Cyfrannwyr
Sioned Edwards
Mae Sioned yn dod o ardal Machynlleth (ynden wir, mae nhw YN ein gadael ni’n rhydd i’r byd bob hyn a hyn), ond wedi ymgartrefu yn Nghaerdydd erbyn hyn. Mae hi’n gynhyrchydd cynnwys, ac ei diléit yw pontio elfennau, a phobl, technegol a chymdeithasol y rhyngrwyd. Bu hi unwaith yn gweithio mewn syrcas yn y Bari, felly bydd yn gallu delio gyda trolls yn eitha taclus. Yn trydar a thynnu lluniau, yn geek nofelau graffig, saethu fideo ac yn ‘retro gamer’ mae hi newydd ddechrau gwnïo a reidio beic, ond ddim ar yr un pryd.
Gareth Jones
Mae Gareth yn dod o Flaenau Ffestiniog ag ar hyn o bryd yn fyfyriwr gradd mewn ‘Special Effects Development’ ym mhrifysgol Bolton. Yn flogiwr o fri, mae ganddo ei fys mewn sawl prosiect ar y we sydd yn cynnwys stwnsh.com a www.gadget-nerd.co.uk – Hefo diddordeb mewn teclynnau a thechnoleg newydd mae wrth ei fodd yn dod a rhain i sylw bobl eraill. Gyda profiad mewn dylunio gwefannau mewn HTML a CSS, mae Gareth bellach yn ymddiddori ei hyn drwy ddysgu sut i greu ‘templates’ i ‘WordPress’.
Mae Gareth hefyd yn ymwneud a blogio llaw rydd i gwmniau ar y rhyngrwyd.
Blog bersonol Gareth i’w gael yma
Rhodri ap Dyfrig
Mae Rhodri yn gweithio ar sawl gwefan ar hyn o bryd gan gynnwys datblygu cymuned fideo Sesh TV, adnodd dysgu ffilm Yn y Ffram, a gwefan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’n blogio ar Rwdls Nwdls ers 2003 a Pictiwrs ers 2005 ond ers dod yn Dad mae’n ffeindio micro-flogio’n llawer rhwyddach draw ar Twitter. Mae cyfrannu i’r wefan hon yn ymgais i ail-afael mewn blogio, mewn ffordd ara bach ar ol colli’r nac o sgwennu dros 140 llythyren ar y tro. Ei brif ddiddordeb yw’r cyfryngau cymdeithasol a sut mae’r cyfryngau traddodiadol yn asio efo’r cyfryngau gwe. Does ganddo fo ddim Mac, nac hyd yn oed wi-fi, ond mae’n chwenychu nhw. [mwy]
Aled Wyn
Mae Aled yn hanu o Login (yep apt iawn i person sy’n cyfrannu i flog technoleg) ond bellach yn byw yn ardal Llanidloes. Mae’n ffan mawr o bopeth Apple Mac, ac os oedd ganddo digon o arian, fe byddai e’n gwario’r cyfan ar declynnau Apple. Mae ganddo wefan www.aledwyn.com, er mae’n euog o ddim cadw’r peth yn ‘up to date’. Mae Aled hefyd yn peoni pobl gyda diweddariadau ar Twitter.
Rhys Llwyd
Mae Rhys yn dod o Aberystwyth ond bellach yn byw ym Mangor ac yn fyfyriwr ymchwil Diwinyddiaeth yno. Er mwyn cynnal ei hun drwy gyfnod ei ymchwil fe ddechreuodd botsian gyda dylunio graffeg a bellach maen gweithio ar sawl prosiect llawrydd y mis. Deunydd print yn bennaf ond wedi potsian ag ambell wefan. Pan nad yw yn y Llyfyrgell neu yn treulio amser gydi gariad mae’n neidio nol o mlaen rhwng Photoshop ac InDesign tan fod ei llgadau’n dweud: “DIGON!” Maen defnyddio systemau Apple ers 2004 a chyn hynny bu’n gyfrifol am dynnu PC ei Dad i ddarnau sawl gwaith!
Fel Cristion mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y modd mae mudiadau ac Eglwysi Cristnogol yn gwneud defnyddio o Gwe 2.0 ac yn unol a’r diddordeb hwnnw maen aelod o Fwrdd GiG y mudiad sydd tu ôl i beibl.net, y Beibl 2.0 ar y wê. Mae ef yn flogiwr ers blynyddoedd bellach. Gwefan Rhys: www.rhysllwyd.com
Bryn Salisbury
Fy enw i yw Bryn Salisbury, ex-pat draw yng Nghaer, wedi glanio yma ar ôl bod yn Aberystwyth a Bethel. Nawr yn gweithio fel consultant diogelwch ar gyfer systemau cyfrifiadurol (ie, hacker…) tra ‘n gwneud gwaith datblygu gwefannau yn fy amser spar. Dwi’n trydaru’n ddwy-ieithiog ac yn mwynhau tynnu lluniau tra fy mod i yn croesi o un pen y wlad i’r llall. Dwi ‘n edrych ymlaen i gyfrannu mwy at Metastwnsh yn y dyfodol.
Gruff Prys
Mae Gruff (neu ‘Gruffudd’ os ydi o wedi gneud rhywbeth o’i le) yn hannu o Riwlas, ger Bangor, pentref a ddisgrifwyd orau fel ‘mae o fatha fersiwn middle class o Deiniolen’. Erbyn hyn mae Gruff yn byw yn ganol stiwdants ym Mangor, sy’n reit handi gan ei fod o’n digwydd gweithio ym Mhrifysgol Bangor ym maes Technolegau Iaith. Mae’n un o griw meddal.com, ac roedd yn arfer rhedeg unarddeg.com tan i’r lle gael ei hacio gan blant draw yn Rwsia oedd a mwy o ddealtwriaeth gyfrifiadurol na fo, ac iddo goll mynedd.
Yn ogystâl â iaith a thechnoleg, mae’n ymddiddori mewn cerddoriaeth, dylunio a gemau cyfrifiadur. Mae ganddo iPhone ac Apple Mac (er mwyn rhedeg Logic), ond mae’n well ganddo ddefnyddio Windows gan ei fod yn sylweddoli i Macs gael eu cynllunio ar gyfer pobl sydd wedi eu siomi nad ydi Fisher-Price yn cynhyrchu cyfrifiaduron, ac sydd mond wedi dysgu sut i ddygymod efo ail fotwm ar eu llygoden yn gymharol ddiweddar. Mae’n sylweddoli bod hyn yn debygol o’i wneud yn amhoblogaidd ym mysg Mac-garwyr Metastwnsh…
Iestyn Lloyd
Dylunydd graffeg sydd wedi gorfod trafaelio’r holl ffordd rownd y byd i symud 6 milltir o Groeslon i Gaernarfon. Mac ‘Fanboy’ ers 1997 ond wedi gorfod defnyddio Windows 98 yn y flwyddyn 2000 gan fod arian yn brin ar ôl gadael coleg yng Nghaerdydd. Ei hoff bethau ‘tec’ yw ei iPhone 3GS, iMac 24”, Wacom Intuos a’i Canon 400D. Ei gas bethau yw unrhyw beth o Poundland, Poundstretcher a smonach siopa sydd yn gwerthu crap does neb ei angen (gweler siop ar y gornel yn Turf Square, Caernarfon), ‘trash gadgets’.
Fe allwch ffeindio mwy o fanylion amdano ar ei safle we sbellcheck.co.uk (mae’n gweithio arno) ag ar Twitter. Cofiwch bobl mai Dylunydd Graffeg ydyw ac nid IT Support!
Dafydd Tudur



