Adroddiad: WordCamp UK 2009
Cofnod wadd gan Rhys Wynne
Gwell hwyr na hwyrach, neu beth bynnag, ond gofynnwyd i mi adrodd yn ôl ar ddigwyddiad WordCamp UK 2009 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ôl yn mis Gorffennaf. Roedd y digwyddiad ymlaen am ddeuddydd cyfan, ond ‘mond hanner diwrnod dreuliais i yno, felly mond tri sesiwn alla i adrodd yn ôl arnynt (mae dolenni at adroddiadau eraill ar wiki’r digwyddiad)
Localisation (into Welsh + other languages)
Rhywsut, fi oedd y siaradwyr gwadd, wedi i mi gynnig ‘lleoleiddio WordPress’ fel pwnc ar gyfer un o’r sesiynau. Meddyliais mai ryw lond llaw fyddai a diddordeb, ond bron i mi gael harten pan sylweddolais byddai yna yn agos at ddeg ar hugain o bobl yn dod i’r ail ystafell i ‘wrando arna i’! Daeth yn amlwg mae gwybod sut i ryngwladoli oedd pawb eisiau ei drafod yn hytrach na lleoleiddio, gan mai datblygwyr gwefannau oedd pawb yno bron yn ddieithriad. Er nad oeddwn i wedi paratoi dim o flaen llaw, llwyddwyd i gael rhyw 40 munud o drafodaeth, a dyma’r prif bwyntiau a drafodwyd:
- Mae ddiffygion gyda llawer o gyfieithiadau anghyflawn mewn sawl iaith. Roedd un person wedi creu gwefan amlieithog gyda fersiwn Portiwgaleg, a byddai rhai meysydd yn ymddangos yn wag gan nad oedd cyfieithiad.
- Nid dim ond y meddalwedd WordPress craidd ei hun sydd angen ei leoleiddio, mae’n rhaid hefyd wedyn lleoleiddio’r plygellau (plugin) unigol
- Mae sawl gwahanol ategolyn ar gael ei wneud WordPress yn amlieithog, er roedd un person o’r gynulleidfa wedi creu gwefan dwyieithog ar gyfer y Cynulliad yn ddiweddar, ond wedi gwneud hyn mewn gwirionedd drwy greu dwy wefan ar wahan (mae’n edrych digon teidi, ond biti bod y botwm newid iaith yn mynd a chi’n ôl i dudalen blaen y wefan yn hytrach na’r dudalen gyfatebol)
- Wrth i fersiynau newydd o WordPress gael eu rhyddhau gyda amryw o welliannau pob tro, mae’n dal yn syndod nad yw amlieithrwydd yn rhywbeth a ddylai fod yn rhan default ohono, o ystyried natur amlieithog y we heddiw.
Integrating WordPress Mu, BuddyPress and bbPress
O’r ochneidiad torfol o siom pan datganodd Simon Wheatly (pin-up y byd WordPress yn ol pob sôn!) na fyddai’n medru sôn am BuddyPress, oherwydd nad oedd y brosiect wedi ei lwyr gwblau ar y pryd, dw i’n cymryd bod hen edrych ymlaen wedi bod at y sgwrs yma. Rhaid dweud, aeth i gyd dros fy mhen i’n llwyr gan ei fod yn dechnegol iawn. Ond braf oedd gweld y gîcs yn ecseitio a twitro fel pethau gwirion.
WordPress in government II – Downing Street and beyond
Roeddwn yn edrych ymlaen i’r sesiwn yma, ond pan ddechreuodd y siaradwr gyda brolio’r ffaith bod gwefan Rhif 10 Downing Street yn defnyddio WordPress, roeddwn yn ofni braidd mai rhyw sgwrs diddim fyddai’n dilyn, yn gwneud mor a mynydd o beth gymharol bitw (a ddigwyddodd dros 12 mis ynghynt). Ond roedd ei sgwrs yn reit difyr, yn trafod y cyfleoedd i fusnesau sy’n cynnig gwasanaethau i’r llywodraeth a’r sector gyhoeddus drwy ddefnyddio WordPress a meddalwedd rhydd yn gyffredinol (sef beth mae cwmni’r siaradwr, Simon Dickson yn ei gynnig), ac hefyd y manteision i’r sefydliadau hyn. Synnais hefyd pan aeth ymlaen i ddweud mai Swyddfa Cymru (pryd stopiodd gael ei alw yn Y Swyddfa Gymreig, a pham?) oedd yr adran llywodraeth cyntaf i fod a gwefan wedi ei bweru gan WordPress, ac o bosib mai dyma arweiniodd at Rhif 10 i ddefnyddio’r platfform. Holodd un o’r llawr os oedd Simon yn credu bod adran ymylol neu quangos yn fyw tebygol o ystyried meddalwedd rhydd nag ydy llywodraeth ganolog ac adrannau’r cabinet. Atebodd nad oedd wedi sylwi ar dueddiad fel hyn, ond efallai y byddai’r rhain yn fwy ‘mentrus’ o hyn ymlaen yn enwedig os ydy eu dyfodol yn y fantol a bod cyllid am fod yn dynn.
Yn ôl pob tebyg, mi adewais y parti’n rhy fuan, achos roedd tipyn o ddadlau ar ddiwedd y p’nawn wrth drafod fformat y WordCamp nesaf. Daeth hi’n ffrae rhwng rhai oedd am weld digwyddiad wedi ei anelu at ddarpar gwsmeriaid masnachol, tra roedd eraill o’r farn bod hyn yn fradychiad o egwyddorion y mudiad meddalwedd rhydd!
Casgliad
Mae’n anodd rhoi darlun teg o’r digwyddiad, gan nad oeddwn yno’n hir, ond ymddengys iddo gael ei drefnu yn broffesiynol iawn ac eto roedd yr awyrgylch yn anffurfiol dros ben, o ystyried mai ‘cynhadledd’ oedd o yn y bôn. Os ydych yn ddatblygwr gwefannau sy’n defnyddio WorPress, byddwn yn argymell mynychu digwyddiad o’r fath yn y dyfodol er mwyn dod i wybod am y datblygiadau diweddaraf ac i gwrdd â’r pobl tu cefn iddynt wyneb yn wyneb.
If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.




Diolch am hwn Rhys.
Fel un sydd wedi bod yn defnyddio WP ers amser, roeddwn yn awyddus iawn i fynd i hwn, ond nid oedd yn bosib.
Dwi’n meddwl y dylai’r gallu i WP ddelio â gwefannau amlieithog fod yn built in. Mae’r dyfodol i SRhC yn sicr yn un amlieithog.