Archos9

Adolygiad gan fy nhad, Rhoslyn Prys, o’i degan diweddaraf – Gruff

Llechi fydd un o’r datblygiadau ar gyfer 2010 yn sgil yr holl gynnwrf dros yr iPad. Dyma edrych ar un o’r llechi diweddaraf i ymddangos, sef yr Archos 9 (www.archos.com)

Dwi di cael ychydig o amser i chwarae gyda’r llechen yma a dyma sut mae’n edrych. Mae’r llechen yn seiliedig ar sgrin 9 modfedd gydag offer rheoli bob ochr i’r sgrin. Mae’n rhedeg ar sglodyn Intel Atom Z510 1.1 GHz, mae ganddo 1GB o RAM a disg caled o 60GB. Mae’n pwyso tua 800gm (dros ddwywaith pwysau Mr Blaidd, Llwyd Owen). O ran maint mae’n 256/134/16mm. Mae’n rhedeg Microsoft 7 Starter ac mae’n cynnig WiFi, Bluetooth ac un soced USB2.

Mae’n teimlo o wneuthuriad da yn y dwylo, ychydig yn drymach efallai na sy’n ddelfrydol ac mae’n cynhesu rhywfaint ar y chwith yn y cefn ar ôl tipyn.

Mae’r offer rheoli yn teimlo’n hwylus – llygoden effeithiol iawn a switsh cychwyn a diffodd ar y dde a botwm rheoli’r diwifr a’r bysellfwrdd yn ogystal â botymau llygoden de a chwith. Mae yna feicroffon a chamera gwe yno hefyd. Does dim offer cyfeiriadedd sgrin awtomatig na GPS. Ar y cefn mae braich ar gyfer cynnal y llechen ar i fyny a slot ar gyfer y stylus. Mae’r stylus yn teimlo’n dila iawn, sy braidd yn siomedig ond dwi heb ddefnyddio llawer arno – bys!

Mae’n bosib eich bod wedi sylwi ar wendid cychwynnol y llechen sef er ei fod yn rhedeg system weithredu llawn Windows 7 fersiwn Starter, ac mai nid Home Premium sydd arno. Nid yw felly’n gwneud defnydd o’r offer llechen mae Microsoft wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd. Mae’n cynnwys gyrwyr sy’n cysylltu â gyrwyr y llygoden a rhaglen bysellfwrdd.

Mae llawer o’r defnyddwyr cyntaf wedi symud yn syth i osod Home Premium er mwyn gallu mabwysiadu’r dechnoleg uwch. Mae gyrwyr mwy diweddar ar gael o wefan Archos ar gyfer y sgrin cyffwrdd ac mae’n cyfuno’n dda i gynnig profiad sgrin cyffwrdd effeithiol os nad cynhwysfawr. Fel y Nokia N800 sy gen i mae’n cynnig fflicio i fyny ac i lawr y sgrin ac mae’n cynnig bysellfwrdd ar gyfer blychau testun. Mae modd dewis ysgrifennu yn lle teipio ac mae hwnnw’n gweithio’n dda iawn (yn Saesneg).

Fel y gwelwch chi does dim slot ar gyfer cerdyn SIM er mwyn ei ddefnyddio fel ffôn mawr, ond mae’n cysylltu’n reit handi i ffon symudol gyda bluetooth er mwyn syrffio’r we. Mae modd gwylio S4C etc drwy Windows Media Center drwy’r tiwnydd USB ac mae gen i raglen Cyfeirio (Navigation) yn rhedeg arno trwy uned GPS bluetooth.

Archos9

Casgliadau felly: mae’n rhoi golwg ar yr hyn sy’n bosib ar gyfer pad ysgrifennu electronig a llechen syrffio’r we cyffredinol. Mae’r gost o £400 (www.play.com) + £70 Home Premium yn gymhedrol o gymharu â llechi eraill ond yn uchel o gymharu a notebooks. Mae’n reit isel o gymharu â’r dybiaeth am iPad Apple (£390 – £600, MacWorld) ond sy’n llai pwerus.

Beth sy’n torri’r ddadl? Rhywbryd, cyn bo hir, bydd pecyn iaith Gymraeg ar gyfer Windows 7 yn cael ei ryddhau a bydd modd defnyddio’r offer ysgrifennu a gwirio sillafu ar yr Archos – mae’n debygol na ddaw hynny byth i’r iPad.

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Diolch am hwn Rhos a Gruff. Er mae defnyddiwr Mac ydw i, dwi’n eiddgar i gael rhyw beiriant sy’n rhedeg Windows 7 er mwyn 1. Bod yn y lŵp a 2. Treualu gwefannau dwi’n gweithio arnyn nhw mas ar borwyr Windows. Does dim angen pen ddesg na pen glin llawn Windows arnai i gan fod gyda mi iMac a MacBook felly maen bosib iawn mae’r opsiwn amlwg i ddod a Windows 7 i mewn i fy myd bach i ydy ar ffurf rhywbeth fel yr Archos 9.

Os gen ti iMac a Macbook fuasai llawer gwell rhedeg Windows ar y Mac trwy ddefnyddio VMWare Fusion.

Mae’r Archos i weld yn clunky heb angen, os fuasai na ‘Touch’ theme i Windows efallai fuasai yn edrych yn well, ond i rhoid meddalwedd sydd i fod i cael ei ddefnyddio gyda mouse arno dio ddim i weld yn gweithio i mi.

Dwi’n defnyddio Virtual Box er mwyn rhedeg Windows ar MacBook. http://www.virtualbox.org/. Yn wahanol i Fusion, mae ar gael yn rhad ac am ddim.

Nol at yr Archos. Bydd na nifer o lechi Windows, pob un gyda’r modd i Gymreigio’r rhyngwyneb. Os bydd y farchnad yn tyfu yna bydd llechi Maemo a Symbian (o stabl Nokia) siŵr o ymddangos – ddau OS sydd yn god agored. O weld Maemo yn sydyn (ar y Nokia N900) mae’n ddyfais hollol hollol agored i hacwyr (ac felly i’w lleoleiddio).

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos