Colli gwybodaeth
Ddoe, ar ôl methu a cael fy dongle O2 i weithio gyda Snow Leopard ar y MacBook fe wnes i benderfynnu defnyddio tethering yr iPhone i gysylltu gyda’r wê tra’n trafeilio ar y trên. Roeddwn i wedi rhoi’r OS diweddaraf ar yr iPhone (Firmware 3.1) a wedi siomi gweld nad oedd hi’n bosib cysylltu try ddefnyddio’r iPhone fel modem. Es i chwylio sut byddai’n bosib i mi fedru gwneud hyn unwaith eto. Falle bod rhai ohonnoch chi’n cofio i mi wneud hyn yn ystod yr haf.
Roeddwn i yn gorfod mynd yn ôl i OS 3.0 er mwyn gallu cael yr opsiwn tethering yn ôl ar yr iPhone felly dyma fi’n gwneud bopeth yr oeddwn i yn feddwl y dylsiwn i (gwneud backup a ballu) a dechrau ar y broses. Doedd downgradio i 3.0 ddim yn annodd o gwbwl ar ôl edrych ar y wê ac o fewn dim roedd yr opsiwn tethering yn ôl ar y ffôn.
Mae genai gyfrif MobileMe, sydd i fod i gadw manylion Calendar, Contacts, Bookmarks a Mail yn gyson rhwng yr iPhone, MobileMe a’r MacBook. Ond, pan wnes i fynd i roi’r contacts yn ôl ar yr iPhone roedd dros hanner nhw wedi mynd! Dwi ddim yn siwr iawn beth ddigwyddodd yn y 10 munud oeddwn i wrthi’n gwneud y roll back i OS 3.0, ond doeddwn i ddim yn hapus. Pam dwi’n talu £60 am y gwasannaeth yma os dio ddim yn medru cadw fy ngwybodaeth yn saff?
Mae hyn yn codi cwestiynnau am pa mor saff ydi’r busnes cloud computing ma i mi. Dwi’n defnyddio gwasannaethau fel GoogleDocs, Dropbox ac A-Drive yn ogystal a MobileMe i gadw ffeils. Ond, ar ôl colli llwyth o wybodaeth ddoe, dwi ddim yn siwr am y gwasannaethau yma bellach.
Ai papur a phensel yw’r ffordd orau i gadw manylion cyswllt yn saff yn dal? Mae technoleg yn wych pan mae’n gweithio, ond pan mae rhiwbeth yn mynd o’i le… look out.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.
Sylwadau
[...] This post was mentioned on Twitter by metastwnsh, Gareth Jones. Gareth Jones said: Colli gwybodaeth – http://metastwnsh.com/colli-gwybodaeth/ [...]




Gytud. Dwinna’n defnyddio sawl un. Ond ma’r ffaith dy fod ti’n talu am y gwasanaeth a’i fod heb delifro i ti yn codi amheuon mawr am ei werth. Oes na ddim backup yn digwydd yn lleol pan ti’n gneud sync?