Call of Duty: Modern Warfare 2
Mae llawer o hype wedi bod wythnos yma o amgylch lansiad Call of Duty: Modern Warfare 2 gan Activision. Rhyddhawyd y gêm ddoe ar gyfer yr XBOX 360, PS3 a’r PC. Ychwanegwyd at yr hype oherwydd i’r gem gael rhyw fath o premier Hollywoodaidd yn Leicester Square, Llundain; ac ar ddiwrnod y lansio cafwyd trafodaeth am natur y gem yn Nhy’r Cyffredin hyd yn oed! Maen debyg fod y gem yn hynod dreisgar ac oherwydd fod graffeg y gem mor dda y mae’r trais i’w weld yn fwy real nag mewn unrhyw gem flaenorol. Dadleuodd Keith Vaz AS fod y trais yn y gem yn anerbyniol ac fod dim digon o fesurau yn cael eu cymryd i atal plant dan ddeunaw rhag chwarae’r gem. Atebwyd dadl Vaz gan Tom Watson AS drwy ddadlau fod y trais yn ddim byd gwaeth na’r hyn y mae dyn wedi dod i arfer ag ef mewn ffilmiau ac ar y teledu ers degawdau bellach. Roedd gan Watson bwynt teg, wedi dweud hynny does dim gwadu fod Vaz yn llygad ei le fod plant dan ddeunaw yn siŵr o fod eisiau cael eu gafael ar gem sydd wedi cael ei ganmol gymaint gan sylwebwyr y diwydiant.

Maen ddiddorol hefyd fod siopau wedi penderfynu defnyddio’r hype o amgylch y gem at ddiben hyrwyddo drwy ddewis gwerthu’r gem fel loss leader er mwyn cychwyn price war i fyny at y Nadolig. RRP y gem ydy £54 ond mae’r archfarchnadoedd Sainsbury’s a Tesco yn gwerthu’r gem am gyn lleied a £26 tra bod siopau ar-lein fel Amazon yn cynnig y gem am £32.
Dydw i ddim ym gamer mawr fel petai, ond yn yr wythnosau diwethaf dwi wedi prynu XBOX 360 yn bennaf gan nad oes signal teledu yn fy nhŷ newydd felly roedd angen rhyw fath o ddihangfa amgen arna i o’r PhD yma. Yn ddigon ffodus roedd taleb £30 gyda mi wario ar Amazon felly dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael copi o’r gem am £2 yn unig! Fe ddylai gyraedd wythnos nesaf rhyw ben. Efallai caf gyfle i ddweud mwy am y gem, ac yn arbennig rhoi fy marn ar drais y gem, wythnos nesaf ar ôl ei chwarae drosof fi fy hun.
Os oes unrhyw ddarllenwyr Metastwnsh am fy ychwanegu i’w rhestr o ffrindiau ar Xbox Live yna fy enw defnyddiwr ydy “SRhLl”. Dydw i ddim yn cymryd y peth rhy o ddifri felly go-easy on me.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.




Newydd sbotio hwn yn Tesco Penarth am £25 – bargen! Wedi bod isie XBox ers oes, ond ddim digon o gamer i gyfiawnhau’r pwrcasu. Mae’r graffeg yn hollol anhygoel ar MW, rhaid cyfadde modi rioed di gweld unrhywbeth cystal, ond geith y gamers ddangos i fi be dwi’n ei golli.