Dewis yr wythnos

Gareth Jones:

Yr wythnos hon dwi am roi fideo syml i fynny welis i ar YouTube y diwrnod o’r blaen. Gan fod pasg newydd fod roeddwn i yn meddwl y bysa’n hwyl.

Rhodri ap Dyfrig:

Mae Scenic Or Not yn side-project gan MySociety sydd yn edrych i gasglu data yn rhoi gwerth ’scenicness’ i luniau o leoliadau sydd wedi eu cofnodi ar wefan y Geograph, sydd yn ceisio rhoi llun o bob cilomedr sgwar yn y DU.

Mae pwrpas terfynol y wefan yn chydig o gyfrinach, ond maent eisiau creu set data fydd ar gael ar drwydded rydd i unrhywun ei ddefnyddio. Mae 17,000 o sgwariau wedi cael eu beirniadu hyd yn hyn…dim ond 224,000 i fynd…

Sioned Edwards:

Mae hi’n un annodd wythnos yma, gan i mi fod ‘off y radar’ braidd yn dechnolegol yn ystod y gwyliau! Gan i mi fod yn (trio) wyna nôl yn y canolbarth, dwi am roi showt i’r criw ar Farmers Weekly Interactive. Mae’n hawdd iawn meddwl nad yw ffermio a thechnoleg gwybodaeth yn cyd-fynd (yn enwedig yn Nghymru), mae hona’n olwg eitha unllygeidiog ar fyd sy’ gymaint am fusnes ac ydi o am fyd natur.

Mae’r golygyddion ar FWi yn rai da am ddefnyddio technoleg cymdeithasol fel twitter (@FarmersWeekly) a Youtube (Fideo hyrwyddo’r wefan newydd sy’n syml ac yn ffordd wych i gyflwyno gwefan newydd i ddefnyddwyr). Felly, beth am fynd i fusnesa am brisiau defaid, a pendroni pa fungscide i’w ddewis? Pwy a wyr, falle bydd tro ar fyd a byddi di awydd ffermio!

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Mae’r wefan Farmers Weekly’n riet da, dw i’n cofio dod ar ei draw o’r blaen. Mae Ffermio.tv yn reit cynhwysfawr – bechod does dim RSS gyda nhw.

Dw i’n gwybod mai tynnu coes mae Sioned, ond mae’n syndod cymaint o dechnoleg sy’n cael ei ddefnyddio gan ffermwyr. Mae nhw eisioes yn nodi symudiadau gwartheg ar-lein (gyda trafferth weithiau), a chyn bo hir mae sôn bydd tagiau clustiau anifeiliad (RHYBUDD: peidiwch dechrau sgwrs am rhain gyda ffarmwr!) yn cynnwys barcode, yna, gall ffermwyr ddefnyddio darllenwyr barcodes ar ffonau symudol i nodi a chofnodi eu praidd.

Treuliais y penwythnos diwethaf yn didoli defiad ac wyn ac roedd rhaid cyfri eu pennau – pan oedd lotiau o 50+ mae’n hawdd colli cownt ac angen ail-gyfri. Petai barcode yng nghlust pob dafad, byddai rhyw ddyfais cyfri barcodes/sglodion electroneg wedi bod yn ddefnyddiol!

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)