Cymru a Gwe 2.0

Gwe2.0Yn ôl Google, prin yw’r canlyniadau call sydd yna ar gyfer y term “gwe 2.0”. Ydi hyn yn arwyddocaol, neu dim ond dangos bod bathiadau o dermau technoleg i’r Gymraeg yn cymryd amser i ffiltro drwodd? Dwi wedi bod yn meddwl lot yn ddiweddar am y we Gymraeg, neu’r diffyg felly, a falle bod angen gwyntyllu rhai o’r syniadau hyn mewn ffordd gwe 2.0-ish i gael adborth a thrafodaeth cyn mynd ati falle i sgwennu’n hirach am y peth.

Y prif beth sydd wedi bod yn fy mhryderu ydi bod bron pob datblygiad newydd, cyffrous gwe 2.0, yn gweithredu ar y rhagdybiaeth bod eu defnyddwyr yn siarad iaith fwyafrifol. A gan hynny dwi’n meddwl gan amlaf Saesneg, ac yna Ffrangeg, Tsieinëeg, Almaeneg, Sbaeneg ayyb. Sut felly y gall diwylliant sydd yn defnyddio iaith lai o lawer o’i chymharu, ddygymod a hyd yn oed mentro bod yn wirioneddol gwe 2.0?

Yn seminarau Swn Interactive yng Nghaerdydd yn ddiweddar roedd Tim Morgan a Matt Jones yn siarad lot am ‘mass participation’ a defnyddio’r ‘web of data’ ond mae’n teimlo i fi, ar hyn o bryd o leiaf, bod hyn ddim ond yn bosib ar gyfer gwefannau mewn iaith boblogaidd iawn. Ydyn ni felly mewn perygl o gael ein gadael ar ôl yn y byd gwe 2.0 gyda dim ond technoleg sylfaenol yn ein hiaith, a chan orfod troi at y Saesneg os am wneud unrhywbeth lled-ddiddorol ar y we?

[Mae hon yn gofnod eithaf hir felly rhowch glec ar darllen mlaen i weld gweddill yr erthygl.]

fbcymraegMae’n wir y gallwn ni gael rhyngwynebau yn y Gymraeg, ac mae’r profiad Facebook, lle bu grŵp o ddefnyddwyr yn cyfieithu degau o filoedd o strings i’r Gymraeg mewn cyfnod byr iawn, yn enghraifft wych o hyn. Ond mae Facebook yn un o’r gwefannau prin sydd â miloedd o ddefnyddwyr iaith Gymraeg sydd yn ei ddefnyddio drwy’r iaith honno, neu o leia’n ddwyieithog beth bynnag. Unwaith rydych chi’n dechrau sôn am wefannau eraill llai, mae’r niferoedd hynny o ddefnyddwyr (hysbys) Cymraeg yn disgyn yn aruthrol, a’r defnydd Cymraeg naturiol o fewn y wefan yn disgyn gyda fo. Efallai taw’r unig rwydweithiau cymdeithasol mawr sydd â defnydd naturiol fel hyn yw Facebook, MySpace, Bebo, a YouTube. I’r rhan fwyaf o bobol, nifer bach iawn o gyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio, ond erbyn hyn mae yna niches diddorol iawn yn y darlun gwe cymdeithasol a fan hyn efallai yr ydym ni mewn perygl o golli allan.

Mae Twitter er enghraifft yn lle y gellir cynnal sgwrs gyda chyfeillion, ond yn bwysicach na hynny, gyda’r byd ehangach, felly er mwyn gwneud defnydd effeithiol ohono ac er mwyn gwneud cysylltiadau pellach ydy siaradwr Cymraeg am ddewis Twitro yn y Saesneg? Rydyn ni nol at yr hen gwestiwn yna sydd wedi codi ar gyfer awduron, cantorion a phob math o bobol sy’n gwneud defnydd o iaith i gyfathreebu syniadau. Yn y bôn, os ydych chi’n gofyn y cwestiwn i chi’ch hun rhaid gwneud y ddau, ond y cwestiwn yw, ai ar wahân neu gyfun ddylai rhywun wneud?

twitter-logoMae fy ffrwd Twitter i erbyn hyn wedi newid o fod yn un Gymraeg yn unig pan taw dim ond ambell i “ddilynydd” di-gymraeg oedd gen i, i fod yn un lled-ddwyieithog, erbyn hyn, gydag ambell “tweet” wedi eu hanelu at y gynulleidfa ehangach yn y Saesneg, a’r rhai mwy cyffredinol yn y Gymraeg. Dwi’n gwneud rhyw fath o code-switching yn y twitfyd, ond yn meddwl weithiau mod i’n pechu pawb drwy wneud hyn, ac yn sicr mae’n golygu twitro aneffeithlon. Yr ateb efallai yw cynnal dwy ffrwd – un ym mhob iaith. Y peryg wedyn wrth gwrs ydy bod y ffrwd Gymraeg yn troi i fod yn ffrwd am y personol, tra bod yr un Saesneg yn troi i fod yr un am fyd technoleg a chyfryngau, pan fy mod i yn fy hanfod eisiau eu trafod nhw yn y ddwy iaith.

Mae hefyd yn bwysig i fi i gyflwyno’r Gymraeg i bobol, i ddangos ei bodolaeth, hyd yn oed mewn ffordd fechan. Does dim byd gwaeth gen i chwaith na’r syniad nad oes lle i drafod y ‘newydd’ yn y Gymraeg, a dim ond wrth gofleidio trafodaeth o’r newydd a defnyddio cyfryngau newydd yn yr iaith y byddwn ni’n sicrhau bod defnydd ystyrlon dydd i ddydd o’r iaith yn parhau.

smash-robotsOnd i fynd nôl at y syniad web of data a’r defnydd ohono, conglfaen hyn yw bod data sy’n bodoli yn cael ei ail-ddefnyddio mewn cyfuniad gyda data eraill i wneud stwnsh, neu mashups, sydd â defnydd newydd, gwreiddiol na feddyliodd rhaglenwyr côd gwreiddiol y ddwy wefan amdanyn nhw cynt. Gwych ie, ac mae’n dangos genius organig gwe 2.0, a sut y gall y data yma sydd gennym ni mewn llefydd gwahanol ddod at ei gilydd i fod yn ddefnyddiol mewn ffyrdd gwych eraill.

Ond y ddau gwestiwn sylfaenol i mi wrth feddwl am hyn yng nghyd-destun Cymru, a’n benodol y Gymraeg, yw:

  1. Lle mae’r data Cymreig, ac yn benodol, lle mae’r data ar gyfer cymunedau llai trefol, neu ddinesig (h.y. urban)?
  2. Lle mae defnyddwyr y mashups hyn?

Yn gyntaf mae’r holl wefannau hyn sy’n defnyddio data yn cael y data o wefannau cymdeithasol a gwasanaethau digidol eraill, ond mae’r clystyrau o bobol sydd yn defnyddio’r rhain yn unrhyw le y tu allan i ardaloedd dinesig Cymru yn gymharol brin.

ubiquityEr enghraifft, fe fues i’n edrych ar Ubiquity, sef teclyn newydd gan Mozilla, sef y sefydliad ar gyfer meddalwedd cod-agored fel Firefox ac ati, fydd yn gallu dadansoddi eich ebost a darparu adolygiadau am lefydd bwyta drwy ond gweld cyfeiriad neu gôd post yn y testun.

Mae’n edrych yn wych, ond o mhrofiad i, mae côdau post mewn trefi gwledig yn ffuantus a dweud y lleiaf. Roedd gan fy hen dy i tua 7 côd post gwahanol am nad ydi llefydd fel Dolgellau wedi eu trefnu yn dwt i strydoedd syth gyda rhifau mewn trefn cywir. Yn wir, mae llawer iawn o dai sydd ond ag enw ar y tŷ, a beth am ffermydd? Triwch chi ffeindio côd post tŷ ffarm ar wefan y Swyddfa Bost. Amhosib (GOL: gweler yr erthgl yma am broblemau gyda codau post a bas data’r Post Brenhinol). Felly hyd y gwela i mae yna fias mawr iawn tuag at ddinasoedd gyda’r gwefannau hyn i gyd, heb son am y ffaith nad oes llawer o wi-fi hotspots, coverage 3g – hyd yn oed coverage ffon symudol arferol da iawn ar gyfer rhai rhwydweithiau y tu allan i’r ardaloedd poblog hyn.

Ond so what medde chi? Mae’n bur amlwg fod y rhan fwyaf o bobol Cymru yn byw yn yr ardaloedd poblog. Duh! Wel, ydyn wrth gwrs, ond yn yr ardaloedd gwledig, cymharol amhoblog hyn mae llawer iawn o’r siaradwyr Cymraeg yn byw sy’n gosod problem fawr ar gyfer cysylltadwyedd y bobol hyn i’r we newydd, beth bynnag fo’u hiaith, ond yn arbennig felly yn y Gymraeg.

O ran data o Gymru, mae yna lawer iawn o wefannau Cymreig yn lleol a chenedlaethol sy’n cynnwys data defnyddiol am fwytai, gwestai, siopau a phob math o bethau eraill allai ffurfio mashups defnyddiol yn y dyfodol ond dwi’n amau’n gryf os yw’r rhain ar gael mewn ffordd y gall gwefannau eraill eu defnyddio ar gyfer creu stwnsh h.y. does ganddyn nhw ddim APIs, na ffrwd RSS na dim all raglennydd dyfeisgar dapio mewn iddo. Data anweledig felly. Marc du arall yn erbyn datblygiad y we Gymraeg.

torfYn ail, mae’r broblem o ddefnyddwyr. Mewn dinasoedd mae gennych chi màs critigol o bobol all greu cymunedau bychain defnyddiol ar y we, tra yn y we Gymraeg, yn aml mae’n drafferth cael gwefannau cymdeithasol niche i ddigwydd ar lefel cenedlaethol hyd yn oed. Mae hanes Maes-e yn enghraifft o sut mae hi’n anodd iawn i bobol ddechrau fforwm arall pan fo un boblogaidd yn bodoli eisoes. Ond efallai nad yw fforwm yr enghraifft orau erbyn hyn gan fod “y drafodaeth” rŵan yn digwydd dros sawl lleoliad ar y we, gyda phob math o gyfryngau, unigolion a sefydliadau yn cynnig lle i drafod ar eu gwefannau. Ac yn ogystal, mae’r nifer o bobol sydd ar gael sy’n cymryd rhan fywiog ym mhopeth sy’n ymwneud â’r we bownd o fod yn fach iawn o ran y Gymraeg, gan fod atyniad gwneud popeth ar y we yn Saesneg mor hawdd. Saesneg yw’r iaith de facto, ac mae denu pobol i wneud pethau yn y Gymraeg am fod yn annos o’r herwydd.

Ond peidiwch meddwl mod i ond yn bod yn besimistig yma. Mae yna obeithion, gan fod blogiau newydd yn parhau i gael eu sgwennu, ac mae yna genhedlaeth newydd Gymraeg sydd yn tech-savvy. Ac er ein bod ychydig yn hwyr tu ôl i ddatblygiadau eraill rhyngwladol ar y rhyngrwyd dwi’n obeithiol y gwnawn ni ffeindio dulliau newydd, dyfeisgar o ryngwynebu gyda’r “gwe o ddata” a’r dyfeisiau diddorol hyn sy’n ei ddefnyddio.

Efallai un agwedd o hyn fydd trwy ddatblygiadau mewn cyfieithu awtomatig, lle bydd pawb yn gallu darllen gwaith Cymraeg heb i’r awdur orfod ei gyfieithu ei hun. Mewn gwe o’r fath lle bo iaith yn gudd gallai gwenogluniau ddangos ieithoedd y gall y person siarad er mwyn gallu gweld pa iaith i gyfathrebu â nhw yn lle dim on rhagdybio eu bod yn siarad Saesneg (neu iaith fwyafrifol arall).

Neu efallai rhaid sicrhau ein bod ni’n dysgu i fod yn fwy miniog ein meddyliau wrth ddod at y llu o gyfryngau newydd yma sy’n datblygu. Wrth gwrs, ddaw hyn ddim heb gefnogaeth, ac mae’r bylchau yn y gefnogaeth sydd i ddatblygiadau yn y we gymdeithasol a’r cyfryngau digidol yn y Gymraeg yn amlwg. Efallai y bydd rhaid brwydro dros arian i ddatblygu y cyfryngau digidol yn y Gymraeg fel y bu raid brwydro am hawl i gael cyfryngau eraill, eto efallai ddim. Yn y cyfamser rhaid i ni ddysgu, a pharhau i ddysgu, a bod yn awchus am hawlio ein rhan ni o’r we i fod yn yr iaith yr ydym ni’n ei siarad, a dim ond wedyn y gallwn ni sicrhau bod y Gymraeg a Chymru yn gallu bod yn rhan o gyffro bydoedd newydd y we.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Un engraifft o cronfa data bendegedig ydi cronfa lleol Cyngor Cenfgwlad Cymru (GIS). Rhaid i CCC agor y data i phawb. Y posibilwydd i creu stwnch yn enfawr – addysg, twristiaeth, dywylliant, dwyddiant, busnes…. (please excuse the poor Welsh).

Diolch yn fawr am dy sylw Martin. Dyma ychydig wybodaeth am y GIS i ddarllenwyr eraill. Mae’n edrych fel bod posib ei gael ar gyfer rhai defnyddiau.Dwi ddim yn credu bod yna lawer o sefydliadau cyhoeddus sydd yn agor eu data fyny yng Nghymru eto.

Oes gan unrhywun sy’n darllen enghreifftiau o rai sydd? Rhestrwch nhw yma os oes.

Dolen ddefnyddiol yn yr achos yma hefyd efallai yw’r ymgyrch Free Our Data.

Mae hwn yn un or erthyglau mwya diddorol dwi wedi ei ddarllen mewn amser maith. Mae’n codi nifer o gwestiynnau yn fy meddwl i, on yr un sydd yn sefyll allan yw: Beth fedrwn ni wneud i newid hyn?

A fydd rhaid i ni greu bas-data a gwefannau fel Twitter / Facebook yn y Gymraeg? Bysai y bas-data yn ddefnyddiol iawn, nid yn unig i’r Cymry ond i weddill y deurnas unedig. Ydi bas-data yn rhydd o gadwyni iaith?

Be fasa creu rhwydwaith cymdeithasol yn y Gymraeg yn ein galluogi i wneud nad ydym yn gallu ar un mewn Saesneg? Ag hefyd, byddai’r Cymry yn fwy parod i ddefnyddio hi, ta fydde nhw am aros ar yr un Saesneg? Wedi’r cyfan, mae nhw wedi ei sefydlu ei hunain yn barod yno…

Fyswn i wrth fy modd yn gweld y pethau yma i gyd yn digwydd. Hwyrach na 2009 ydi’r flwyddyn i ni?
Tîm bach o bobl gyda’r “get up and go” i wneud hyn ddigwydd da ni wirioneddol angen… dwi’n meddwl…

Dwi di clwyed gan sawl unigolyn mai problem GSI yw lefel uchel iawn o ddiogeledd. Mae nhw’n cyfyngu ar beth sydd ar gael i bobol, gan gynnwys staff. Oherwydd hyn mae’n rhwystredig i rai gwneud eu gwaith yn iawn, dim ots am gyhoeddi gwybodaeth i’r cyhoedd.

Mae MySociety yn gwneud defnydd da o wahanol data ac yn eu stwnsio!. Hefyd daeth cystadleuaeth Show us a better way, a noddwy gan y llywodraeth a sawl syniad iddorol i’r amlwg (fel app i ffôn symudol sy’n dangos ble mae’r toiled cyhoeddus agosaf!).

O ddarllen blog ymgyrch ‘Free Our Data’ mae’n ymddngos mai rhesymau masnachol sy’n rhwystro adran Ordinance Survey rhag rhyddhau data h.y. mae’n nhw’n poeni byddant yn colli incwm. Mae manylion mapiau cyhoeddus yn yr UDA ar y llaw arall yn rhydd i bawb eu defnyddio.

Mae angen tri cyfranwr i’r gadwyn yma
1. Darparwyr y data amrwd
2. Datblygwyr gwefannau mentrus
3. Cynulleidfa sydd am ddefnydd’ir gwasanaeth, ac o bosib ychwanegu at y banc o ddata

Cwestiwn diddorol yw pa fath o wybodaeth cyhoeddus Cymraeg/Cymreig ddylid gael ei rhyddhau, ac yno oes yna ddigon o rhif 2 a 3 wedyn i wneud defnydda da/defnyddiol ohono yn y byd Cymraeg?

Y broblem fawr ddychmyga i, yn enwedig gyda gwefannau cyhoeddus, ydi’r modd mae data’n cael ei storio a’i arddangos, yn hytrach na gwrthwynebiad iddo gael ei ddefnyddio.

Dyma ddau syniad sydd gyda fi

GEFAN GWERTHU LLYFRAU CYMRAEG
Beth am y bas data sydd y tu cefn i wefan http://www.gwales.com (gwefan y Cyngor lyfrau) – gallai hwn wedyn fod yn sail i wefan (masnachol o bosib) ble gall Siopau Llyfrau Cymraeg restru pa lyfrau sydd gyda nhw mewn stoc + ble gall unigolion werthu rhai ail law. Gallai siopau dalu ffi blynyddol am y gwasanaeth – allai gael ei glymu i mewn i’w sustemau cadw stoc eu hunian (os oes gyda nhw rai electroneg eto!), a gallai unigolyn dalu ffi o ryw £5-10 am oes (llai o sdrach na trio casglu 3% o ffi pob tro). Byddai hwn hefyd yn addas i’r pobl sydd tu cefn i’r Casglwr. Hyd yn oed os nad oes modd prynnu ar-lein, mae’n cysylltu gwerthwyr a phrynnwyr.

THEY WORK FOR YOU ar gyfer y Cynulliad.
Mae modd defnyddio’r gwasanaeth ardderchog yma gan MySociety ar gyfer cadw golwg ar peth mae’r Aelodau Senedol, Aelodau Senedd yr Alban ac Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerdodn yn wneud, ond hyd yma ddim Aelodau ein Cynulliad. Eto nid diffyg parodrwyd yw’r brif broblem, ond y modd y mae’r data’n cael ei ddangos – ‘data anweledig’ fel nododd Rhodri. Dw i ddim yn gwybod os yw pethau wedi newid, ond https://secure.mysociety.org/admin/lists/pipermail/developers-public/2007-May/thread.htmldyma broblemau a oedd tua blwyddyn yn ôl.

Wnai ganolbwyntio ar un agwedd o’r blogiad – sef casglu a crynhoi y data. Mae gan y llywodraeth a’i asiantaethau yr adnoddau a’r arian i gasglu gwybodaeth ond ddim y cymhelliad i’w ryddhau. Yn aml nid yw’r data yn addas i’w ryddhau am ei fod yn cynnwys manylion personol neu wedi ei storio mewn ffurf perchnogol. Yn aml mae deddfwriaeth diogelwch data yn atal rhannu neu ryddhau gwybodaeth.

Mae nifer o gwmniau preifat yn defnyddio model busnes lle mae nhw’n gallu rhannu gwybodaeth neu wasanaeth er mwyn denu cymaint o ddefnyddwyr a phosib (sy’n caniatau hysbysebu). Yr unig gwmniau sydd yn gallu fforddio gwneud hyn fel arfer yw’r cwmniau sy’n cael eu cyllido yn yr UDA ond yn anelu’n fyd-eang (Google yw’r enghraifft orau).

Wrth ddewis y trywydd yma, mae cymhelliad cryf ar y busnes i wneud ei gwasanaeth neu data yn gwbl agored a hygyrch ac i gynnal gwasanaeth dibynadwy a sefydlog yn y tymor hir.

Mae hyn hefyd yn esbonio pam nad yw cymuned fach yn gallu cynnal datblygiadau yn y maes yma – mae angen mas critigol, marchnad eang a buddsoddwyr gyda pocedi dwfn (fydd yn anoddach fyth yn 2009)

Yng Nghymru felly rhaid edrych tuag at ffynnonellau cyhoeddus. Yn wahanol i fusnes preifat, does dim cymhelliad ar adrannau’r llywodraeth i edrych ar ROI nac ar wasanaethau ‘agored’ a dyw’r meddylfryd ddim yn bodoli yno (sdim angen sôn faint o arian sy’n cael ei wastraffu ar brosiectau TG gan adrannau’r llywodraeth… edrychwch ar drafferthion y DVLA yn ddiweddar).

Yn fy mhrofiad i hefyd mae prosiectau gan y llywodraeth yn cael eu cyllido am dymor penodol heb unrhyw ystyriaeth ar beth i wneud ar ddiwedd y prosiect. Dwi wedi gweld llawer gwefan yn cronni gwybodaeth dros 2/3 blynedd ond yna ei dynnu lawr oherwydd newid ym mlaenoriaethau neu polisïau y gwleidyddion sydd mewn grym ar y pryd. Felly mae’r wybodaeth sydd ar gael yn darged symudol. Mae’r un peth yn wir am gyrff cyhoeddus fel y BBC yn enwedig gyda’r ‘public value test’.

Un enghraifft alla’i sôn amdano yw cronfa ddata Croeso Cymru (sy’n legasi o’r Bwrdd Croeso annibynnol). Rydyn ni’n defnyddio hwn i fwydo dau wefan gyda gwybodaeth am atyniadau/digwyddiadau/llefydd i aros. Mae gwybodaeth newydd yn dod fewn bob munud o’r dydd, a rydyn ni’n storio copi lleol ohono (dwi ddim yn siwr os oes unrhywun arall yn gwneud hyn). Mae amodau ar ddefnyddio’r wybodaeth wrth gwrs, er y galla’i feddwl am nifer o ffyrdd i ddefnyddio’r wybodaeth yn fasnachol (y gwir yw fod Google wedi achub y blaen yn enwedig yn y maes teclynnau symudol).

Fe wnaeth walescymru.com ddefnyddio’r gronfa uchod fel man cychwyn i’r wefan ond mae hwn yn ‘fforch’ h.y. fydd ychwanegu/newid gwybodaeth ar y wefan honno ddim yn ffeindio’i ffordd nôl i Croeso Cymru. Ac yn anffodus dyw gwefan walescymru ddim y gorau o ran diweddaru gwybodaeth nac o ran ei nodweddion yn gyffredinol.

Gyda llaw, o ran data CC, ychydig iawn o’r testun sy’n Gymraeg er ei fod yn weddol hawdd cyfieithu enwau neu ymadroddion safonol (e.g. enwau llefydd, dyddiadau).

Wel dwi wedi colli’r ymateb yma unwaith, felly dwi am ddanfon hwn a dod nôl os feddylia i am unrhywbeth arall i ddweud.

Dyma blogpost a sylwadau y flwyddyn! Dyma’r pwnc yn agos i fyn ngalon i.

Esgusodwch fy Gymraeg i ond hoffwn i cyfrannu fy 2 ceiniog.

Dw i wedi meddwl amdano pethau a mae’n cyffrous weithiau. Ond fel arfer, mae’n digalon.

Rhodri, rwyt ti’n ffeindio un problem fawr – ond dyma llawer o problemau cyffredinol:

1. Prif-statws o Silicon Valley, California yn technoleg beth bynnag. Mae nhw yn edrych at y dyfodol a datblygu llawer o gwasanaethau, blatformiau, ayb. Ond, fel arfer mae nhw yn ficsio broblemau leol. Basai unrhywun yn wneud rhywbeth defnyddiol i eu hunan. Dw i’n meddwl amdano pethau yn fy mhywyd. Mae’n anodd os ti eisiau defnyddio stwff – dydy nhw ddim yn deall neu meddwl amdano Gymraeg.

