sgwrsio mlaen tan tua 10.30pm hefyd felly fydda di bod yn anodd dal bob dim, ond dwi’n meddwl bod un peth yn bendant – y dylen ni gael diwrnod cyfa ryw bryd yn y dyfodol agos i drafod a chyflwyno syniadau mewn ffordd lot mwy trefnus.

[...] I had to dig to find the cultural stuff at the maes but it was there, stuff like Tu Chwith at the Pabell Len (literature), Pictiwrs showing shoestring films and Twm Morys roaring and banging a stick on the ground. I saw someone singing Time After Time by Cyndi Lauper but in Welsh and on a harp which is something to write home about, I guess. There were a couple of noteworthy tech launches too (Cysill grammar checker and a belated but welcome phone from Samsung that does predictive text in Cymraeg) and the inaugural Gorsedd Y Gîcs. [...]

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos