Di-gategori
Podlediad 4.1 – Mini-lediad Hacio'r Iaith!
Dyma geisio rhoi linc i MP3 fach gyflym o’n Mini-lediad Hacio’r Iaith – gobeithio bydd yn eich sbarduno i ddod draw i’r digwyddiad os da chi dal ar y cyrion o feddwl ymweld!
Bydd yn dda eich gweld yna, ac wrth gwrs, bydd Podlediad 5 – y Podlediad Byw yn dod o’r digwyddiad, a dwi’n nerfus [...]
Y Google Nexus One – esblygiad neu chwyldro?
Byddai hi’n grêt i gyhoeddi bod handset newydd sgleiniog sbon wedi cyrraedd swyddfeydd Metastwnsh, a bod adolygiad hands-on ar y ffordd i chi yma ar y wefan… ond dim byd o’r fath mae’n ddrwg gen i! Mae sôn am un yn dod mewn i’r wlad gan ddefnyddiwr mentrus ar Twitter (Mr @Wilstephens), gobeithio bydd siawns [...]
Podlediad – gwell hwyr na hwyrach!
Heia ddarllenwyr ffyddlon, gobeithio i chi gael rhywfaint o wyliau hyfryd dros y bythefnos ddiwethaf. Nodyn bach i’ch hatgoffa bod Podlediad 4 – y Podlediad diwedd 2009 dal ar gael yn ffresh ar iTunes neu o’r dudalen podlediadau.
Bydd un cyntaf 2010 yn dod yn fuan iawn, diolch i chi i gyd am ddarllen/gwrando/cyfrannu!
Fennec ar y ffordd – porwr symudol Mozilla "ar gael o fewn diwrnodau"
Dyma bost cyflym iawn yn dilyn ar stori sydd wed dod i’r amlwg ar wefan dechnoleg y BBC – bod Fennec, porwr symudol hir ddisgwyliedig Mozilla yn barod i’w ryddhau yn fuan iawn.
Mae Mozilla wedi rhoi gwybod ar eu Wiki swyddogol, a mae Mobile Burn wedi adrodd, y bydd fersiwn swyddogol i’w gael ar yr [...]
Byw hen fywyd arlein – cwpl o wefannau
Mae’n od i feddwl bod un o’r technolegau mwyaf “modern” da ni’n defnyddio ar hyn o bryd (ein hannwyl rhyngwebz) wedi ysgogi adfywiad ym rhai o’r lifestyles mwyaf henffasiwn i’w cael.
Plyg Podlediad bach arall
Nodyn i chwi ddarllenwyr tryw Metastwnsh, mae’r Podlediad diweddarf ar gael i chi ar ffurf ddealladwy i’ch iPods, Walkmen a phob math arall o beiriant cerddorol erbyn hyn! Oes oes unrhyw sylwadau ganddo chi, wel plis danfonwch nhw draw. Da neu ddrwg, da ni isie clywed popeth!
Podlediad Metastwnsh 2: Stwnsh Harder
Siwr ddeith y bechgyn heibio [...]
Llygoden Multi Touch newydd
Yngyd ag iMacs newydd, cyhoeddodd Apple bod nhw hefyd wedi rhyddhau llygoden newydd i MacBooks ac iMacs. Mae’r llygoden multi touch yn gweithio lot fel y multi touch mouse pad sydd ar y macbooks newydd. Mewn gwirionedd maer llygoden newydd i gyd yn fotwm. Trwy ddefnyddio dau fys gellir sgrolio trwy ddogfennau, gwefannau, a ffeiliau. [...]
iPhone yn mynd i Oren
Mae hi mwy na dim ond ‘hearsay’ erbyn hyn. Mae’r iPhone 3GS yn mynd i fod ar gael ar rhwydwaith eraill. Felly bydd yr iPhone ar gael ar Orange. Peth da yw hyn, yn enwedig o ystyried coverage gwael 3g 02 yng Nghymru.
Cynulleidfa i apps symudol Cymraeg?
Mae’r app iPhone “Welsh Lessons” wedi gwerthu dros 1,000 o gopiau yn y 6 wythnos cyntaf gan gyrraedd rhif 3 yn siart Apps Addysgol (am dâl).
Cafodd yr app gafodd ei lansio yn y Steddfod ei gynhyrchu gan Chris Price yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae o wedi ei synnu at lwyddiant y feddalwedd gafodd ei [...]
Ubuntu Cymraeg – gwefan ar gyfer eich holl angenion Ubuntu yn yr heniaith
Mae’r wefan Ubuntu Cymraeg newydd symud o ddefnydio system NireBlog i wefan newydd sbon. Ac mae’n edrych yn grêt.
Os ydych chi â diddordeb mewn defnyddio Linux / Ubuntu yn y Gymraeg ewch draw i gael cip. Mae llwyth o wybodaeth yno.



