Byw hen fywyd arlein – cwpl o wefannau

Fashion60Mae’n od i feddwl bod un o’r technolegau mwyaf “modern” da ni’n defnyddio ar hyn o bryd (ein hannwyl rhyngwebz) wedi ysgogi adfywiad ym rhai o’r lifestyles mwyaf henffasiwn i’w cael.

Fel un sydd newydd gael gafael ar feic o’r 60au wedi sesiwn ebay un hirnos, dwi’n deall apêl defnyddio’r rhyngrwyd i fwydo breuddwyd o fywyd symlach! Gan fod y beic yn glasur o feic Moulton (a mae hi wir werth darllen hanes y beics yma), dwi wed bod yn busnesa ar wefannau sy’n sianelu y cyfnod.

Mae’r wefan amryddawn Retro To Go yn un wych am ddod â chynlluniau ‘retro’ i’ch sylw, ac yn lincio at bethau hyfryd fel y camera lego, a gwefan hen bosteri rheilffordd Cymru – sy’n syniad da am anrhegion ‘Dolig!

Gliniadur Steampunk

Ond di mynd nôl deugain mlynedd yn ddim byd wedi cymharu â’r Steampunks serch hynny – carfan sy’n byw eu bywyd mewn nofelau Jules Verne, neu ar ddiwedd Back to the Future: Part III. Genre o ’speculative fiction’ yw’r ‘punk, sy’n cymeryd aestheteg nofelau gwyddonias y 19eg ganrif, a’i glymu mewn gyda gwyddonias cyfoes, i greu rhywfath o hen-ddyfodol dystopaidd. Allith rwyn golli oriau yn edrych ar waith celfydd y cynhyrchwyr – mae’r gliniadur yma o stori wych ar Wired.com sy’n llawn lluniau gwych o grefftwaith modern-hen. Eitha gwell na rhoi cwpl o stickers ar gefn y gliniadur.

Dwi’n siŵr nad yw rhain i gyd yn wefanau na’n bynciau ofnadwy o dechnegol i chi ddefnyddwyr Metastwnsh, ond, fy rhif-1-hoff beth-byth-bythoedd am y we ydi’r gallu i ddod a llond trol o bethe random ata ti, a wedyn, i chi, druan ohonoch!

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Ma na elfen ohono yn yr anime Metropolis, un o’n hoff ffilmiau animeiddio. A deud y gwir ma rhan fwya o anime efo elfennau stêmbyncaidd.

Hefyd checkiwch allan y gwe-gomic gwych The Thrilling Adventures of Lovelace and Babbage!

Ac un bach arall ges i o’r dudalen Ada…

Steampunk Art @ Oxford.

[...] This post was mentioned on Twitter by Rhodri ap Dyfrig, metastwnsh. metastwnsh said: Byw hen fywyd arlein – cwpl o wefannau: Mae'n od i feddwl bod un o'r technolegau mwyaf "modern" da ni'n defnyddio… http://bit.ly/7AVHnU [...]

Waw, ôl-fflach i coleg! Cofio chwilio bobman yn Aber am VHS Metropolis, oedd y gerddoriaeth yn wych – reit, trip i play.com amdani felly :-D

Wefan da rydych eisiau gweld sydd yn son am ’steampunk’ yw Dark Roast Blend. Un o fy ffefrynau i mi.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos