Meddalwedd
SlimStat
Tra’n chwylio am ffordd i recordio ystadegau fy ngwefan bersonnol, fe ddaeth SlimStat i fy sylw. Dwi wedi ei roi ar fy safle ac mae’n rhaid dweud ei fod yn gweithio’n ddi ffwdan hyd yma.
Mae Metastwnsh.com yn defnyddio Mint i ddilyn ystadegau, ond mae’n rhaid talu $30 am y fraint yna. Mae SlimStat yn [...]
Internet Explorer Vs pob browser arall
Dwi wedi bod wrthi’n brysur dros y dyddiau diwethaf yn creu thema newydd ar gyfer prosiectau gwahanol, a mae’r broblem yr un peth bob tro… Internet Explorer.
Pam fod Microsoft wedi creu porwr gwe sydd yn trin HTML a CSS yn wahanol i bawb arall? Mae fel eu bod nhw eisiau bobl orfod treulio oriau ychwannegol [...]
Windows 7 ar gael yn Gymraeg
Mae Microsoft wedi rhyddhau Pecyn Rhyngwyneb Iaith Cymraeg ar gyfer Windows 7.
Yn ôl y wefan mae “modd gosod Pecynnau Rhyngwyneb Iaith ar bob argraffiad o Windows 7″, ond mae rhai ar Twitter wedi awgrymu ei fod ond ar gael ar gyfer fersiynau Enterprise ac Ultimate, ac nid ar gyfer Windows 7 Home a Pro.
Wn i [...]
WordPress i’r iPhone (2.1)
Dwi wedi lawrlwytho fersiwn 2 (mae dau app WordPress ar gael yn yr app store) i weld os y medrai floggio o fy iPhone. Dwi’n gwybod bod ni wedi cael problemau yn y gorffenol gyda hyn.
Mae popeth sydd angen bod ymlaen, ymlaen. Gobeitho yr eith y neges yma drwodd.
Diwedd i IE6?
Mae’n ddrwg gen i godi eich gobeithion, ddarllenwyr annwyl, ond dwi ddim yn meddwl fod ni ‘na eto. Ta beth, tra mod i’n ceisio disgyn i gysgu neithiwr hefo C2 yn y cefndir, canodd y BlackBerry gyda newyddion o Google.
Ie, mae’n edrych fel bod Google wedi penderfynu bod nhw wedi cael digon o gefnogi hen [...]
Foursquare
Un o’r clichés mwyaf yn y byd gohebu technoleg yn fy marn i yw taw’r dechnoleg ‘X’ fydd y peth mwyaf, nesaf. Mae’n gas gen i ddarllen y fath rwtsh, a gasach byth gen i ysgrifennu’r fath beth lawr ar bapur (wel, ar y we yn yr achos ‘ma).
Wedi dweud hynna ‘ta beth, dwi’n cael [...]
Byw eich bywyd technolegol yn y Gymraeg
Tua mis yn ôl ddaru’r BBC ffonio i holi os o’n i isio sgwennu adran ar ran newydd o’u gwefan oedd yn rhoi gwybodaeth am y Gymraeg yn ogystal â rhoi canllaw i bobol ar sut i fyw bywyd trwy’r Gymraeg ar-lein.
Er mod i’n gwybod bod posib dod o hyd i’r fath wybodaeth eisoes, mae’n [...]
Darlledu Fideo yn Fyw o'r iPhone
Anaml iawn fyddai yn recordio fideo efo fy iPhone 3GS ond ddoe fe ddoth na App allan yn yr AppStore a wnaeth newid pob dim am yr iPhone, mae’n bosib rŵan i ddarlledu fideo yn fyw drwy defnyddio Ustream Live Broadcaster (dolen iTunes).
Ond pam fod hyn yn newyddion dwi’n clywed chi bobl sy’n defnyddio Nokia [...]
Llyfrgell yn eich Poced
Profiad digon difyr ges i’n ddiweddar oedd darllen Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd, sef y nofel a gipiodd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Nid y plot oedd yr unig beth difyr amdani, gan mai dyma’r nofel gyntaf i mi ei phrynu a’i darllen ar ffurf e-lyfr. Rhaid cyfaddef i mi fwynhau fy mhrofiad cyntaf o [...]
Windows 7 – Yr Wythnos Gyntaf
Windows 7 Professional yw’r fersiwn sydd ar y laptop gen i ar hyn o bryd. Rhaid i fi gyfadde mod i yn un oedd yn eitha hapus gyda’r syniadau yn Vista, ond ddim o reidrwydd y trychfilod meddalwedd.