2. Felly, mae Ewrop yn araf oherwydd rheswm ariannol. Dw i’n meddwl Llundain yn araf eto. Weithiau gallen i weld llwyddiant Ewropeaidd. Ar enghraifft yn y byd gwe2.0, oedd Skype (Estonia) a Last.FM (Llundain) yn dechrau fel start-ups clasurol. Ond cafodd eu werth nhw i cwmniau yn USA – prynodd eBay Skype a phrynodd CBS Last.FM.

3. Yn ieithoedd lleiafrifol, mae rhifau yn bach, fel ddweudaist ti.

4. Mae Cymry yn araf i gwrdd tecnoleg newydd. Dyma dwy enghraifft yn y byd arlein. Ble mae’r podledu Cymraeg? Ble mae’r fideo-blogs Cymraeg? Efallai gallet ti ffeindio un neu dau ond ble mae’r explosion cyfryngau newydd? Hoffwn i ymarfer fy Cymraeg i! (Gyda llaw, bydda i dechrau fideo blog Cymraeg yn fuan. Bydda i postio fideos gyda syniadau DIY, lefel mynediad am y person ifanc/dechrauwr. Fel Blue Peter ond mwy secsi a mwy punk. Dw i’n agor i syniadau. Dw i eisiau help gyda Cymraeg hefyd.)

Wrth gwrs, dw i wedi siarad amdano cwmniau start-up. Mae pob start-up yn dechrau fel syniad bach, mash-up, prawf neu hac ymchwilio&datblygu. Ond mae Silicon Valley yn dda iawn achos mae ecosystem llawn gyda nhw – syniadau, pobol, arian menter a ysgogiadau i datblygu pethau newydd.

Ble mae’r ysgogiadau yma? Gallet ti dweud “rhaid iddyn ni ddim yn cael ysgogiadau” i chwarae o gwmpas gyda gwybodaeth. Rwyt ti’n cywir. Ond mae ysgogiadau yn gweithio yn y ffordd arall. Allai cwmniau mawr a llywodraeth ddim yn adnabod rheswn i rhyddhau gwybodaeth fel RSS ayb. Peidiwch yn dweud API – peidiwch yn meddwl amdano API eto.

Deu enghraifft

- Llynedd, gorffenodd Llywodraeth llawer o RSS feeds achos oedd eu safleoedd we nhw yn rhedeg yn araf! (Siaradais i gyda person yn y swyddfa.) Sefyllodd unrhywun i gwyno? (OK, gwynais i ddim eto.)

- Hoffai Bwrdd yr Iaith Gymraeg ddim yn rhyddhau geiriau Cymraeg dan trwydded GPL. Mae’n pwysig am cyfieithiad peiriant a adnabyddiad-iaith. Oedden nhw wedi casglu geiriau gyda arian cyhoeddus. (A rhyddhodd bwrdd yn y fro Basque eu geiriau nhw.) Gallen ni defnyddio Apertium ar hyn o bryd, ond mae gwybodaeth ByIG yn mwyaf. Pwysig.

Mae’n ddrwg gen i. Dwedais i Apertium ond rhaid i mi dweud Eurfa – bas-data melys o geiriau. Yn y mis tywyll ac oer, rhaid i mi datblygu rhywbeth gyda hwn…

Gareth: o ran creu rhwydweithiau newydd. Mae hynny’n digwydd, ond efallai bod angen mwy o opsiynau. Normaleiddio defnyddio’r we yn Gymraeg yw un o’r prif amcanion faswn i’n deud, a mewn ffordd, mae Facebook yn Gymraeg wedi llwyddo i wneud hynny. Wrth gwrs, mae pawb sy’n nabod eu gilydd yn gallu gweld sgyrsiau’n mynd mlaen yn Gymraeg ochr yn ochr a Saesneg yno felly mae’n hawdd dweud pwy sy’n siarad Cymraeg. Bydd cael profiles mwy constant dros blatfformau fel Facebook Connect falle’n helpu i sicrhau fod pobol yn gwybod lle i ffeindio siaradwyr Cymraeg ar y we.

O ran cael pobol gyda get up and go – yn sicr mae angen datblygu meddylfryd o fewn pobol sydd a diddordeb yn y we i wneud pethau yn Gymraeg. Ond faswn i’n dadlau fod angen hwb ychwanegol i wneud hynny. Dim ond hyn a hyn all pobol wneud yn wirfoddol.

Rhys: ti’n codi pwyntiau dilys iawn am ddiffyg defnyddwyr a phobl i ddefnyddio’r data. Ond rhaid i ni ddechrau meddwl am y pethau ma a chael sefydliadau i ystyried eu rhyddhau. Wedi’r cyfan da ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd pa ddefnyddiau creadigol allai gael ei wneud ohonyn nhw.

Dwi’n credu fod cael They Work For You i’r Cynulliad yn hanfodol ar gyfer democratiaeth ein glwad. Mae’n cynyddu atebolrwydd yn aruthrol drwy allu tracio pethau lleia fel keywords ac unigolion trwy RSS.

Diolch i bawb am eich sylwadau. Ddoi nol i ymateb i’r lleill nes mlaen.

Dafydd: diolch am dy gyfraniad. Mae’r pwynt am ’shelf-life’ gwefannau yn un da, ac mae’n amlwg bod yna gronfeydd data fyddai’n gallu bod yn hynod ddefnyddiol. Oes na gronfeydd gan Amgueddfa Cymru, fyddai posib defnyddio cronfeydd y Llyfrgell Genedlaethol mewn rhyw ffordd. Efallai taw’r ffordd i gael defnydd o ddata fel hyn ydi bod yna gyfraniad mewn iddo gan y defnyddwyr hefyd er mwyn adeiladu, ond mae hynny efallai’n wiki-ffeio data sydd wedi dod o le gyda ‘awdurdod’ arbenigol.

O ran y bobol fyddai a’r potensial i wneud defnydd o’r wybodaeth, petasai ar gael, wyt ti’n cytuno bod angen chwistrelliad o fuddsoddiad mewn cynhyrchwyr cynnwys a chyfryngau digidol er mwyn hwyluso hyn a sicrhau bod yna genhedlaeth newydd o gynhyrchwyr sydd yn datblygu gwefannau gyda’r Gymraeg yn flaenllaw yn eu meddyliau.

Alla i weld problem yr OS mewn rhyddhau eu data os yw 50% o’u hincwm yn fasnachol. Buasai’n ergyd drom iddyn nhw, a phwy fasa’n darparu’r shortfall?

Carl: gwerth 5 ceiniog o leiaf!

Mae’r ffrwydrad cyfryngau newydd yn digwydd yng Nghymru, ond yn y Saesneg hyd y gwela i. Hwn yw’r broblem efallai. Pan mae dy ganfas di mor eang ac ‘y byd’ mae’n gryn demtasiwn i wneud rhywbeth yn Saesneg yn hytrach na iaith lai o lawer ei siaradwyr fel Cymraeg.

Neu efallai taw’r broblem yw bod y ffrwydrad cyfryngau newydd ond yn digwydd ar lefel fach yng nghyd-destun pethau eraill y DU, ond mae’n teimlo’n fwy gan bod pawb yn siarad yn uchel amdano. Pan ti’n sôn wedyn am geek fyd Cymru, mae ar lefel llawer llai, ac wedi ei ganolbwyntio mewn dinasoedd. Ac wedyn os doi di a geek fyd Cymraeg sydd a’r potensial i wneud pethau cyffrous gyda fideo a’r we ac ati – yna mae’n fach iawn iawn.

Dwi weithiau’n teimlo bod y geek-fyd yn meddwl ei fod yn cael effaith llawer mwy nac y mae, gweler hype Twitter fel enghraifft o hyn. Just geeks sydd yno rili, a lot ohonyn nhw. Efallai taw dyna pam dwi’n eitha lecio fo. Dwi ddim yn gweld lot fawr o maisntreaming yn digwydd efo Twitter, er cymaint mae pawb yn dweud. Dyw rhan fwyaf o bobol ddim eisiau bod ‘always-on’, nac efo’r amser.

Dwi’n edrych mlaen yn arw i weld dy fideo-blog Cymraeg, a dwi’n credu bod angen annog llawer mwy o hyn. Mae darllediadau gwe yn y Llydaw yn boblogaidd iawn, am eu bod nhw’n ifanc a ddim yn sefydliadol fel mae S4C. Does dim digon o bethau gwrth-sefydliadol amlwg yn y Gymraeg! Ma hyd yn oed Bandit yn sefydliadol –> lle ma’r wefan gerddoriaeth an-sefydliadol Gymraeg? (Curiad ydi’r unig un, ers i Unarddeg ddisgyn hyd y gwela i).

O ran RSS feeds, mae angen gwneud nhw’n llawer mwy hygyrch i bobol. Rhoi’r opsiwn i ebostio diweddariadau yn lle defnyddio darllenwyr ffrydiau. Canran fach o bobol sydd yn defnyddio nhw, felly mae angen gwneud hi’n haws eto i bobol dderbyn cynnwys yn rheolaidd gyda RSS. Ma’n nyts fod y Llywodraeth yn tynnu nôl arnyn nhw fodd bynnag.

O ran y geiriaduron sydd gan Fwrdd yr Iaith / Canolfan Bedwyr, dwi’n deall bod yno elfen fasnachol i ddefnydd o’r rhain gan eu bod wedi cael eu datblygu gan sefydliad ymchwil a meddalwedd sydd yn edrych i fasnacheiddio, fel mae llawer o sefydliadau sydd ynghlwm â Phrifysgolion yn gorfod gwneud. Fodd bynnag, dylai rhywbeth mor sylfaenol a geiriaduron fod ar gael i’w defnyddio mewn ffyrdd creadigol, yn arbennig pan ein bod ni’n wlad mor fach. Mae’n un peth i’r OED gadw eu data pan fo geiriaduron Saesneg eraill ar gael i’w stwnsho, ond allwn ni ddim fforddio gorfod gweithio ar adeiladu ail set o ddata sy’n rhydd fel mae Eurfa’n gwneud, pan ddylen ni fod yn defnyddio’n adnoddau i’r max.

Ond yn dilyn o hyn dwi’n sylwi ar wefan BYIG eu bod nhw’n dweud y bydd pob meddalwedd mae nhw’n ariannu o hyn allan ar gael yn rhad ac am ddim, gan ddechrau gyda Cysgliad i’r Mac.

Un pwynt arall i’w wneud am we 2.0 a’r Gymraeg yw fod pethau fel StumbleUpon, Digg, Redditt, Mixx ac ati yn redundant ar gyfer blogiau Cymraeg (neu unrhyw iaith arall a dod i hynny). Neu ydw i wedi methu tric rhywle? Mae Delicious yn eitha handi ar gyfer ffeindio awgrymiadau ar gyfer gwefannau, ond dwi rioed wedi meddwl y byddai modd defnyddio’r lleill.

Oes na le i rhyw fath o Digg Cymraeg efallai?

Mae hon yn drafodaeth ffantasig, bois. Diolch am dy arweiniad Rhodri ac am droi ambell i garreg a gadael y cynron allan! Mae’n ffaith sylfaenol nad ydy iaith leiafrifol yn mynd i allu datblygu dan reolau marchnad iaith a lot o siaradwyr ac y mae hwn yn bwynt y mae’n rhaid i wleidyddion ac asiantaethau cyhoeddus ei ddeall. Gyda’r mapiau OS, er enghraifft, mae Llywodraeth y Cynulliad a’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn talu llwyth o sbondiwlics am drwyddedau i ddefnyddio’r data yn barod. Faint mwy fyddai hi’n gostio i’w ryddhau. Ac mae’r pethau a gynhyrchwyd gan Ganolfan Bedwyr dros y blynyddoedd gyda chymorth ariannol sylweddol Bwrdd yr Iaith (o 1988 ymlaen, gyda llaw) yn siwr o fod yn fuddsoddiad cenedlaethol a ddylai fod ar gael i bawb yn ddi-gost. Rheolau marchnad estron sy’n dweud bod rhaid gwneud mwy o arian ar ei gefn.
Dwi’n credu bod yr amser yn briodol i ddechrau ymgyrch ar y pwyntiau yma. Mi ddylen ni allu creu maniffesto syml (Mae darn cyntaf Rhodri bron wedi gwneud hynny’n barod), a chael cefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg i’r prif amcanion cyn ei gyflwyno i weinidogion y llywodraeth.
Rwyt ti’n iawn Rhodri. Os na allwn ni gadw i fyny efo’r newidiadau, ac mae’r cyflymder yn mynd i gynyddu yn ystod y sefyllfa economaidd bresennol, Duw a ŵyr lle bydd y cymunedau Cymraeg yn diffinio’i hunain mewn deng mlynedd.
Pwy sydd eisiau sgwennu maniffesto?!

“Oes na le i rhyw fath o Digg Cymraeg efallai?”

Dwn i’m am Digg, dw i ddim yn ei ddefnyddio – ond dychmyga i bod angen mass reit sylweddol i wneud o bleidleiswyr (50+ o leiaf?) iddo fod werth o.

Gallech ddefnyddio delicious gyda’r blog yma – ychwanegu ffenest fach ar y dde yn arddangos RSS o tag arbennig (e.e. metastwnsh) sy’n rhoi’r cyfle i ddarllenwyr yn ogystal a chyfranwyr y blog nodi storiau all fod o ddiddordeb – mae fel microflogio.

Dau beth yng glwm a’r cofnod yma a all fod o ddiddordeb

1. Bwrdd Iaith Gaeleg y Alban am wario £250,000 ar wefan rhwydweithio cymdeithasol newydd yn yr iaith!

2. QYPE, gwefan adolygu mannau fel tai bwyta a siopau etc yn rhyddhau eu API ac yn cynnig $3,500 am yr app gorau. Fyddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau gyda API, ond efallai bod rhai tyma sydd yn, a beth sy’n ddiddiorol am QYPE yw’r ffordd mae nhw wedi gwneud rhyngwyneb y wefan yn amlieithog (syml dybiwn i) ond sydd hefyd wedi gwahanu’r cynnwys yn ôl iaith hefyd.

wps – dyma ddolen ar stori am ‘Facebook’ Gaeleg – syniad da, neu ofnadwy?

PS, byddai opsiwn ‘rhagolwg’ yn handi!

Cymaint i’w ymateb iddo, ond methu gwneud ar hyn o bryd. Ddoi nôl at y maniffesto(!) a Digg/Qype yn y man.

Mae’r issues o amghylch Facebook Gaeleg ac ariannu cyhoeddus i’r we yn haeddu cofnod iddo’i hun.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos