Gwefannau
Fforwm Metastwnsh
Dwi wedi bod yn gweithio ar ychydig o brosiectau ar gyfer Metastwnsh.com yn ddiweddar. Un or prosiectau yna yw Fforwm Metastwnsh. Mae dal gwaith i’w wneud ar y thema, ond mae’n dod yn ei flaen yn dda. Mi wnes i benderfynnu defnyddio bbPress fel asgwrn cefn y prosiect gan fy mod eisiau ehangu fy nealltwriaith [...]
Oes dyfodol i’r diwydiant digidol ym Mhrydain?
Bydd rhai ohonoch hefo cof da dwi’n siwr yn cofio darllen fy nghofnod ar y ddeddf economi ddigidol sydd yn mynd trwy Dŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd (Three Strikes a ti mas!). Mae cryn ddipyn wedi bod yn digwydd ers pryd ‘ny, ac da ni di gweld heddiw datblygiad arall sydd yn achos pryder.
Heddiw, [...]
Diwedd i IE6?
Mae’n ddrwg gen i godi eich gobeithion, ddarllenwyr annwyl, ond dwi ddim yn meddwl fod ni ‘na eto. Ta beth, tra mod i’n ceisio disgyn i gysgu neithiwr hefo C2 yn y cefndir, canodd y BlackBerry gyda newyddion o Google.
Ie, mae’n edrych fel bod Google wedi penderfynu bod nhw wedi cael digon o gefnogi hen [...]
Stwnsh Haciaith
Falle i rai ohonnoch chi gofio i ni wneud Stwnsh ‘Steddfod nôl yn haf 2009 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala.
Wel, mae’r syniad yn ôl ar gyfer haciaith. Ond wedi ei addasu yn briodol ar gyfer yr achlysur yma.
Gobeithio bod mwy o wybodaeth ar gael yn y fersiwn tro yma.
Mae’r Stwnsh i’w ddarganfod drwy fynd [...]
Tudalennau 'Fan' Facebook
Ers mis Rhagfyr dwi wedi gosod tudalen fan ar gyfer Metastwnsh draw ar Facebook. Roedd yna arfer bod grwp Metastwnsh (efo 51 aelod) ond roeddwn yn meddwl bod mwy o fanteision i dudalen gan bod posib tynnu cofnodion y blog drwodd i ffrwd pobol yn Facebook. Mae felly’n ffordd arall o ddosbarthu ein cofnodion at [...]
Foursquare
Un o’r clichés mwyaf yn y byd gohebu technoleg yn fy marn i yw taw’r dechnoleg ‘X’ fydd y peth mwyaf, nesaf. Mae’n gas gen i ddarllen y fath rwtsh, a gasach byth gen i ysgrifennu’r fath beth lawr ar bapur (wel, ar y we yn yr achos ‘ma).
Wedi dweud hynna ‘ta beth, dwi’n cael [...]
Stwnsh.com – Gwneud yr hir yn fyr
Dechrau mis Mawrth y llynedd, penderfynais i y byddai’n dda cael gwasannaeth byrhau URLs yn yr iaith Gymraeg. Felly fe wnes i fynd ati i greu Stwnsh.com.
Ers y dyddiau yna mae’r wefan wedi datblygu a tyfu ac fel pob plentyn sydd yn tyfu, mae angen dillad newydd.
Mae’r system newydd wedi bod yn fyw ers just [...]
Gosodiadau preifatrwydd Facebook
Mae’n ffaith fod gan Facebook dros 350 milliwn o ddefnyddwyr, ac yn ôl y wefan, dim on 15% – 20% or defnyddwyr yna sydd wedi newid eu gosodiadau preifatrwydd. O ddoe ymlaen, mae hyn i gyd yn newid.
Mae Facebook wedi dechrau rholio allan gosodiadau preifatrwydd newydd i’w holl ddefnyddwyr. Dwi newydd gael y cyfle i [...]
Byw hen fywyd arlein – cwpl o wefannau
Mae’n od i feddwl bod un o’r technolegau mwyaf “modern” da ni’n defnyddio ar hyn o bryd (ein hannwyl rhyngwebz) wedi ysgogi adfywiad ym rhai o’r lifestyles mwyaf henffasiwn i’w cael.
Ydym ni'n rhannu gormod ar y rhyngrwyd? Sgwrs ar Radio Cymru
Fuesi ar raglen Nia Roberts ar Radio Cymru bore ‘ma i drafod y testun “Ydym ni’n rhannu gormod ar y rhyngrwyd, a pam fod pobl yn gwneud hynny?” Fel cefndir i’r drafodaeth ches i nghymell i ddarllen yr erthygl yma a ymddangosodd yn Daily Mail rai misoedd yn ôl.
Dyma i chi’r eitem eto os wnaetho [...]



