Caledwedd
Archos9
Adolygiad gan fy nhad, Rhoslyn Prys, o’i degan diweddaraf – Gruff
Llechi fydd un o’r datblygiadau ar gyfer 2010 yn sgil yr holl gynnwrf dros yr iPad. Dyma edrych ar un o’r llechi diweddaraf i ymddangos, sef yr Archos 9 (www.archos.com)
Dwi di cael ychydig o amser i chwarae gyda’r llechen yma a dyma sut mae’n edrych. [...]
SKY+ HD – Box 1TB ar gael
Fe wnaeth SKY gyhoeddi ddoe y byddynt yn cynnig bocs SKY+ HD gyda 1Tb o le i storio eich rhaglenni. Mae’n debyg bod y bocsys yma’n cael eu rhyddhau i gyd fynd gyda’r gwasannaeth 3D y bydd SKY yn ryddhau ym mis Ebrill.
Mae’r bocsys yn gallu storio 240 awr o deledu HD ar y ddisg [...]
iPad neu peidio?
Wel, nawr da ni’n gwybod.
Ar ôl cryn dipyn o ddyfalu a damcanu, mae’r iPad nawr hefo ni. Wrth edrych ar y ddyfais, mae fel bod iPhone wedi colli mewn ffeit yn erbyn pin rolio.
Dwi ddim am restru’r spec fan ‘ma (edrychwch ar Gwefan iPad Apple), ond mae’n sicr bod Apple wedi penderfynu mynd ar ôl [...]
HP Hiliol?
Un o’r storiau technoleg mwya hynod dwi wedi dod ar ei draws yn ystod gwyliau’r Nadolig yma yw hwnnw am y camera HP nad sy’n adnabod wynebau pobl ddu. Mi fyddw chi’n gyfarwydd gyda chamerau sydd a meddalwedd adnabod wynebau – wel, ymddengys fod y camera sy’n dod gyda rhai o gyfrifiaduron HP ddim yn [...]
Adolygiad y Samsung S5600
Wel, ar ôl cryn dipyn o amser, dwi wedi gallu cael yr amser i roi meddyliau lawr ar bapur am y ffôn “arloesol” ‘ma gan Samsung. Dwi’n siŵr bod chi gyd yn cofio’r hanes, yn ystod Eisteddfod Y Bala eleni, ddaru Samsung a Orange cyhoeddi bod nhw wedi creu’r ffôn gyntaf sydd â rhyngwyneb a [...]
Darlledu Fideo yn Fyw o'r iPhone
Anaml iawn fyddai yn recordio fideo efo fy iPhone 3GS ond ddoe fe ddoth na App allan yn yr AppStore a wnaeth newid pob dim am yr iPhone, mae’n bosib rŵan i ddarlledu fideo yn fyw drwy defnyddio Ustream Live Broadcaster (dolen iTunes).
Ond pam fod hyn yn newyddion dwi’n clywed chi bobl sy’n defnyddio Nokia [...]
iPhone yn dod i Tesco
Bellach mae Tesco wedi ymmuno gyda O2 ac Orange i gynnig yr iPhone i ddefnyddwyr. Mae Tesco Mobile wedi gwneud symudiad da yn fama yn cynnig yr iPhone 3G a 3GS ar gontract 12 mis (yr unig gwmni i wneud hyn) a chost misol o £20.
Ond, mae’n rhaid talu am yr iPhone o flaen [...]
Y Llo Oren
Fe ysgrifennais y cofnod hwn yn wreiddiol ar yr 2il o Fedi 2009 ond doeddwn ni ddim am ei gyhoeddi ar y pryd oherwydd roeddwn ni am roi cyfle i’r hyn sydd dan sylw ynghyd a bod eisiau osgoi cael fy ngweld fel rhywun sy’n beirniadu trwy’r amser heb roi cyfle i’r peth i ddechrau! [...]
O2 yn gostwng fy nghytundeb iPhone i £20 y mis
Ymddengys fod O2, o’r diwedd, wedi cychwyn ymateb i’r gystadleuaeth gan Orange. Mae fy nghytundeb iPhone gyda O2 yn dod i ben ymhen mis ac mae O2 wedi rhoi’r ddau gynnig yma i mi.
Cynnig 1
Uwchraddio i iPhone 3Gs am £87
Cytundeb: £34.26 am 18 mis
Munudau: 600
Txt: 500
Data: Di-ddiwedd
Cyfanswm dros 18 mis: £703.68
Cynnig 2
Sticio efo [...]
Adolygiadau Gajets Cymraeg ar Uned5
Gan Rhian Morgan sy’n gweithio i t3.Yn y fideo hwn ma nhw’n edrych ar e-reader Sony a’r LG Wristphone.
Falch bod Uned5 yn rhoi stwff fel hyn ar-lein (er bod sylwadau ar gau am ryw reswm). Byddai’n dda gweld mwy o hyn yn digwydd, a’i weithio fo mewn i’r broses gynhyrchu yn llawer mwy trwyadl. Mae [...]



