Adolygiad y Samsung S5600

Ffôn Orangen SamsungWel, ar ôl cryn dipyn o amser, dwi wedi gallu cael yr amser i roi meddyliau lawr ar bapur am y ffôn “arloesol” ‘ma gan Samsung. Dwi’n siŵr bod chi gyd yn cofio’r hanes, yn ystod Eisteddfod Y Bala eleni, ddaru Samsung a Orange cyhoeddi bod nhw wedi creu’r ffôn gyntaf sydd â rhyngwyneb a geiriadur “T9″ ar gael yn y Gymraeg.

Y drafferth yn fy meddwl i yw ceisio meddwl os bod y ffaith bod y ffôn ‘ma ar gael yn y Gymraeg yn ddigon o reswm i brynu’r ffôn, a’r gwir yw fy mod i ddim. Ie, mae’r ffôn yn gweithio’n iawn (heb blaw bod o’n araf wedi cymharu i ffônau tebyg), a’r meddwl sydd gen i yw bod y peth yn ceisio bod yn fwy na’i gallu. Ddaru mi disgrifio’r ffôn ar podlediad gyntaf Metastwnsh fel “My first smartphone”, a dwi’n dal yn teimlo bod hynna’n wir. Does dim byd ar y ffôn yn sgrechian “dewis fi! dewis fi!” blaw am y ffaith ei fod o ar gael yn y Gymraeg.

Diffyg cyflymder

Dyw’r profiad pori’r we ddim yn teimlo mor chwaethus ag ydi o ar bethau fel yr iPhone, yr Android neu’r BlackBerry, i ddweud y gwir, wedi defnyddio’r fath declynnau, mae’n teimlo fel neidio ‘nôl i amser yr hen feddalwedd S40 ar y Nokia. Mae’r rhyngwyneb yn teimlo’n araf i gymharu â’r teclynnau sydd yn yr un ardal yn y farchnad, a dwi’n teimlo mai’r ffaith bod o’n defnyddio rhyngwyneb “touch-screen” yw’r drafferth fwyaf. Y teimlad gen i yw fysai cael botymau yn hytrach na’r sgrin yn cyflymu pethau trwy nadu i’r prosesydd orfod ymdopi gyda’r straen o redeg popeth.

Y Gymraeg ar y ffôn

Yn troi tuag at y peth mwyaf diddorol am y ffôn ‘ma, sef y geiriadur a’r rhyngwyneb Gymraeg. Mae cael y fath beth ar gael ar y ffôn yn ffantastig, does dim dianc rhag y ffaith ‘na. Dwi’n siŵr fod y ffaith heb ddianc sylw rhai o’r darllenwyr (dwi’n hollol sicr fod y ffaith heb ddianc golygwyr Metastwnsh) fod safon ysgrifenedig fy Nghymraeg ddim yn wych, ond mi ddaru fi sylweddoli pa mor dda oedd cael y ffôn gallu cywiro gwallau yn syth o fewn ffôn (hyd yn oed lawr i ychwanegu to bach lle bu angen — ond dim ond o fewn neges e-bost). Tamaid bach da arall oedd y modd i allu newid iaith mewnbwn tu fewn i’r sgrin creu neges trwy bwyso botwm (defnyddiol dros ben os bod chi’n ysgrifennu negeseuon aml-iaith). Fel un sy’n newid ieithoedd yn aml, dwi’n gwerthfawrogi’r gallu ‘na mwy na pob un arall.

Y peth mwyaf nodadwy am y ffôn ‘ma, yn fy marn i, ddylsa bod y peth lleiaf, sef bod y ffôn ar gael yn y Gymraeg. Mae safon y cyfieithu’n dda, ac mae’r termau sy’n cael eu defnyddio yn gwneud synnwyr. Y gobaith sydd gen i yw bod hwn am fod yn ddechrau’r don, a fydd dyfeisiau yn dechrau dod nawr yn y Gymraeg yn rheolaidd. Yr unig nodyn o bwyll i mi yw bod rhaid cysoni ar y termau, a chysoni ar dermau synhwyrol byr. Os bod termau rhy gymhleth yn cael ei defnyddio, bydd defnyddwyr ddim, yn fy marn i, yn dewis newid i ddefnyddio’r teclynnau ‘ma yn y Gymraeg.

