Damwain: Update
Falle bod rhai ohonnoch chi yn cofio am y ddamwain cefais i a fy iPhone. Wel dwi wedi penderfynu mynd gyda chwmni o’r enw Ipaq Repair and Parts i drwsio’r screen. Mae’r cwmni yn codi £68.90 am y gwasanaeth yma, sydd yn dipyn gwell na £250.
Roedd y dewis o voidio’r warranty yn glir yn y cof, ond yn y diwedd doeddwn i ddim yn fodlon talu £250 am ddarn o wydr. Ag falle bydd iPhone newydd allan mewn ychydig fisoedd. Wnaeth O2 adael i bobl updatio i’r iPhone 3G o’r original tro diwethaf a dwi’n gobeithio bydd hyn yn digwydd eto.
Mi gai werthu’r iPhone sydd genai rwan ar eBay wedyn, a fydd warranty newydd genai. Wrth gwrs, gobeithion ydi rhain i gyd ar y funud. Bydd yr iPhone yn cael ei yrru i’r cwmni ddydd Llun a gobeithio gai o yn ei ol ddydd Mercher. Fyddai ar goll am dridiau heb yr iPhone. Dwi’n dyfaru gwerthu’r iPof touch rwan dipyn. Ond na fo, mae’r pethau ma yn digwydd dydi.
Y peth nesaf dwi angen ei brynnu ydi case caled i wneud yn siwr nad ydi’n digwydd eto. A dwi angen prynnu “sleeve” i’r MacBook hefyd. Duw a wyr be sw ni yn wneud os byswn i yn torri y MacBook!!
Nai bostio llun o’r trwsio pan dwi’n gael o yn ei ol.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.




Sylwadau
Dim sylwadau eto.
Gadewch sylw