Y camcorder Flip Mino

Daeth y gwr technegol o’r Adran i mewn i’r swyddfa ddoe gyda anrheg bach i fi. Oedd, roedd y camcorder bach Flip Mino wedi cyrraedd am ei trial run 4-diwrnod. O’n i wedi bod yn edrych mlaen at gael gafael ar un o’r craduriad bach ers tipyn a dyma gyfle i roi go arni.

Flip Mino

Flip Mino

Ar yr olwg gynta, mae’n ddyfais bach taclus iawn. Dim mwy mewn maint bron na fy ffôn symudol, ysgafnach os rhywbeth. Mae’n gweithio allan o’r bocs a gyda batri built-in, disg galed 2Gb tu mewn sy’n recordio hyd at 60 munud o fideo, a botwm mawr coch ar gyfer mynd/stop ar y blaen mae’n hollol hawdd i’w ddefnyddio.

Mae safon y llun yn well nag o’n i’n disgwyl a dweud y gwir, gyda lliwiau’n troi allan yn weddol naturiol a dim gormod o or-exposure. Ar ôl laru gyda fideo gwael ar ffônau symudol mae’n braf gweld nad oes na lawer o oedi wrth panio, na distortion yn y ddelwedd ac mae’r ddelwedd yn llwyddo i aros yn weddol o gadarn pan da chi’n ei ddal â llaw.

Mantais arall y cor-gamera yw ei fod yn cysylltu â’ch cyfrifiadur yn uniongyrchol drwy USB sydd yn fflicio allan o gorun y ddyfais gyda switsh bach ar yr ochr. Mewn â fo i’r encil USB ac mae’n llwytho meddalwedd yn syth oddi ar y camera er mwyn golygu a throsglwyddo’r fideo i’ch disg galed. Gallwch chi hyd yn oed wasgu botwm sy’n cyhoeddi’n syth i YouTube os taw dyna yw eich bryd.

Fideo Prawf ar y Flip Mino from Rhodri ap Dyfrig on Vimeo.

Mae’r system olygu yn sylfaenol iawn ond nid dyna yw’r pwynt gyda hwn. Pwynt hwn yw cael fideo a sain o safon gweddol yn eich poced sy’n gallu mynd fyny i’w wylio ar y we mewn eiliadau. Ac o ystyried y briff hwnnw – mae’n gwneud yn dda iawn. Llwyddais i lwytho’r clipiau, trimio ambell un, sticio nhw ar linell amser, ychwanegu teitl a cherddoriaeth (sydd hefyd yn dod gyda’r meddalwedd sydd ar fwrdd y camera) a chreu’r ffilm fach uchod  mewn llai na 15 munud. Gallwch hefyd fenwforio’r ffeliau fideo (sydd yn fformat MPEG-4 AVI .wmv) i’w golygu ar Windows MovieMaker nei iMovie os da chisio chydig mwy o reolaeth.

Ar yr ochr negatif mae’r zoom yn un digidol nid optical, ac felly ddim wir yn werth ei ddefnyddio. Mae’r botymau sensitif hefyd yn gallu bod chydig o boen wrth recordio a chwarae nôl a bu bron i mi ddileu fideo drwy gamgymeriad o’r herwydd. Gallai rhywun ddweud nad yw ergonomics y peth yn grêt o ran handlo chwaith gyda’r plastig sgleiniog yn ei wneud braidd yn llithrig.

O ran nodweddion eraill mae na le i roi o ar tripod, mae’r sgrin wylio’n llachar a chlir, ac mae’n teimlo’n eithaf solat sy’n anarferol ar gyfer dyfais o’i faint.

Mae pris y Mino yn tua £110 erbyn hyn ac yn ôl y gwerthwr mae nhw’n brin iawn. Siwr bydd y gost yn dod lawr yn fuan iawn pan fydd y fersiwn HD (wel, 16:9 a resolution o 1280 x 720 – ddim HD go iawn wir) yn dod allan tua Pasg, ond gallwch chi gael un Flip arferol am tua £80 sydd fod yn weddol agos o ran nodweddion gyda dim ond y sain yn ei wneud yn wir werth talu’r £30 ychwanegol.

Ei brif gystadleuydd yw’r Kodak Zi6, sydd yn HD, ond ddim yn perfformio cystal o ran yr optics fel dwi’n deall, ac sydd hefyd angen ffyn cof am bod dim ond 128MB ar y camera ei hun.

Felly ar y cyfan, galla i ddweud y byddai hwn yn gamera bach gwerth ei brynu i unrhywun sydd eisiau fideo syml iawn i’w ddefnyddio gyda llun a sain digon derbyniol ar gyfer dangos ar y we, neu oherwydd ei faint bychan, ac sydd yn ddigon bach i gario ble bynnag ewch chi.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Newydd fod ar safle Flip, a nid WMV yw’r fformat ond MPEG-4 AVI i’r Mino, a H.264 MP4 i’r Mino HD.
http://www.theflip.com/products_flip_ultra_specs.II.shtml

pan ddaw na un allan sy’n gallu delio efo golau gwael tu mewn yn dda nai gysidro un.

Wps ia, .avi ydi o. Diolch Iestyn. Nai gywiro fio rwan. O’n i’n wyndro wrth sgwennu sut fasa iMovie’n gallu handlo WMV.

Ia, ond os tisio rhywbeth i ddelio efo gola gwael tu mewn, dwi’m yn meddwl taw hwn di’r camera eniwe. Gwell mynd am camcorder mwy gyda lens callach a sensor gwell. Dwi’n amau bydd unrhyw Flip yn gallu handlo sefyllfaoedd golau isel yn wych.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)