Google yn rhoi isdeitlau awtomatig ar fideos YouTube

Mae blog Google newydd gyhoeddi echddoe eu bod nhw wedi cyflwyno fersiwn Beta o wasanaeth sydd yn isdeitlo cynnwys fideo ar YouTube yn awtomatig. Ac ar ben hyn gallwch gael cyfieithiad o’r isdeitlau’n fyw. Ochr yn ochr a hyn gallwch ddefnyddio’r system (sy’n defnyddio technoleg adnabod llais Google Voice)i drosi trawsgrifiad testun i isdeitlau wedi eu hamseru’n awtomatig i gyfateb a’r fideo.

isdeitlo YOuTube

Dwi’n gwybod bod y math yma o dechnoleg wedi bod yn cael ei ddatblygu ers tipyn mewn sawl lle, ond mae ei ddefnydd ar blatfform mor eang ei ddefnydd a YouTube yn gam sylweddol ymlaen nid yn unig ar gyfer pobol trwm eu clyw a byddar, ac ar gyfer deall stwff mewn ieithoedd eraill ond ar gyfer chwilio fideo’n fwy effeithiol hefyd.

Ar hyn o bryd dyw’r gwasanaeth ond ar gael ar gyfer sianeli fideo Google ei hun, neu eu partneriaid addysgol ar YouTube EDU, ond mae’n werth rhoi tro arno. Dim ond yn y Saesneg mae’r isdeitlo awtomatig yn digwydd ar hyn o bryd a’n anffodus dyw’r Gymraeg ddim yn un o 52 dethol iaith y peiriant cyfieithu eto (er bod y Wyddeleg a Galisieg yno) felly bydd raid anfon ebost, a bod yn amyneddgar (amyneddgar iawn efallai) cyn gawn ni weld ychwanegu Cymrae at y rhestr.

Dyma’r fideo esboniadol i roi chydig mwy o wybodaeth:

Dwi’n meddwl bod hwn yn hynod gyffrous ac os mae posib cael YouTube i roi Cymraeg fel dewis cyfieithu, a pham lai gan taw Google Translate mae’n nhw’n defnyddio siwr o fod, yna gallwn ni gael ffordd arall o ddod o hyd i gynnwys Cymraeg ar y llwyfan hwn. Bydd hefyd yn rhoi mynediad (o ryw fath – dwi’n derbyn na fyddai o safon uchel) at gynnwys Cymraeg i’r di-Gymraeg a dysgwyr.

Yn ogystal, oes modd cael y BBC i gydweithio gyda YouTube a rhannu eu meddalwedd adnabod iaith Cymraeg sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer Democratiaeth Fyw? Gallen ni wedyn fanteisio ar gael defnydd y gwasanaeth Auto-Timing sy’n rhoi timecodes awtomatig ar gyfer eich testun. Byddai hyn yn torri lawr ar y gwaith caib a rhaw o osod isdeitlau yn sylweddol (ac yn rhoi’r timecodes ar gyfer eu rhoi nhw ar y fideo yn ‘burnt-in’ yn hytrach na dim ond ar YouTube).

Meddwl bod hyn oll yn hynod gyffrous. Unrhyw feddyliau gan Stwnshwrs eraill ar hyn?

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Gwych o beth. Diddorol bod y boi yn y fideo yn fodlon dweud “weithiau nag yw’r canlyniadau cystal, ond mae deall tipyn yn lot well na deall dim” – mae hyn yn allweddol, ac mae’n dda bod Google yn onest amdano fe.

[...] This post was mentioned on Twitter by Paul Richardson, metastwnsh. metastwnsh said: Google yn rhoi isdeitlau awtomatig ar fideos YouTube: Mae blog Google newydd gyhoeddi echddoe eu bod nhw wedi cyflw… http://bit.ly/8Bw3sV [...]

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)