Argraff Gyntaf: Golwg360

Gan ei bod yn ddiwrnod eitha pwysig ym myd y we Gymreig, dwi fyny’n gynnar yn sdwnsho am lansiad Golwg360. Dwi am drio ei weld fel gwaith ar y gweill, yn hytrach na’i feirniadu fel gwefan gyflawn. Dyma natur y we, y gallu i wella wrth i ni fynd mlaen

Golwg360 - Lle pawbMae’r edrychiad yn ffyddlon iawn i’r cylchgrawn, sy’n rhoi lot o le i bob stori, ond yn gallu gwneud i’r wefan edrych yn eitha gwag. Rhaid i fi gofio na’r bore cynta di hwn, a falle bod dim digon o straeon i roi argraff o wefan llawn newyddion! Mae’r adran ‘Lle Pawb’ yn gam diddorol iawn, ond mae’r cynllun henffasiwn (delweddau mawr yn cael eu cywasgu i thumbnails? Eitha tebyg i’r hen Geocities!) yn ei adael lawr

Er dweud hynny, dwi dal heb ddod o hyd i ffrydiau newyddion RSS – sy’n eithaf allweddol am wefan ‘newyddion’. Allai hyn fod oherwydd fod y wefan dal yn cael ei diweddaru, ond mae’r diffyg o gyfrif Twitter (fy mhrif ffordd o gael newyddion) i yrru traffig a chadw cysylltiad gyda defnyddwyr yn siom hefyd.

Dwi am gadw Golwg  (ow!) yn ystod dydd ar sut bydd y wefan yn diweddaru – ond heb yr RSS a twitter, tybed sut byddai’n cael gwybod bod straeon yno?

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Mae’r fideo ar y dudalen hafan yn ailddechrau bob tro dwi’n mynd nol i’r hafan – dylai’r defnyddiwr gael y dewis os yw am ei wylio neu ddim. 154 o gamgymeriadau dilysu XHTML ar y dudalen hafan. Defnydd trwm o tablau lle nad oes wir ei hangen ar rhai tudalennau. Ble mae’r RSS??!!! Dwi’n teimlo fod y wefan yma yn treial rhedeg cyn fod e’n gallu cerdded. Byddai’n llawer well cael gwefan symlach, glanach a’i datblygu ychydig ar y tro dros gyfnos o amser. Mae popeth yn edrych tamed bach allan o’i le – ddim yn ‘ffitio’ rhywffordd.

Dwi’n cytuno, dwi hoffi yr wefan newydd Golwg, hawdd i’w ddarllen

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)