Beicio, Trydar a'r Tour de France

@blogdroedCofnod wadd gan Gary Pritchard

Am ryw reswm, mae’r byd beicio proffesiynol wedi cymryd at Twitter yn fwy nag unrhyw gamp arall gyda beicwyr, rheolwyr, hyfforddwyr a hyd yn oed y timau yn trydar. Gyda’r Tour de France yn dechrau ym Monaco ddydd Sadwrn, cefais wahoddiad i fynd ati a rhestru rhai o’r trydar-feicwyr mwyaf difyr yn arbennig ar gyfer darllenwyr Metastwnsh.

Ers iddo gyhoeddi ei fod yn dod allan o’i ymddeoliad er mwyn rasio’r Giro d’Italia a’r Tour de France, mae ffrwd trydar @lancearmstrong wedi mynd o nerth i nerth. Bellach mae gan yr Americanwr 1,236,905 o ddilynwyr ac mae’n siwr bod nifer sylweddol o’i ddilynwyr yn newyddiadurwyr gan fod gan Lance digon i’w ddweud. Cyhoeddodd enedigaeth ei fab, Max, ar Twitter …ond weithiau mae gan y gŵr o Texas ormod i’w ddweud, fel y canfyddodd Bernard Hinault un diwrnod!

Heb law am Lance, mae ‘na lond trol o feicwyr fydd yn rasio’r Tour de France yn trydar, yn wir cawsom achos ddydd Iau o Lance Armstrong a’i gyd feiciwr yn nhîm @teamastana, @LeviLeipheimer, yn trydar efo’u gilydd wrth iddynt ddisgwyl rhoi prawf gwaed i drefnwyr Le Tour!

trydarbeicioYn anffodus, ‘dyw’r gwibiwr o Ynys Manaw, Mark Cavendish, ddim i’w weld yn trydar, ond mae y rhan fwyaf o’i dîm, Columbia-HRC ymysg y twitwyr mwyaf ffyddlon:
@ghincapie (George Hincapie)
@markrenshaw1 (Mark Renshaw)
@mickrogers (Mick Rogers)

Llwyddodd @wegelius (Charlie Wegelius) i sicrhau ei le yn nhîm Silence-Lotto ddydd Mercher a hynny wedi i Erik Bakke fethu prawf cyffuriau. Fe cyhoeddwyd y newyddion gan gylchgrawn @cyclingweekly ac fe cawsom ymateb @wegelius i’r newyddion hefyd “I didn’t want to get here like this. But now I’m here I just have to try my best. Found time to buy next larsson book yesterday. Priorities.” … o, ac mae o wedi colli ei iPod!

Ymysg gweddill y timau a’r beicwyr fydd ar Le Tour mae:
@TeamSlipstream (Garmin-Slipstream)
@christianvdv (Christian Vande Velde)
@dzabriskie (David Zabriskie)
@cervelotestteam
ac @mcewenrobbie (Robbie McEwen) o dîm Katusha.

Yn ogystal â’r beicwyr mae’n werth dilyn rhai o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd Le Tour i wylwyr ITV4 ac Eurosport hefyd gan fod @PhilLiggett @PaulSherwen ac @Chris_Boardman hefyd yn trydar … ac yn ôl Chris Boarman bydd ITV4 yn dechrau trydar ddydd Gwener … dwi’n edrych ymlaen yn barod!

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Cofnod wadd wych, diolch Gary! Wedi cael fy nghyflwyno i’r byd yma gan fwyaf trwy gyfrwng trydar mae’n rhaid i fi ddweud. I unrhywun sydd allan yna’n trydar ac yn joio beic, plis ymunwch â’r sgwrs gyda’r #gicsbeics

Ai @itvtdf yw Twitter swyddogol ITV4?

Diolch Llef, a Nwdls, dwi’n meddwl dy fod ti’n iawn!

Gyda llaw, nes i anghofio ychwanegu Cadel Evans i’r rhestr uchod, sef @CadelOfficial

Diolch am hyn, o’n i’m yn gwybod bod na cymaint ohonyn nhw’n twitro. Edrych mlaen i glywed beth fydd ganddyn nhw iw ddweud yn ystod le tour.

Ac ia Rhods hwna ydi’r twitterr swyddogol

… mae ‘na un arall – efallai mai @allandavis27 fydd yn cymryd lle Tom Boonen yn nhîm QuickStep … dyna mae @cyclingweekly yn ei feddwl beth bynnag

Cofnod wych. Diolch ti Gary

Mae Levi Leipheimer wedi bod yn arbrofi efo’r fideo ar ei iPhone!
Dyma Lance Armstrong ar y bws ar y ffordd i Marseilles fore Llun:

http://www.youtube.com/watch?v=Ugm_NwwoTEU

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)