"Ffilmio HD o fewn cyrraedd amaturiaid" – adolygiad o'r Sony HDR-SR10E

Sony HDR-SR10EDwi wedi cael gafael ar gamera HD Sony sef yr HDR-SR10E. Roedd e’n gwerthu am £695 pan ddaeth e allan llynedd, mae e dal yn £489 gyda Amazon ond fe lwyddais i gael ex-display am £345! Ar ben hynny fe lwyddes i off-setio’r gost drwy werthu fy hen gamera fideo a lenses ar ebay. Ta beth, ymlaen i drafod y camera. I ddechrau maen bwysig i mi nodi nad oes profiad o gwbl gyda mi o ffilmio na gwneud unrhyw waith yn y diwydiant ffilm a theledu – dwi’n hunan addysgiedig yn y maes a’r unig brofiad sydd gyda mi yw gwneud fideos fel YMA i Gymdeithas yr Iaith a fideos fel YMA i ffrindiau. Saethwyd y fideos yna ar fy hen gamera. Siarad ydw i felly fel amatur sydd a diddordeb yn unig ond hefyd a diddordeb datblygu’r defnydd o fideo da mewn prosiectau gwirfoddol, ymgyrchol a chenhadol dwi’n ymwneud a nhw.

Dyma montage o sampls dwi wedi saethu’n sydyn dros y dyddiau diwethaf ar y camera newydd:

Y peth cyntaf i nodi yw’r ansawdd, yn enwedig gyda’r cyfweliad (fydd yn rhan o ddarllediad gwleidyddol i’w ddarlledu ar y wê gan ymgeisydd Plaid Cymru ym Môn gyda llaw). Mae’r ansawdd yn anhygoel gan gofio fod hwn wedi ei saethu ar gamera gostiodd £345 yn unig ac a saethwyd gan lanc di-brofiad tu ôl i Gamera, hynny yw fi. Yn y clip olaf gyda’r ceir yn gyrru heibio gellid gweld sut bo Auto Wight-Balance y camera yn ymdrafferthu wrth i haul llachar y prynhawn adlewyrchu oddi ar y ceir.

25797Mae safon y sain yn gwbl dderbyniol er, yn y cyfweliad, fe glywir fod y mic, sydd a thechnoleg zoom, yn pigo fyny tipyn o hiss yr awel; ond mae hyn i’w ddisgwyl gyda mic built-in dwi’n meddwl. O ran y sain maen dda medru nodi fod gan y camera Active Interface Shoe sy’n golygu fod modd cysylltu mic allanol. Allan o’r bocs yr unig dri mic sy’n gweithio gyda’r camera ydy’r ECM HGZ1, y ECM-HST1 a’r di-wifr ECM-HW1. Mae’r fideo YMA yn dangos sut berfformiad y ceir gyda’r mic di-wifr. Ond maen debyg fod teclynnau trydydd parti ar gael er mwyn cysylltu’r camera gydag unrhyw mic XLR fel mae’r llun hynod YMA yn dangos!

Wrth gwrs dwi ddim wedi cael cyfle eto i ddefnyddio’r camera ym mhob sefyllfa, ond gyda gweithgareddau a gigs y Gymdeithas dros yr haf ynghyd a’r daith yma fydda i arni maen siŵr fydd mwy gyda mi rannu am berfformiad y camera rhyw dro eto. Ond yr hyn sy’n syfrdanol yw hyn – Camera HD prosumer am £345; mae datblygiadau fel hyn yn siŵr o ddemocrateiddio a chwalu monopoli y diwydiant darlledu ymhellach fyth all ond bod yn beth da.

sony-hdr-sr10e-digital-camcorder

Small print i’r gîcs:

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Llun neis iawn. Faswn i’n deud bod gwir angen mynd am gamera sydd yn galluogi meic allanol os ti am drio gneud sdwff tu hwnt i fids cartra (er, dwi mond efo gwybodaeth arwynebol iawn am y maes). Ond mae’n swnio fel dy fod wedi cael bargen!

Ym mha fformat ffeils mae’r video yn cael ei ddal?

Y camera dwi wedi clywed fwya amdani, sydd yn stradlo consumer a pro yn weddol ydi’r Canon HV30. Ma’n recordio i dâp MiniDV, ac mae posib rhoi amrywiaeth o lenses gwahanol arno, yn ogystal â shoe ar gyfer sain allanol. Does dim socket XLR, ond mae’n rhaid neidio tipyn mewn pris er mwyn cael hyn ar gamera.

Mae ganddo hefyd 25p progressive scan mode (yn hytrach na interlaced) sydd yn roi ‘look’ ffilm i’r fideo. Dyna oedd y killer i fi efo hwn, petawn i wedi ei brynu.

Erbyn hyn ddo, dwi di penderfynu prynu amrywiaeth o gamerau micro (Flip HD) rhad a benthyg offer gwell pan fo angen rhywbeth mwy proffesiynol.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)