Google Push: Sut i osod ar eich iPhone neu'r iPod Touch

O’r diwedd mae Gmail Push wedi cyrraedd yr iPhone. Fe olyga hyn y bydd eich ebist jest yn flitro trwyddo i’ch dyfais yn awtomatig fel sy’n digwydd ar y Blackberrys.

Cyn dechrau ar y broses maen rhaid i chi ddiweddaru OS eich iPhone neu eich iPod Touch i’r un diweddaraf 3.0.

1. Agorwch Settings ar dudalen gartref eich dyfais.
2. Agorwch Mail, Contacts, Calendars.
3. Clec ar Add Account….
4. Dewis Microsoft Exchange (hynny yw yn hytrach na Gmail)

gmail1   

5. Yn y gofod Email rhowch eich cyfeiriad ebost Google llawn i mewn. Os ydych chi’n defnyddio cyfeiriad @googlemail.com, maen bosib y cewch neges “Unable to verify certificate” cyn parhau i’r cam nesaf, jest rhowch glec ar accept beth bynnag.
6. Gadewch y gofod Domain yn wag am y tro.
7. Rhowch eich cyfeiriad ebost Google yn llawn yn y gofod Username.
8. Rhowch eich cyfrinair ebost Google yn y gofod Password.
9. Clec ar Next ar dop y sgrin.
9a. Clec ar Accept os ydy’r deialog Unable to Verify Certificate yn ymddangos.
10. Bydd gofod Server newydd yn ymddangos. Rhowch m.google.com yn y gofod.
11. Clec ar Next ar dop y sgrin eto.

gmail2 

12. Dewiswch y cyfrifon rydych chi am syncroneiddio, os mae dim ond am osod Push email ydych chi yna dim ond dewis ebost.

13. Maen bwysig dewis yr opsiwn Keep on my iPhone os nad ydych chi am i’r broses ddileu y dyddiaduron a’r rhestr cysylltiadau sydd eisioes ar y ffon.

gmail3   

Dyna ni – yn raddol dylai pethau ddechrau syncroneiddio i fewn i le ac bydd eich ebost yn dechrau dod trwyddo yn awtomatig heb orfod estyn nhw eich hun na dibynnu ar fetch sy’n llyncu’r batri.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Ydi’r ffôn Cymraeg newydd yn gallu defnyddio Google Sync?

Mae’r datganiad gan Google

http://gmailblog.blogspot.com/2009/09/push-gmail-for-iphone-and-windows.html

yn sôn am ‘Windows Mobile Device’. Dwi’n siŵr welais i feddalwedd Microsoft (Live Messenger?) ar ffôn ges i gyfle i chwarae gyda.

Dwi’m yn gallu cael push achos mae gen i un cyfrif yn defnyddio Exchange yn barod (fy nghyfri ebost coleg). Sdim posib creu dau gyfri Exchange ar hyn o bryd felly, dwi’n styc efo gwasgu refresh ar gyfer Gmail.

Fedrawim aros i’n ebost Bangor ddod i ben ddiwedd y mis – wnes i byth ei ddefnyddio fo’n bersonol ond roedd yr adran an anfon stwff i fi trwyddo fo felly roedd rhaid ei gael o ar agor rhywle. Rhedeg lot o gyfrifon ebost run pryd yn boen. Dwi’n defnyddio fy nghyfri Gmail i bob dim rwan er fod gennai sawl wyneb (e.e. neges@rhysllwyd.com, rhys@cymdeithas.org, design@rhysllwyd.com) ond ma nhw i gyd yn dod i’r mewnflwch Gmail. Ma dal gennai hen gyfri Hotmail dwi’n defnyddio wrth gofrestru fyny i wasanaethau fel Facebook a Twitter yn lle mod i’n cael y sbam sy’n dod efo pethau fel yna yn llenwi fy mewnflwch gweithredol.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos