Fy nheimladau am Golwg360

logopenbach1Dwi ddim eisiau bod yn rhy hallt am olwg y wefan oherwydd dwi ddim yn meddwl ei fod yn rhy ddrwg. Gwefan newyddion yw hi wedi’r cwbwl, a ddim angen bod yn rhy ffansi. Ar y llaw arall dwi’n gweld ei fod yn llawer iawn rhy cluttered pan yn defnyddio dyfais fel iPhone i edrych arni (yndi, mae dal i weithio er y ddamwain). Yn wir, ai mor bell a dweud ei fod yn fler ofnadwy ar yr iPhone. Rhai darnau yn defnyddio Flash felly ddim yn gweithio o gwbwl.

Fel mae eraill wedi ddweud, sa hi’n neis cael ffrwd RSS neu Twitter i alluogi ni gael gwybod pryd mae stori newydd yn torri. Ddoe torrodd stori am ddyn yn cael ei erlyn am lofryddiaethau, ond dwi ddim yn gweld dim am y stori hon.

Mae’r gallu i symud elfennau y wefan fel da chi eisiau nhw yn symudiad i’r cyfeiriad iawn. Wrth gwrs mae’r BBC wedi galluogi hyn ers peth amser felly ddim yn “ground breaking” – fyswn i yn hoffi medru symud pethau i’r slot lle mae’r llun, ond wedi methu. Falle fy mod yn barnu braidd yn rhy drwm oherwydd mae’n ymdrech dda ac yn rhiwbeth mae Cymru wedi bod eisiau ers amser maith.

Dwi’n eithaf hoff o’r syniad o “Lle Pawb” a dweud y gwir, ond fe fedrith hyn fynd y ffordd anghywir hefyd. Beth sydd yna i stopio bobl rhag abiwsio’r system?

Fedrai weld bod na lot o waith wedi mynd i mewn i’r safle, ond falle sa na dipyn mwy wedi cael ei wneud ar y dylunio. Ymdrech dda iawn ar y cyfan.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Dim sylwadau eto.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)