Y casgliad terfynol…

I gloi, y teimlad gen i yw bod y ffôn ‘ma ddim i rywun fel fi sy’n chwilio am rywbeth agosach tuag at y BlackBerry neu’r Android(s). Mae’n teimlo i fi fel rhywbeth sydd yn agosach tuag at bobl sy’n gwneud defnydd rhesymol o’i ffôn i wneud galwadau a gyrru ambell neges testun (i fi, rhywun fel Mam, Dad neu’n Chwaer). Mae’n teimlo i fi fel bod Samsung wedi ceisio rhoi gormod o bethau mewn i’r ffôn, heb ystyried beth gall y ffôn ymdopi hefo (mae’n bwysig cofio mai’r ffôn yw’r bai am hyn, nid y pecyn iaith!). Os bod chi’n chwilio am yr “iPhone” Cymraeg, peidiwch cael y ffôn ‘ma, ond os bod chi’n chwilio am ffôn syml, ddidrafferth, dwi ddim yn credu ewch chi o’i le hefo hwn.

Diolch unwaith eto!

Bryn

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Diolch am yr adolygiad. Yn anffodus, mae’n debyg nad yw’r ffôn yma ar gael erbyn hyn. Ceisiodd fy chwaer brynu un ac ar ôl mynd i sawl siop, dwedwyd wrthi nad oedd hi ar gael mwyach, taw ‘limited edition’ yn unig oedd e. Os ydy’ch ymchwil chi yn dangos bod y ffôn ar gael yn rhywle o hyd, baswn i’n gwerthfawrogu cael gwybod. Diolch o galon, Mal

Dwi wedi brynu’r ffôn o siop Orange yn Aber (Ffordd y Mor, y tryd rhwng Siop y Pethe a’r orsaf dren). Ti’n iawn, os wyt ti moyn iphone nid hwn yw e, ond os wyt ti’n ddefnyddiwr ‘normal’ o’r ffôn poced, yna mae hwn yn uwchraddiad ac mae mewn Cymraeg. Ac, ie, mae’r Gymraeg yn dda – clir a chywir. Cynsail dda. Yn ol boi y siop roedd wedi clywed fod Nokia am ddod allan â ffôn Gymraeg yn dilyn llwyddiant un Samsung.

Dwi’n hapus iawn gyda’r ffôn mae’n rhaid i fi ddweud.

Fe hoffwn weld fersiwn Gymraeg o’r ffon. Mae’n cychwyn da a chwarae teg i Orange. Ond dwi yn chwilio am smartphone y dyddie hyn.

Hoffwn weld Android fod ar gael yn y Gymraeg. Dwi’n gwybod bod Google wedi bod yn genfogol am yr iaith. Os na siawns o hyn ddigwydd?

Hmm, tybed ydi hwn yn ddechrau ar brosiect lleoli iaith i Android? Unrhyw arch-gics allan fana yn gallu cadarnhau?

http://code.google.com/p/android-php-translator/

Mae hwnna yn feddalwedd PHP i hwyluso cyfieithu apps i Android. Mae hi’n weddol hawdd i gyfieithu app (os yw pwy bynnag sy’n ei ddatblygu yn derbyn y cyfieithiad). Fydd hi ddim mor hawdd cyfieithu meddalwedd craidd Android ei hun. Mae Google yn datblygu’r cod drwy’r amser ac yn cefnogi 8 iaith (prif ieithoedd Ewrop + Tseinieeg) fel sylfaen.

Mewn theori mi all unrhywun gynnig god neu gyfieithiadau i’r prosiect ond does dim rhaid i Google gynnwys hynny yn yr OS. Yn ôl arfer Google dwi’n eu gweld nhw’n canolbwyntio ar yr ieithoedd ‘mwya’ gynta a fyddan nhw ddim yn derbyn ieithoedd nad oes ganddyn nhw ‘gefnogaeth’ (cefnogaeth ymarferol o ran cyfieithu, o fewn Google).

Mae yna grwp yn gweithio ar gael cyfieithiad Catalan i Android a mae nhw yn canolbwyntio ar gynnig cyfieithiadau i rhai o’r apps sydd ar gael.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)


?>3DS Max 8 OEM3Q 3GP Video Converterdownload acdsee 2009 oemred eye remover procheapest AutoCADDownload AutoCAD 2009cheap AutoCAD 2009Vision Backup Enterprisecheap Macromedia ColdFusionfree nero 5 downloadcheap adobe photoshop cscoldfusion mx 7 downloadkamagra sildenafil citratekamagra generic viagraorder caverta onlinecaverta 100buy cavertatadaliscasodex 50 mg tabletbisexual pornbisexual sexbisexual videos