Author Archive
15.03.10 “Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru”
Newydd gael ebost am y digwyddiad hwn wedi ei drefnu gan SALT Cymru…
Hoffai’r Uned Technolegau Iaith estyn gwahoddiad cynnes i chi i gynhadledd brynhawn “Terminoleg ac Adnoddau Iaith Eraill ar gyfer Diwydiant Cymru” ar y 15fed o Fawrth yng Nghanolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor.
Bydd y gynhadledd yn dechrau am 1.30pm ac yn cynnwys cyflwyniad gan [...]
Toriadau yn y BBC – lle bydd toriadau Cymru?
Roedd na dipyn o hoo-ha ddoe ar draws y cyfryngau am benderfyniad y rheolaeth y BBC i ‘ail-ffocysu’ a ‘chwynu’ ei ddarpariaeth fel amlinellwyd yn y ddogfen strategaeth Putting Quality First. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i dorri BBC 6 Music, torri BBC Asian Network a’i ail-ddosbarthu drwy weddill y gorfforaeth, a’n fwyaf syfrdanol [...]
Isdeitlo fel Basg
[wedi ei groes-bostio o Haciaith.com]
Mae Luistxo Fernandez, guru gwe Gwlad y Basg, wedi sgwennu cofnod yn sôn bod 3 o’r ffilmiau “iaith dramor” yn y ras am yr Oscars eleni yn cynnwys deialog mewn ieithoedd lleiafrifol: Iddew-Almaeneg, Corseg a Quechua.
Mae’n mynd mlaen i nodi bod Basgwyr wedi creu isdeitlau Basgeg ar gyfer un o’r [...]
Pump am y Penwythnos 26.02.10
Yo! Fy nhro ydi i wythnos yma i roi detholiad o bum peth amrywiol ond tech-we-aidd i chi ar gyfer gwastraffu amser bnawn Gwener, neu i edrych arnynt yn hamddenol dros goffi bore Sadwrn…felly dyma ni:
Chatroulette
RHYBUDD: ddim yn saff ar gyfer eneidiau bregus a phobol efo ffobia bod yn gyhoeddus neu sy’n paranoid eich bod [...]
Cyfle yn chwilio am gynhyrchwyr teledu aml-blatfform
Mae Cyfle (sef y bobol sy’n gyfrifol am hyfforddi ein Sioned annwyl ni!) wedi lansio cynllun newydd sydd yn swnio’n dda iawn.
Mae’r Cynllun Cynhyrchu Aml-Blatfform yn un ymarferol dwys sy’n para 4 mis, ac sy’n cael ei ddysgu gan bobol sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae lle i 8 ar y cwrs a byddan nhw’n [...]
Windows 7 ar gael yn Gymraeg
Mae Microsoft wedi rhyddhau Pecyn Rhyngwyneb Iaith Cymraeg ar gyfer Windows 7.
Yn ôl y wefan mae “modd gosod Pecynnau Rhyngwyneb Iaith ar bob argraffiad o Windows 7″, ond mae rhai ar Twitter wedi awgrymu ei fod ond ar gael ar gyfer fersiynau Enterprise ac Ultimate, ac nid ar gyfer Windows 7 Home a Pro.
Wn i [...]
Blogio am ferchaid mewn technoleg
Dwi newydd wneud addewid i sgwennu cofnod blog am ferch dwi’n ei hedmygu yn y byd technoleg ar y 24ain o Fawrth. Iep, mae Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd eto eleni i ddathlu rôl genod gwych y byd digidol a gwyddonol.
Y siwper-lodes ar-lein, Suw Charman-Anderson, sydd wedi trefnu hyn oll ar ôl i’r diwrnod fod [...]
One, Two…Testing…Y Darllediad Byw
Wedi’i groes-bostio o wefan Haciaith.
Rhwng 12-1pm ar ddydd Sadwrn, byddwn ni’n darlledu’n fyw o Hacio’r Iaith. Criw podlediad Metastwnsh fydd yno, yn mynd trwy eu petha yn y pumed podlediad llawn, gan edrych ar bynciau llosg technolegol y dydd. Dwi’n credu mod i’n iawn i ddweud y bydd Bryn, Iestyn, Sioned, a Rhys yn [...]
Tudalennau 'Fan' Facebook
Ers mis Rhagfyr dwi wedi gosod tudalen fan ar gyfer Metastwnsh draw ar Facebook. Roedd yna arfer bod grwp Metastwnsh (efo 51 aelod) ond roeddwn yn meddwl bod mwy o fanteision i dudalen gan bod posib tynnu cofnodion y blog drwodd i ffrwd pobol yn Facebook. Mae felly’n ffordd arall o ddosbarthu ein cofnodion at [...]
Hacio'r Iaith: neges i bawb sy'n dod…
[Wedi ei groes-bostio o wefan Hacio'r Iaith]
Yn gyntaf, diolch am gofrestru i ddod i’r digwyddiad. Ma’n wych bod ganddon ni dros 30 o bobol yn dod (a ma na fwy sydd heb gofrestru ar y wiki eto). Beth bynnag ddigwyddith mi fydd hi’n ffantastic cael cyfarfod a sgwrsio, ond dwi jest isio cyfeirio chi at [...]



