Google Reader a chyfieithiadau Cymraeg

google_reader_logo Mae Daniel Cunliffe wedi sgwennu cofnod ar ei flog ardderchog Datblogu, sy’n holi pam bod Google yn clodfori’r ffaith ei fod yn gallu rwan cyfieithu eich feeds ar Google Reader mewn i’ch iaith dewisol, pan fo yno ddim ond ychydig iawn o brif ieithoedd ar gael yno. Mae yno ymateb diddorol gan ‘Mark’ yn y sylwadau am pam nad yw Google wedi rhoi cyfieithiad Cymraeg, er enghraifft, ar gael yno i ddefnyddwyr.

Wrth gwrs does yna yr un cyfieithydd awtomatig ar gael ar hyn o bryd sy’n gallu cyfieithu i, neu o’r Gymraeg yn ddigon da i wneud hyn. Dwi’n dueddol o weld y pwynt nad fyddai cyfieithiad awtomatig yn foddhaol i ddefnyddiwr Cymraeg eto, ond yn anghytuno gyda Mark, fod y corpora ieithyddol dwyieithog ddim ar gael. Oes na ddim digon o gyfieithiadau swyddogol yn y Cynulliad eisoes i roi miliynau o eiriau o destun dwyieithog?

Pwynt gwahanol yn llwyr yw pam nad yw Gmail ar gael yn y Gymraeg eto pan ymddengys fod y cyfieithiadau wedi eu gwneud nol yn 2005. Does na ddim esgus erbyn hyn ar ol gweld llwyddiant y Translation App ar Facebook i wefannau mawr beidio a rhoi cynnig ar gyfieithu hi i’r gymuned sydd eisiau hynny. Cmon Google, os da chi o ddifrif am fod yn amlieithog, rhaid i chi ddechrau darparu cyfieithiadau lle mae galw pendant.

Ewch draw am bip, a gadwch sylw, mae Daniel wastad â rhywbeth diddorol i’w ddweud.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Mae yna ddatblygiadau yn y maes cof cyfieithu gyda datblygiad meddalwedd agored Apertium. Defnyddir y fersiwn Cymraeg ar gyfer arbrawf cyfieithu geirfa, Geriaoueg sydd yn creu gwasanaeth tebyg i Vocab (sy’n eironig am mai y bwriad oedd fod Vocab i fod yn feddalwedd agored, nôl yn 2005!)

Mae Google wedi bod ar ei hôl hi am flynyddoedd gyda’r broses cyfieithu (mae ei system cyfieithu fel rhywbeth o’r arch). Er eu bod nhw’n hapus i gymeryd cyfieithiadau gan y cyhoedd, mae ‘cynnyrch’ unigol yn gweithredu polisïau gwahanol. Mae cyfieithiadau newydd i’r brif wefan chwilio yn mynd yn fyw yn syth.

Roedd sôn y byddai cyfieithiad Gmail ar gael os oedd e’n cael ei wirio gan rhywun ‘annibynnol’ ond does dal dim byd yn digwydd. Mae llawer o ddatblygiad cynnyrch Google yn dibynnu ar beiriannwyr unigol yn cymryd diddordeb yn hytrach na unrhyw drefniant ffurfiol. Ar ben hynny mae’n amhosib cysylltu a unrhyw un o fewn Google oherwydd eu cyfrinachedd.

Heblaw am eu chwilotydd, dwi ddim yn ffan mawr o Google, am amryw resymau.

Hei, mae angen diweddaru cyfieithiad wordpress.com ‘fyd.

Ti’n hollol iawn am Wordpress Dafydd.

Waw, ma Geriaoueg yn edrych yn dda iawn. Oes posib ei ymgorffori fel switch on/off fel Vocab dwad?

(mae nhw angen enw gwell am yr un Cymraeg ddo dwi’n ama…)

Mae’n biti mawr nad yw Vocab wedi cael ei agor fyny i ddefnydd ehangach.

[Diolch am dy sylw, y cyntaf un ar Metastwnsh!]

Jyst i nodi fod y swits i ffwrdd/ymlaen arno nawr. Mae yna ychydig o bethau i’w drwsio ond mae Fran yn dal ei ddatblygu.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos