Cofio'n ôl dros fy negawd cyntaf ar y wê
Yr adeg yma ddeng mlynedd yn ôl roeddwn ni’n hogyn ysgol, plorog, pedair ar ddeg oed yn wynebu mynd yn ôl i Benweddig ar ôl y gwyliau i wynebu fy mocs TGAU cyntaf. Ond yn fwy pwysig, rhyw dro yn y flwyddyn 2000 y daeth y rhyngrwyd i’n tŷ ni gyntaf a hynny drwy gyfrwng cysylltiad dial-up yr ISP anenwog hwnnw Red Hot Ant. Yn ogystal a bod yn araf roedd y wê yn hynod ddrud i ddechrau oherwydd ei fod e’n metered, hynny yw y mwyaf oedde chi’n dialed-up y mwyaf fyddai eich bil chi bob mis. Ond gwnaeth gwasanaeth unlimited Red Hot Ant a chwmnïau tebyg gymryd y braw o dderbyn bil enfawr posib drwy’r post i ffwrdd a thrwy hynny denu pobl fel fy nhad i gael y wê adref am y tro cyntaf. Dwi ddim yn cofio’n union beth oedd y cytundeb gyda Red Hot Ant ond mae rhyw frith gof gyda mi ei fod e’n one off o £90 y flwyddyn ac yna unlimited surfing. Mae hynny’n rhad ofnadwy i feddwl mod i bellach yn talu £35 y mis am fy nghysylltiad gwe, ond rhaid cofio fod y cysylltiad bryd hynny yn araf deg tu hwnt – byddai lawrlwytho MP3 yn medru cymryd oriau a byddai llwytho un dudalen wê yn medru cymryd munudau. Cyn i’r flwyddyn gyntaf ddod i ben fe aeth Red Hot Ant yn fethdalwyr – a cyn i 2001 wawrio dyma nhad yn ein cysylltu i wasanaeth tebyg gan BT.
Ar y pryd cyfrifiadur y cartref oedd un Times, 366 Mhz, 10Gb hard disk, yn rhedeg Windows 98. Y peth cyntaf i gymryd sylw ohono oedd y ffaith mae hwn oedd yr unig gyfrifiadur yn y tŷ. Gyda phawb adref dros y Nadolig wythnos yma mae yna 9 cyfrifiadur yn gweithio yma rhwng 5 ohonom ni! 4 PC a 5 Mac! Dyna i chi wahaniaeth mewn deng mlynedd. Un o’r pethau cyntaf dwi’n cofio ei wneud ar y rhyngrwyd oedd cychwyn cyfri Hotmail – mae’r cyfri dal yn fyw gyda mi ond bellach dwi jest yn ei ddefnyddio fel dumper wrth arwyddo fyny i bethau fel Facebook er mwyn cadw fy mhrif gyfrif ebost yn rhydd y rwtsh felly. Am y blynyddoedd cyntaf – tan i mi ddechrau gwneud pethau gyda Cymdeithas yr Iaith yn 2002 i ddweud y gwir doedd genna i fawr o neb i ebostio a doedd neb yn fy ebostio i!
Yna daeth MSN Messenger – dyma oedd y ffenomenon rhyngrwyd cyntaf i mi fod yn rhan ohoni – roeddwn ni a’m ffrindiau i yn treulio oriau ar ôl ysgol bob nos yn siarad rwtsh gyda’n gilydd ar MSN. Roeddwn ni’n defnyddio MSN drwy ysgol ac fe ddiflasais ar y peth erbyn i mi gychwyn yn y Brifysgol yn 2003. Un o’r gwasanaethau cyntaf eraill
i mi ddefnyddio ar y wê yn y cyfnod yma oedd Napster – roeddwn ni mewn i Napster in a big way a hynny yn y cyfnod pan allasai lawrlwytho un MP3 gymryd oriau gyda’r cysylltiad dial-up. Fe lwyddais i ffeindio stwff reit ddiddorol gan gynnwys rhai pethau Cymraeg fel Topper. Roeddwn ni’n un o’r defnyddwyr pan gaewyd y gwasanaeth i lawr yng Ngorffennaf 2001. I roi ychydig bach o gyd-destun i chi – ni agorwyd iTunes store gan Apple am ddwy flynedd arall felly ar y pryd doedd y diwydiant ddim yn cynnig unrhyw opsiwn cyfreithiol.
Ond amwni mae’r datblygiad pwysicaf yn fy mlynyddoedd cyntaf ar y ŵe oedd sefydlu maes-e.com gan Nic Dafis fis Awst 2002. Wnes i ddim ymuno tan Rhagfyr 2002 – dilyn dolen draw i’r maes wnes i ar y fforwm drafod oedd ar wefan Cymuned ar y pryd.

Unwaith i mi gyrraedd y maes roeddwn ni’n hollol hooked a hynny am flynyddoedd. Buesi’n gyfrannwr brwd rhwng 2002 a 2007 ond ers hynny dwi ond yn pipian i mewn yn achlysurol. Er mod i heb ddefnyddio’r wefan o ddifri ers rhyw dair mlynedd fi sy’n parhau i fod yr wythfed defnyddiwr prysuraf sy’n dangos faint o negeseuon ro’ ni’n gadael nol yn y dyddiau da. Wn i ddim pam i’r maes golli ei hapel i mi ond rwy’n synhwyro fod poblogrwydd y peth erbyn tua 2005 wedi ei sbwylio i mi’n bersonnol. Roedd yn well gyda mi’r trafodaethau arafach a dyfnach roeddem ni’n cael yn y blynyddoedd cynnar na’r rhai mwy bas a gwyllt daeth i’r amlwg yn ddiweddarach.
Y drafodaeth prysura i mi ar y maes oedd honno ddechreuodd fis Mai 2003 yn trafod a ddylai Cymdeithas yr Iaith a Cymuned gyd-weithio. Cewch ddarllen drostio eto fan yma – dwi’n gwrido ond hefyd yn chwerthin wrth ddarllen beth roeddwn ni’n sgwennu bryd hynny – in defence i fi fy hun roeddwn ni dal yn yr ysgol ar y pryd! Flynyddoedd yn ddiweddarach rhaid mi gyfaddef na fuasw ni’n amddiffyn llawer o’r hyn ddywedais bryd hynny bellach.
Wel dyna ni, ar ddechrau degawd newydd dyna rhyw gipdrem yn ôl ddengmlynedd a diolch yn arbennig i Nic Dafis am sefydlu maes-e. Dros y ddegawd diwethaf maes-e, heb os, wnaeth y cyfraniad mwyaf i’r rhithfro – a dweud y gwir oni bai am maes-e prin y byddai yna’r fath beth a’r rhithfro yn bodoli. Parch enfawr i Nic a holl gyfrannwyr y maes yn y blynyddoedd cynnar.
Yr her yn awr yw i ni fel Cymry Cymraeg fod yr un mor flaengar ac yr oedd Nic ddeng mlynedd yn ôl wrth wynebu’r ddegawd nesaf.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.




Yn fy achos fi…
2000 – defnyddio seibrcaffi dwy- neu dairwaith yn Sbaen. Ymweld â gwfan y Cynulliad
2003 – dechrau defnyddio’r rhyngwe yn rheolaidd (ond nid yn feunyddiol) mewn llyfrgelloedd (yng Nghymru) ac mewn seibrcaffis (tramor)
2004 – dechrau defnyddio’r we bron yn feunyddiol. Ymuno â maes-e
2005 – dechrau blogio a defnyddio canllaw Nic ac eraill ar y maes i gymreigio Blogger
2006 – cael PC ac ymadael â’r byd go iawn am byth