Eeebuntu 3.0

Ma na beryg i’r blog hwn droi mewn i bach o fan-zone ar gyfer Apple, felly dwi di penderfynu sefyll yn y bwlch, ac achub cam y PC am unwaith! Dwi am drafod fy Eeepc a’r system weithredu, neu OS, newydd dwi wedi ei osod arno.

Llynedd brynais i Asus Eeepc 901, gliniadur bychan iawn, neu netlyfr fel y’i gelwir nhw’n aml. Dwi’n weddol hapus gyda fo, er mae un o’r prif resymau dros ei brynu wedi bod braidd yn anwadal ar brydia sef y cyswllt di-wifr. Holl bwynt y pethau bach ma heb ddisg galed rotary (mae ganddyn nhw ddisg solid state yn lle) yw eich bod yn eu defnyddio wedi’u cyplysu gyda chyswllt Wi-Fi, gan wneud gwaith yn y cwmwl, a chadw eich dogfennau ar ‘brif gyfrifiadur’ mewn lleoliad arall. Dwi wedi methu a chysylltu gyda signal WiFi amlwg ar ambell i achlysur ac wedi methu cysylltu eto gyda WiFi y campws, gan bod staff Gwasanaethau Gwybodaeth y coleg heb syniad be i neud efo Linux…

Sy’n dod a fi at yr OS, a pwynt y gofnod ma. Es i am yr opsiwn o OS Linux yn hytrach na Windows XP am ei fod yn rhoi mwy o le i fi ar y ddisg galed (20GB yn lle 16GB) a mod i eisiau rhoi go ar system Linux. Byddai hwn yn ddigon hawdd i’w wneud fel arbrawf a ni fyddai raid i mi newid fy system graidd.

Roedd yr OS ddaeth gyda’r gliniadur yn un custom Asus (ei hun yn seiliedig Xandros), ac er yn llwytho’n andros o gyflym roedd yn erchyll o blentynaidd ei ryngwyneb a braidd yn anhyblyg. Penderfynais felly newid i OS Linux mwy slic, ac yn digwydd bod roedd dosbarthiad OS Linux yn benodol ar gyfer yr Eeepc sef Eeebuntu.

System Weithredu Xandros ar yr EeePC

System Weithredu Xandros ar yr EeePC

Yn ei hanfodmae Eeebuntu yn fersiwn slimline o Ubuntu, sef un o’r fersiynau OS mwyaf poblogaidd Linux. Mae wedi ei deilwra ar gyfer cof RAM a processor bychan yr Eeepc, ond yn cadw llawer o’r prif atyniadau. Llwyddais i osod hwnnw’n iawn, drwy ei roi ar USB gynta a rhannu’r ddisg galed yn ddau fel y gallwn ddewis defnyddio’r OS gwreiddiol petawn i eisiau (ac roeddwn yn falch o hynny ar adegau).

Yn ddiweddar, ymddangosodd eicon bach newydd ar far top y sgrin. Beth yw hwn medda fi? “UPGRADE” medda fo. A’i glicio wnes i. Peth yw, upgrade i’r fersiwn newydd o Ubunbtu oedd o (sef Jaunty Jackalope neu ryw enw dwl fel’na) a gymrodd o tua 11 awr i fynd drwy ei brosesau. Wedi hynny, roedd y cyfrifadur fel petai rhywun wedi rhoi triog yn y circuits. Go drapia.

Ond na phoener! Roedd achubiaeth, cefais tweet yn dweud bod fersiwn 3.0 o Eeebuntu allan. Haleliwa!

Desktop Eeebuntu 3.0

Desktop Eeebuntu 3.0

Ond dydi hi ddim cweit wedi gweithio fel’na. Wrth lwytho’r fersiwn newydd mae na dudalen lle gallwch chi symud rhaniadau eich disg galed i wneud lle i’r OS newydd. Y peth yw, do’n i’m yn deall digon am beth oedd “disg ext3″ a ryw betha fel’na i wneud o’n iawn. A dwi’n meddwl bod gen i rwan dri OS ar yr Eeepc a dim syniad sut i gael gwared o’r un Ubuntu!

Ond na ni, mae’r Eeebuntu newydd yn felys, ac mae wedi gwneud y job o gyflymu’r system nôl eto ac mae popeth ynddo yn Gymraeg hefyd. Felly i chi sydd gyda Eeepc neu netbook bach – ystyriwch newid eich OS i Eeebuntu 3.0, mae’n wych! – ond falle dyle chi gymryd gofal gyda chwarae gyda’r rhaniadau ‘na.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Blog diddorol iawn. Mae Mam yn defnyddio Laptop Acer Intel Celeron Windows XP dair mlwydd oed ac mae o mor mor araf. Wnes i ennill iBook G3 (tua 7 mlwydd oed) iddi ar ebay am £100 rhai misoedd yn ôl ond yn anffodus er fod cyflymder y laptop ei hun yn iawn ac lot gwell na’r Acer dydy’r laptop methu delio a gwefannau 2.0aidd ac mae llwytho pethau fel YouTube wastad yn crashio’r porwr.

Meddwl ydw i felly bosib os wnai osod Linux ar un ohonyn nhw, neu’r ddau, bosib fydd hynny yn cyflymu pethau fyny? Dim ond pori gwe, ebost a prosesu geiriau mae Mam angen.

Galli di drio’r OS ar dy gyfrifiadur drwy roi Eeebuntu fel pecyn bootoable ar ffon USB.

Dwi’n cael fy nhemtio i’w roi o ar hen PC arall sgen i adref i weld os gwnaiff o wahaniaeth.

Dwi’n hapus iawn efo’r wifi erbyn hyn (dwi’n sgwennu hwn o gaffi Chapter ar yr Eeepc), ond mae na broblemau bychain gyda rheoli gwres os yn defnyddio Eeebuntu.

Pam ddim rhoi shot arni, galli di wastad gael y ddwy OS ochr yn ochr.

Rwy’n defnyddio rhyw “rival” i Eeebuntu ar fy Eeepc i sef “Easy Peasy” ac mae’m mynd yn dda iawn. Mae hefyd “Ubuntu Netbook Remix” i gael. Tebyg bod hwnna yn opsiwn eithaf da gan bod llawer o adnoddau y tu ol i brosiect Ubuntu.

@ Rhys. Mae sawl math o Linux “minimal” i gael sy wedi eu hanelu yn union at rhedeg ar bethau “low-spec” e.g eto fath o Ubuntu “Xubuntu”.

Mae’n bosib rhedeg i gyd o’r rhain y y Gymraeg hefyd.

Fy unig rhybudd yw bod Linux yn dal bach yn “hobbyist”. Mae ffordd i wneud popeth ond yn aml mae angen chwilio ac arbrofi. Ddim yn siwr os y byddai cystal i’ch Mam felly

Mae nhw’n hobbyist os tisio unrhywbeth tu hwnt i borwr gwe a Open Office. Ond os taw dim ond y ddau yna ac ambell beth arall fyddi di angen, yna mae’r OS Ubuntu-aidd yn ddigon syml ei ddeall. Installio’r peth ydi’r unig gam technegol lle gallai rhywun fod yn bryderus, ond dwi’n siwr galli di wneud hynn Rhys.

Dwi wedi bod yn meddwl cael netbook ers peth amser nawr, ond ddim yn siwr os dwi wir angen un. Newydd gael MacBook newydd dwi a mae hwnnw yn gwneud bopeth dwi angen.

Fedrai weld lle bysa netbook yn gallu bod yn ddefnyddiol, ond eto mae’r cwestiwn os dwi wir angen un yn dod fynnu dro ar ol tro.

Dwi wedi cymeryd bolt-on tethering i’r iPhone am fis er mwyn gallu gwneud adroddiad i Metastwnsh. Gawn ni weld beth ddaw o hyna.

Stopgap oedd y Netbook i fi a deud y gwir, nes bo fi’n gallu fforddio (a chyfiawnhau) cael laptop da fydda i’n gallu ei ddefnyddio i olygu fideo.

Ella na’i werthu o ddo, er mwyn cael chydig o arian nôl ar gyfer yr iphone…allai neud deal reit dda i ti os tisio!

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos