Golwg360: Fy argraffiadau cyntaf

Dwi’n gweld bod Sioned wrthi’n sgwennu cofnod a dwi’n siwr cawn ni fwy o sylwebaeth gan gyfrannwyr eraill Metastwnsh dros y dyddiau nesaf.

Mi gafodd rhai pobol ragflas arno ddoe, gan i rywrai sy’n gyfarwydd a meddalwedd y system weithio allan URL y wefan brawf a’i gyhoeddi ar Twitter.

Fel mae Vaughan Roderick wedi dweud eisoes, dwi’n credu taw cynnwys y wefan fydd yr elfen bwysicaf yn y pen draw, a bod y diwyg a’r fformat yn dod wedi hynny. Fodd bynnag, gwefan i fwncis gwe yw hon, a mae’n anorfod y byddwn ni’n pori dros y wefan mewn manylder a rhoi sylwadau. Gobeithio y byddant yn adeiladol ac yn ddefnyddiol i Golwg360 wrth i ddynt barhau i’w ddatblygu.

Tudalen Hafan

Felly fy argraff gyntaf un o’r dudalen hafan? Mae’n edrych yn ddigon clir, gyda lliwiau niwtral sy’n tynnu sylw at y straeon a dim arall, ond mae’n rhaid dweud bod y ffont serif a ddefnyddir ar gyfer y pennawdau a’r ddewislen yn gwneud iddo edrych yn fwy hen ffasiwn nac y dylai. A’i ddim mewn i sôn ymhellach am ddylunio gan nad ydw i’n gwybod digon i allu beirniadau’n gall. Mae autoplay y fideo am fynd ar nerfau rhywun ar ôl chydig hefyd.

Dewis Straeon

Un nodwedd ddiddorol ar y wefan sydd ddim am weithio’n iawn nes bod tipyn mwy o straeon a chynnwys yno ydi’r gallu i ddewis straeon ar thema benodol o ardal benodol.

goldewis

Gyda hwn bydd modd creu ffrwd straeon sydd am gelfyddydau gweledol yn ardal Aberystwyth, neu addysg yng Nghymru er enghraifft. Gallai fod yn ddefnyddiol os am gadw trac ar bethau sy’n digwydd mewn mannau penodol.

Dim RSS?

Ond un peth sydd wedi fy nharo fi’n syth ydi nad ydw i’n gallu dod o hyd i borthiannau RSS. Dwi wedi trio tanysgrifio i dudalennau gwahanol gyda fy narllenwr Bloglines, ond mae’n dweud wrtha i nad oes porthiant ar y dudalen gartref nac ar y dudalen newyddion. Mae hyn yn broblem enfawr i fi, ac i Golwg yn y diwedd, gan eu bod yn mynd i golli nifer fawr o ddarllenwyr. Mae braidd yn anghredadwy nad oes gan wefan newyddion newydd RSS. Mae RSS yn sylfaenol i sut mae pobol yn darllen ar y we, a sut mae gwefannau newyddion yn cael eu cynnwys i lefydd eraill.

rssgolwg

Digon o Gynnwys

O ran y cynnwys, mae na lot yno, gan gynnwys newyddion rhyngwladol. Mae hanes gwefan Cymru’r Byd wedi dangos nad oedd gan bobol ddiddordeb yn y straeon hyn, a bu iddyn nhw addasu yn sgil y stats, ond dwi’n un sydd yn credu nad yw hyn yn golygu nad oes eu hangen. Beth hoffwn i weld yw adrodd straeon rhyngwladol sydd yn rhoi perspectif wahanol drwy roi adroddiadau o wledydd lle nad ydym yn cael newyddion yn barod. Llefydd fel Catalonia, Glwad y Basg, a llefydd eraill yn Ewrop. Stwff sydd ddim yn taro tudalennau papurau Cymru a’r DU. P’un a fydd yr adnoddau yn Golwg yn gallu ymestyn i hynny, wn i ddim – bydd yn her, ond dyna fyddai’n ei wneud yn unigryw.

Symudol?

Bydd yn ddiddorol gwybod sut mae’r wefan yn gweithio ar symudol hefyd gyda’r nodweddion javascript i symud trefn y dudalen. Fydd yna http://m.golwg360.com i ddod? Neu app darllen ar gyfer iphone? Byddai hyn yn gaffaeliad mawr i ddangos blaengarwch a chynyddu cynulleidfa potensial.

[Gol: dyma un pwynt arall pwysig nes i anghofio]

Sylwadau a Theclynnau Cymdeithasol?

Bwlch mawr iawn, ac amlwg hefyd, yw’r diffyg opsiwn rhoi sylwadau ar erthyglau. Mae hyn yn mynd yn hollol groes i graen y we sydd ohoni (ers blynyddoedd bellach) a natur participatory y cyfryngau. Mae’n rhoi argraff top-down, hen gyfryngol, ac yn lle dod yn agosach at ydarllenwyr fel y dylai gwefan wneud – yn ein pellhau o’r cynnwys. Maent hefyd yn colli tric hiwj o ran denu niferoedd, gan bod sylwadau a thrafodaeth yn dod â phobol nôl dro ar ôl tro i un stori benodol. Byddai hefyd yn one-up ar y BBC sy’n methu gwneud hyn ar eu straeon Cymraeg nhw ar hyn o bryd.

Wedi dweud hyn, mae na lot fawr o gynnwys yno, a dwi’n croesawu cael ychwanegiad arall at newyddiaduraeth Cymraeg. Mae’n gam pwysig arall yn ein cyfryngau, a gobeithio cawn ni weld cam arall cyn bo hir gyda gweddill arian buddsoddwyr Y Byd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd ddiddorol a mentrus.

Mae na lawer mwy o ddadansoddi a threulio i’w wneud ar y wefan hon, a dim ond crafu’r wyneb dwi di neud, ond am y tro dyna fy nwy geiniog. Dwi ddim eisiau bod yn rhy negatif ar dechrau metner fel hyn. Mae’n rhy hawdd gwneud hynny heb roi amser call i adael i wasanaeth setlo’n iawn, er bod angen beirniadaeth gryf er mwyn gallu cynnig gwelliannau. Gobeithio y bydd Golwg360 yn gweld hyn yn yr ysbryd hwn.

Felly pob lwc i’r tîm, a gobeithio cawn ni weld y wefan yn symud ymlaen ac addasu gyda hyder.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Unwaith eto ti di taro’r hoelen ar ei phen – y cynnwys bydd y prawf cyntaf. Dwi am adael i bethe grynhoi yno chydig cyn twrio mewn i weld pa ongl allwn ni ddisgwyl. Dal yn ofnadwy o rwystredig yw peidio cael ffordd syth o’m hysbysu bod newyddion yno tho. O wel, amser a ddengys amwn i!

Dwi’n meddwl fod ti’n anghywir i ddweud fod y diwyg yn rhywbeth gellir ei drwsio nes ymlaen. Rydyn ni’n gwybod yn barod fod gan Golwg newyddiaduraeth weddol gryf (er yn dabloidaidd). Felly roedd yn rhaid i’r wefan fod yn rhywbeth gwerth ei weld a’i ddefnyddio, ond mae hon yn job amaturaidd tu hwnt.

Dwi’n darllen gwefan y BBC bob dydd am ei fod yn ddeniadol a digon o bennawdau bachog i ddal y llygad. Dwi ddim bob amser yn meddwl fod y newyddiaduraeth yn wych – mae’n reit arwynebol ond mae e mor hwylus i’w ddefnyddio dwi yna drwy’r amser (nid drwy RSS hyd yn oed!).

Er mwyn creu gwefan newyddion lwyddiannus mae angen cyfuno newyddiaduraeth dda gyda dylunio ac arbenigedd mewn trefnu a chyflwyno gwybodaeth. Dyw’r wefan hon ddim yn gwneud hynny a mae’n dangos efallai nad oes gan Golwg (neu ei partneriaid Tinopolis) unrhyw syniad am sut i adeiladu gwefan llwyddiannus.

Mae hi’n gythraul o anodd darllen y testun gyda’r bylchau mawr rhwng y paragraffau, y dewis rhyfedd o ffontiau a’r testun mewn llwyd golau. Mae pethau bach o’i le e.e. fod y llywio ar ben y dudalen yn hytrach na i’r chwith (sy’n fwy confensiynol y dyddiau ‘ma). Mae’r wefan hefyd yn torri mewn pob math o ffyrdd rhyfedd os nad ydych chi’n derbyn cwcis. Mae hyn yn broblem oherwydd wneith peiriannau chwilio weld dim byd ar y wefan.

I feddwl fod gymaint o amser ac arian wedi ei wario ar y prosiect (ond ddim ar y wefan mae’n debyg) mi fasen nhw wedi gwneud ffafr mawr gyda’i defnyddwyr os oedden nhw wedi cyflogi dylunydd safonol ac arbennigwyr ‘usability’. Fel mae’n edrych nawr mae’r safle wedi ei ddylunio gan un o raglennwyr Tinopolis heb unrhyw gynllun na rhesymeg o gwbl.

‘Arbrawf’ tair mlynedd fydd hwn a mae blwyddyn wedi mynd yn barod. Os nad ydyn nhw wedi adeiladu cynseiliau cadarn yn y dechrau pa obaith sydd i’r dyfodol?

Wnai ddim wneud sylw am y ffaith fod y wefan yn torri ar hyn o bryd ac yn datgelu “E:\SudheerP\Projects\Glowg” am mod i’n gwybod pa mor anodd yw hi i lansio gwefan lle mae pawb yn ymweld ar unwaith (ond yn bersonol fasen ni wedi cuddio’r gwallau gweinydd).

Diolch Dafydd. Ti’n gwneud pwyntiau da iawn. Dwi ddim yn siwr lle dwi di deud y byddai posib trwsio’r diwyg nes mlaen, ond dwi’n cytuno nad ydi hi’n hawdd gwneud hynny unwaith mae’r wefan yn fyw.

Ti’n iawn hefyd am y paragraffau a lliw’r testun. Mae’n ei gwneud hi’n eithaf annodd sgimio.

Na sori, wedi cam-ddarllen. O’n i jyst yn anghytuno gyda’r syniad mai’r cynnwys oedd yr elfen bwysica, a’r diwyg yn ail. Roedd gan y Western Mail/Echo newyddion ar y we ers blynyddoedd ond dim ond yn ddiweddar gafodd y wefan deniadol gyda Wales Online (dyw e dal ddim yn berffaith.. mae’n rhy brysur nawr os unrhywbeth).

shwdi Rhods? diddorol iawn… wy jyst ishe anghytuno da ti tamed bach pan ti’n gweud bo ti’n gobitho am newyddion o “Llefydd fel Catalonia, Glwad y Basg, a llefydd eraill yn Ewrop”…”

peth diwetha dwi ishe yw i’r peth droi’n wefan newyddion am ‘leiafrifoedd’. os oes modd gwneud hyn yn ogystal a newyddion rhyngwladol ‘mainstream’, yna da iawn, ond dwi ddim yn gweld e fel blaenoriaeth…

un peth sy’n mynd ar fy nerfe i’n ofnadw am Gymru’r Byd w’r flaenoriaeth i unrhyw stori ‘ieithyddol’ neu ‘leiafrifol’. Se rhywun yn rhechu gair gwyddeleg fydde fe’n cal mwy o sylw na 9/11…

Byswn i’n deud fod angen iddyn nhw gael system gwell o leoli cynnwys. Hynny yw, cael cyfeiriadau gwe syml neu rhesymol. Ar hyn o bryd cawn rhywbeth fel:

http://golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=2312

sydd yn hir a bler. Bosib byddai system fel

http://golwg360.com/erthygl/2312.htm

fel mae’r BBC yn ei ddefnyddio. Dwi’m isio cymharu gymaint gyda’r BBC fan yma gan mai’r nod yw creu sefydliad newyddion annibynnol, ond dylid dysgu gwersi gan un i wefannau poblogaidd a dylanwadol y byd.

@Garmon

Be dwi’n feddwl ydi, bod angen mwy o straeon Ewropeaidd sydd yn gallu bod a gogwydd Gymreig arnyn nhw – e.e. bod Catalonia rwan yn dod a pholisi addysg mewn sydd yn mynd llawer pellach na’r strategaeth ddiweddar. Rhoi tro Gymreig ar straeon sydd ddim yn cael eu hadrodd yma. Nid dim ond adrodd straeon random am yr iaith Wyddeleg fel ma’r BBC yn gwneud. A nid dim ond gwledydd lleiafrifol a deud y gwir.

@Huw

Pwynt da, a rhaid bod systemau CMS off-the-peg fel Joomla / Drupal ayyb yn galluogi chi i wneud hyn yn reit hawdd?

Roedd Y Byd yn edrych ar system CMS oedd yn benodol ar gyfer newyddion ac wedi cael ei dreialu mewn sawl papur arall. Efallai bod na synnwyr yn hynny. Byddai’n ddiddorol gwybod a fu ymgynghoriad am ddiwyg a system y wefan gyda phapurau anibynnol eraill.

Mae yna drafodaethau am Golwg 360 ymhobman nawr. Wnes i drafod peth o’r gwallau ar maes-e (how quaint). Ar ôl treulio’r penwythnos yn ymbalfalu yn y cod, mae’n erchyll i ddweud y gwir. Dwi ddim wedi gweld unrhywun yn adeiladu gwefan safonol yn ASP.NET (o bosib am nad oes angen bobl galluog iawn i sgrifennu’r cod). Er enghraifft, mae strwythur URLs Bwrdd yr Iaith yn hyll ac anghyson ond o leia mae nhw’n ddolenni parhaol (ish).

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)