Cyfryngau Digidol
Oes dyfodol i’r diwydiant digidol ym Mhrydain?
Bydd rhai ohonoch hefo cof da dwi’n siwr yn cofio darllen fy nghofnod ar y ddeddf economi ddigidol sydd yn mynd trwy Dŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd (Three Strikes a ti mas!). Mae cryn ddipyn wedi bod yn digwydd ers pryd ‘ny, ac da ni di gweld heddiw datblygiad arall sydd yn achos pryder.
Heddiw, [...]
Isdeitlo fel Basg
[wedi ei groes-bostio o Haciaith.com]
Mae Luistxo Fernandez, guru gwe Gwlad y Basg, wedi sgwennu cofnod yn sôn bod 3 o’r ffilmiau “iaith dramor” yn y ras am yr Oscars eleni yn cynnwys deialog mewn ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Corseg a Quechua.
Mae’n mynd mlaen i nodi bod Basgwyr wedi creu isdeitlau Basgeg ar gyfer un o’r [...]
Cyfle yn chwilio am gynhyrchwyr teledu aml-blatfform
Mae Cyfle (sef y bobol sy’n gyfrifol am hyfforddi ein Sioned annwyl ni!) wedi lansio cynllun newydd sydd yn swnio’n dda iawn.
Mae’r Cynllun Cynhyrchu Aml-Blatfform yn un ymarferol dwys sy’n para 4 mis, ac sy’n cael ei ddysgu gan bobol sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae lle i 8 ar y cwrs a byddan nhw’n [...]
Podlediad byw yn Hacio’r Iaith
Dyma’r ddolen i wrando/edrych nôl ar y podlediad eto.
One, Two…Testing…Y Darllediad Byw
Wedi’i groes-bostio o wefan Haciaith.
Rhwng 12-1pm ar ddydd Sadwrn, byddwn ni’n darlledu’n fyw o Hacio’r Iaith. Criw podlediad Metastwnsh fydd yno, yn mynd trwy eu petha yn y pumed podlediad llawn, gan edrych ar bynciau llosg technolegol y dydd. Dwi’n credu mod i’n iawn i ddweud y bydd Bryn, Iestyn, Sioned, a Rhys yn [...]
Tudalennau 'Fan' Facebook
Ers mis Rhagfyr dwi wedi gosod tudalen fan ar gyfer Metastwnsh draw ar Facebook. Roedd yna arfer bod grwp Metastwnsh (efo 51 aelod) ond roeddwn yn meddwl bod mwy o fanteision i dudalen gan bod posib tynnu cofnodion y blog drwodd i ffrwd pobol yn Facebook. Mae felly’n ffordd arall o ddosbarthu ein cofnodion at [...]
Foursquare
Un o’r clichés mwyaf yn y byd gohebu technoleg yn fy marn i yw taw’r dechnoleg ‘X’ fydd y peth mwyaf, nesaf. Mae’n gas gen i ddarllen y fath rwtsh, a gasach byth gen i ysgrifennu’r fath beth lawr ar bapur (wel, ar y we yn yr achos ‘ma).
Wedi dweud hynna ‘ta beth, dwi’n cael [...]
"Three Strikes" a ti 'mas!
Fel dwi’n siŵr i chi gofio, ddaru’r Llywodraeth gyhoeddi (rhai misoedd yn ôl erbyn hyn) adroddiad yr Arglwydd Carter mewn i ddyfodol digidol y wlad, ddaru’r adroddiad crybwyll sawl mesur i wneud gyda rheolaeth radio, teledu, y We a’r gobaith o adeiladu’r rhwydwaith technegol sydd ei angen ar Brydain i ymdopi gyda gofynion technoleg [...]
Y Darlithiau 'Do'
Draw yn Aberteifi, ma na bethau diddorol, annelwig bron i’r person lleol cyffredin, yn mynd mlaen. Pethau sydd yn cael eu gwylio ledled y byd.
Na, nid campau Nic Dafis ar World of Warcraft na fideo rhyw cigydd chwedlonol y dref, ond cyfres o ddarlithoedd gyda un pwrpas – ysbrydoli pobol i wneud pethau.
Mae The Do [...]
Byw eich bywyd technolegol yn y Gymraeg
Tua mis yn ôl ddaru’r BBC ffonio i holi os o’n i isio sgwennu adran ar ran newydd o’u gwefan oedd yn rhoi gwybodaeth am y Gymraeg yn ogystal â rhoi canllaw i bobol ar sut i fyw bywyd trwy’r Gymraeg ar-lein.
Er mod i’n gwybod bod posib dod o hyd i’r fath wybodaeth eisoes, mae’n [...]



