Beth yw pwynt DAB?
Erbyn hyn mae radio DAB wedi bod gennym ni ers deng mlynedd a mwy. Ac mae llawer wedi cael ei gwneud gan y BBC ac eraill i hyrwyddo manteision DAB a cheisio cael pobl i brynu unedau DAB. Felly, beth sydd wedi digwydd i DAB? Fe wna i cyfadde nawr, mae gen i radio DAB! Yep, a dwi’n hoff iawn o wrando arno sianeli digidol fel 6music a BBC7. Ond a oes wir ddyfodol i DAB? Beth yw’r pwynt? Erbyn hyn mae nifer helaeth o bobl sy’n gwrando ar orsafoedd digidol, yn gwneud hynny arlein wrth iddynt grwydro’r we.
Yn diweddar mae radio DAB yn finalist yn y Fiasco Awards 2009 yn Sbaen. Felly nid yw diffyg defnydd yn ffenominom yn y DU yn unig!
Efallai dyma cyfle i chi darllenwyr Metastwnsh i helpu ni mewn straw poll o faint ohonnoch chi sy’n defnyddio DAB yn rheolaidd?!
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.
Sylwadau
Fe brynais i radio DAB tua 5 mlynedd yn ol. Mae hi’n gyfleus iawn, ac mae’n dda i glywed ychydig o orsafoedd ychwanegol e.e. 6Music.
OND – mae ansawdd y sain yn eitha isel. Yn blwmp ac yn blaen mae FM, fel rheol, yn swnio’n lot well. Bellach mae radio dros y rhyngrwyd hefyd yn swnio’n well. Gobeithio na fydd FM yn diflannu nes bod system radio ddigidol o dafon wedi’i seflydlu yng Nghymru.
Mae Adroddiad Digital Britain gan Lord Carter ac argymhellion DRWG (!! – y Digital Radio Working Group) yn son am symud trwch gwrandawyr a gwasanaethau o FM i DAB erbyn 2020. Mae’n od nad oes na son am radio rhyngrwyd, gan bod nifer o bobol wedi sgipio DAB yn llwyr a mynd yn syth i wneud trwch eu gwrando ar y we. Y tebyg yw y byd ganddon ni blethiad o’r tri am eithaf hir beth bynnag.
Dyma action points adroddiad Carter:
We will take action to support DAB digital radio in seven areas:
a. We are making a clear statement of Government and policy commitment to enabling DAB to be a primary distribution network for radio;
b. We will create a plan for digital migration of radio, which the Government intends to put in place once the following criteria have been met:
- When 50% of radio listening is digital;
- When national DAB coverage is comparable to FM coverage, and local DAB reaches 90% of population and all major roads.c. We will create a Digital Radio Delivery Group which includes the retailers, the Transmission Networks, the BBC, the Commercial Radio Companies, the Car Manufacturers, consumer representatives and the device manufacturers whose role would be to increase the attractiveness, availability and affordability of DAB and to advise on the Digital Migration Plan.
d. We will work with the BBC to explore how they could extend their digital radio coverage to replicate at least current FM analogue coverage.
e. As recommended by the Digital Radio Working Group, we will conduct a cost-benefit analysis of digital migration.
f. We will consult on new legislation to allow a one-off five-year extension of existing community radio licences, to bring them in line with other radio licences and recognise the important role they have in delivering social gain. We also intend to re-consider the rationale for the current restriction of 50% of funding from any one source.
g. We will commission an independent expert examination of the economic viability, continuing social contribution of, and most effective delivery methods for, local radio services and existing localness legislation.
Mae gen i radio DAB ers tua blwyddyn ac rwy’n siomedig iawn fod cyn lleiad o orsafoedd arno. Yr unig fantais imi yw fy mod i’n cael derbyniad da o Radio 5 ar y radio yn y nos!
Ie, dim ond y plethiad BBC dwi’n derbyn yn Aber hefyd a dim ond mewn rhai mannau yn y ty dwi’n gallu cael signal, a bryd hynny mae o’n wan. Prin ei fod yn werth cael y set, gan nad ydw i’n gwrando ar 5, 6 na 7. Diolch byth fod na FM ar y set hefyd!
Mae nhw hefyd yn cael eu gwerthu mewn ffordd sy’n hysbysebu llu o orsafoedd, pan dim ond rhai y BBC elli di gael mewn rhannau helaeth o Gymru, a dim Radio Cymru na Wales.
Con llwyr.
Dwi’n gweld DAB yn debycach i MiniDisc. Mae’n dechnoleg da sy’n cael ei ddefnddio gan bobol sy’n hoff o chware o gwmpas. Fel yr aeth y CD syth i MP3 i’r brif-ffrwd, fydd FM yn mynd syth i ryngrwyd gyda mwy a mwy o hotspots wi-fi am ddim.
Dwi’n ei ddefnyddio’n ddyddiol. Bosib un o’r peth defnyddiol amdano yw newid gorsafoedd yn gyflym heb chware efo presets. Anfanteision yw fod y darllediad tua eiliad ar ei hôl hi gyda’r dad-godio.
Fyddai’n dal i’w ddefnyddio, yn ogystal â FM.




Erioed wedi clywed amdano.